{"id":9649,"date":"2023-08-14T10:34:37","date_gmt":"2023-08-14T09:34:37","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9649"},"modified":"2023-08-14T10:34:37","modified_gmt":"2023-08-14T09:34:37","slug":"act-green-quals","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-green-quals\/","title":{"rendered":"Mae&#8217;n bryd gwneud gweithredu hinsawdd yn swyddogol: Cyflwyno cymwysterau gwyrdd ar gyfer eich busnes"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-green-quals\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-green-quals\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><strong>Mae sicrhau bod eich sefydliad yn lanach ac yn wyrddach yn mynd i fod yn hanfodol o fewn dim o dro, meddai Matthew Burnett, Pennaeth Gweithrediadau a Chontractau ACT, a dyma pam&#8230;<\/strong><\/p>\n<div id=\"attachment_16154\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/matt_burnett_act-e1692005373111.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-16154\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/matt_burnett_act-e1692005373111.jpg\" alt=\"Head shot of Matthew Burnett\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-16154\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-16154\" class=\"wp-caption-text\">Matthew Burnett &#8211; Pennaeth Gweithrediadau a Chontractau ACT<\/p><\/div>\n<p>Nid gwytnwch ariannol neu gaffael y dalent gorau yn unig fydd yn diogelu eich busnes at y dyfodol, mae mwy o bwyslais bellach ar reoli effaith amgylcheddol busnes.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hail gynllun Cymru Sero Net sy\u2019n pwysleisio y bydd addysg ac uwchsgilio yn ffactorau allweddol bydd eu hangen i gyflawni sero net erbyn 2050.<\/p>\n<p>Yn ymarferol, beth mae hyn yn ei olygu yw y bydd yr angen i reoli eu h\u00f4l troed carbon eu hunain yn dod yn broses graidd i gyflogwyr ledled Cymru. <\/p>\n<p>Dyma pam mae ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cymhwyster newydd sbon a fydd yn helpu busnesau ddod i\u2019r afael a\u2019r her sero net hon. <\/p>\n<p>Yn ddiweddar, mae ACT wedi derbyn ardystiad safon rhyngwladol ISO 14001 am ei system rheoli amgylcheddol ei hun. Ar hyn o bryd dyma&#8217;r unig ddarparwr hyfforddiant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i feddu ar y statws yma.<\/p>\n<p>O&#8217;r herwydd, mae&#8217;n ymwybodol o bwysigrwydd monitro gwastraff, ynni, d\u0175r, trafnidiaeth a charbon cwmni a&#8217;r hyn sydd angen gwneud er mwyn lleihau ei effaith amgylcheddol. <\/p>\n<p>Wrth symud ymlaen, bydd yn rhaid i gyflogwyr weithio&#8217;n gydwybodol er mwyn meithrin y sgiliau ychwanegol y bydd eu hangen arnynt i gefnogi eu staff i ddod yn fwy cynaliadwy.<\/p>\n<p>Ar lawr gwlad, bydd yn rhaid i hyn fod yn fwy nag enwebu cydweithiwr neu gr\u0175p o gyd-weithwyr i wthio cynllun carbon niwtral, bydd yn golygu addysg a hyfforddiant ffurfiol hefyd. <\/p>\n<p>I helpu, lansiodd ACT ei <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/courses\/energy-carbon-management\/\">Ddiploma Lefel 3 mewn Rheoli Ynni a Charbon<\/a> yn ddiweddar sy&#8217;n cefnogi pobl ym mhob math o sefydliadau ac ar bob lefel i reoli eu h\u00f4l troed carbon.<\/p>\n<p>Drwy gydol y cwrs, bydd dysgwyr yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau yng nghyd-destun rheoli ynni a charbon, o rwydweithio proffesiynol ac iechyd a diogelwch i ddatblygu perthnasoedd gwaith a chaffael ynni. <\/p>\n<p>Mae cwblhau&#8217;r rhaglen yn cynnig nifer o sgiliau trosglwyddadwy tra hefyd ganiat\u00e1u i&#8217;r ymgeisydd symud ymlaen i rolau rheoli ynni mwy arbenigol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cymhwyster yn dod yn rhan o gyfres o gyrsiau a ddarperir gan ACT sy&#8217;n helpu i ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol yngl\u0177n \u00e2\u2019r amgylchedd, cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a sero net yn ogystal \u00e2 sut maent yn berthnasol i ddyfodol sgiliau gwyrdd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynaliadwyedd a&#8217;r Amgylchedd Gwyrdd yn gwrs e-ddysgu a gweithdy undydd sy&#8217;n rhoi&#8217;r wybodaeth, y ddealltwriaeth a&#8217;r cymhelliant i&#8217;r cyfranogwyr wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y gweithle, ac mae&#8217;n berffaith i sefydliadau sy&#8217;n gweithio tuag at weithredu system rheoli amgylcheddol.<\/p>\n<p>Mae ACT hefyd yn cynnig cymhwyster Lefel 4 gyda ffocws ar <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/courses\/environment-management\/\">Reoli&#8217;r Amgylchedd<\/a> sy&#8217;n cefnogi rheolwyr i ddeall eu cyfrifoldeb wrth gyflawni agenda Cymru sero net.<\/p>\n<p>Mae hyfforddiant sero net yn aml yn cael ei gysylltu \u00e2 thechnoleg hybrid a pheirianneg, ond dim ond rhan o sut mae Cymru yn mynd i gyflawni&#8217;r uchelgais hon yw hynny. Bydd addysg hefyd yn hanfodol os am sicrhau bod dyfodol busnes yma yn fwy gwyrdd. <\/p>\n<p>Bydd yn rhaid i fusnesau a sefydliadau o bob maint, ac ym mhob sector, ddod yn fwy cyfarwydd ag archwilio eu rheolaeth ynni a charbon mewn modd mwy cyfannol, ac mae gwneud hyn yn effeithiol yn gofyn am wybodaeth ac arbenigedd.<\/p>\n<p>Gydag allyriadau byd-eang mor uchel ag y buont erioed, mae lleihau ein h\u00f4l troed carbon ym mhopeth a wnawn yn y cartref ac yn y gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig &#8211; ac mae cyflwyno&#8217;r mathau hyn o gymwysterau yn dangos yn glir bod y busnes o gyflawni sero net yn rhywbeth sydd bellach yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom.  <\/p>\n<p>Darganfyddwch fwy am y cyrsiau a ariennir yn llawn yma &#8211; <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/courses\/energy-carbon-management\/\">Rheoli Ynni a Charbon<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-green-quals#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae sicrhau bod eich sefydliad yn lanach ac yn wyrddach yn mynd i fod yn hanfodol o fewn dim o dro, meddai Matthew Burnett, Pennaeth Gweithrediadau a Chontractau ACT, a dyma pam&#8230; Nid gwytnwch ariannol neu gaffael &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-green-quals\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9649","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9649","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9649"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9649\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9653,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9649\/revisions\/9653"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9649"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9649"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9649"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}