{"id":9703,"date":"2023-09-28T08:00:35","date_gmt":"2023-09-28T07:00:35","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9703"},"modified":"2023-11-03T18:49:21","modified_gmt":"2023-11-03T18:49:21","slug":"act-news-sept23","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-news-sept23\/","title":{"rendered":"Cwrs yn cynnig cychwyn cadarn i ddysgwr sydd wrth ei bodd yn trin gwallt"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/act-news-sept23\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-news-sept23\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Os ydych chi&#8217;n chwilio am yrfa sy&#8217;n cynnig cyfle i chi ymarfer eich dawn greadigol a rhoi hwb hirdymor i hyder a lles eich cleientiaid, efallai yr hoffech ystyried trin gwallt.<\/p>\n<div id=\"attachment_16257\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/ACT_Darla_Charlotte-e1695214013461.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-16257\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/ACT_Darla_Charlotte-e1695214013461.jpg\" alt=\"Apprentice Darla cutting hair with her tutor Charlotte\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-16257\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-16257\" class=\"wp-caption-text\">Darla, y prentis, gyda&#8217;i thiwtor Charlotte yn y salon.<\/p><\/div>\n<p>Mae trin gwallt yn cynnwys llawer o sgiliau trosglwyddadwy ac mae&#8217;n aml yn cael ei chyfrif yn un o&#8217;r gyrfaoedd hapusaf a mwyaf boddhaus yn y byd.<\/p>\n<p>Os ydych yn ystyried cychwyn eich taith yn y sector ond heb wybod ble i ddechrau, mae Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig y cwrs delfrydol.<\/p>\n<p>Mae cymhwyster y darparwr hyfforddiant, ACT, <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/courses\/hairdressing-barbering\/\">Trin Gwallt a Gwaith Barbwr, Lefel 1<\/a>, yn cael ei gyflwyno mewn salonau ac mae&#8217;n cynnig amrywiaeth o sgiliau yn cynnwys technegau sylfaenol, cymorth gyda lliwio, a sut i godi&#8217;r gwallt i edrych yn berffaith.  Mae dysgwyr yn elwa ar brofiad ymarferol, gan weithio llawn amser ar leoliad, a hynny&#8217;n arwain at brentisiaeth.<\/p>\n<p>Un dysgwr sy&#8217;n elwa ar y cymorth a gynigir a&#8217;r sgiliau a ddysgir ar y rhaglen yw Darla Wathen o Gaerdydd.<\/p>\n<p>Bu gan Darla ddiddordeb mewn gwallt erioed ac mae&#8217;r cymhwyster yn ffordd wych o ddysgu&#8217;r sgiliau angenrheidiol i symud ymlaen yn y diwydiant, yn ogystal \u00e2 magu hyder mewn salon.<\/p>\n<p>Mae ar leoliad mewn salon leol, Henderson &#038; Co.  Mae&#8217;n cael ei chefnogi hefyd gan diwtor ACT, Charlotte Sims.<\/p>\n<p><strong>Yn \u00f4l Darla:<\/strong>  \u201cFy hoff beth am y lleoliad yw nad yw\u2019n teimlo fel mynd i&#8217;r gwaith \u2013 mae fel mynd at fy ail deulu.  Rwy wrth fy modd \u00e2&#8217;r cyngor y mae gwahanol steilwyr yn ei roi.  Rwy&#8217;n dysgu ac yn datblygu bob dydd.\u201d<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 dysgu sgiliau a thechnegau, mae Darla wedi dod yn llawer mwy hyderus. Meddai: <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae cefnogaeth fy nhiwtoriaid yn ACT wedi bod yn hollol anhygoel.  Pan ddois i at ACT, ro&#8217;n  i&#8217;n meddwl na fyddwn i&#8217;n gwneud dim gyda fy mywyd, ond fe wnaeth Charlotte fy helpu a gwneud i mi gredu ynof fi fy hun.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cRo&#8217;n i&#8217;n berson pryderus iawn ac yn ofnadwy o nerfus am fynd i gyfweliadau, ond helpodd Charlotte fi i fod y fersiwn orau ohonof fy hun.  Hebddi hi, fyddwn i ddim lle rydw i nawr.\u201d<br \/>\nMae Darla&#8217;n edrych ymlaen at ennill cymwysterau llawn trin gwallt ac mae&#8217;n awyddus i ddal ati i rannu ei chariad at wallt gyda chleientiaid.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd y tiwtor Charlotte Sims:<\/strong><br \/>\n\u201cPan ddechreuodd Darla yn ACT ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+, roedd ganddi lawer o botensial ond ychydig iawn o hyder ynddi hi ei hun.  Cafodd Darla rai problemau ar y dechrau ond, ar \u00f4l dod yn gyfarwydd \u00e2&#8217;r ganolfan a&#8217;r staff, dangosodd ei bod yn ddysgwr rhagorol.<\/p>\n<p>\u201cMae Darla bob amser wedi ymdrechu 100% mewn unrhyw dasgau rydyn ni\u2019n gofyn iddi eu gwneud ac roedden ni\u2019n gwybod y byddai\u2019n gaffaeliad i ryw salon gan ei bod yn amlwg o\u2019r diwrnod cyntaf bod ganddi ddawn naturiol i drin gwallt.<\/p>\n<p>\u201cDaethon ni ar draws Henderson &#038; Co ac, ar \u00f4l siarad \u00e2 pherchennog y salon, Kellie, roedden ni\u2019n gwybod y byddai Darla\u2019n cael cyfle anhygoel trwy fynd yno ar leoliad.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r salon wedi&#8217;i chymryd o dan ei hadain, wedi ei chefnogi trwy ei holl hyfforddiant ac wir yn gwerthfawrogi ei chyfraniad i\u2019r busnes.<\/p>\n<p>\u201cMae Darla&#8217;n symud ymlaen trwy ei chwrs yn wych, ac mae&#8217;r holl staff mor falch ohoni ac wedi&#8217;u plesio o weld pa mor bell mae wedi dod.<\/p>\n<p>\u201cMae gan Darla ddyfodol ardderchog o\u2019i blaen ac rydyn ni&#8217;n llawn cyffro drosti.\u201d<\/p>\n<p><strong>Meddai Mary Foley o ACT, asesydd Darla ar y cwrs:<\/strong><br \/>\n\u201cPan ddechreuodd Darla ar y rhaglen roedd ganddi rai rhwystrau i\u2019w goresgyn a doedd y sector addysg ddim wedi gwneud tegwch \u00e2 hi. Unwaith y daeth yn gyfarwydd \u00e2 threfn a staff ACT, dechreuodd ddod allan o&#8217;i chragen a dangos bod ganddi botensial mawr.<\/p>\n<p>\u201cRoedd Darla braidd yn nerfus mewn salon i ddechrau gan ei fod yn brofiad dieithr ond dyna\u2019r peth gorau a wnaeth achos mae wedi rhagori ers hynny.  Mae Darla wedi dangos, trwy benderfyniad, gwaith caled ac angerdd dros y diwydiant gwallt, bod modd goresgyn y rhwystrau hyn. Gwelwyd hyn hefyd yn y cynnydd a wnaeth gyda\u2019i chymhwyster NVQL1 Trin Gwallt gan ei bod wedi ei gwblhau mewn dim ond chwe mis!<\/p>\n<p>\u201cMae Darla wedi cael cynnig prentisiaeth trin gwallt Lefel 2 gyda Henderson &#038; Co. Rydw i mor falch o Darla a\u2019r cyfan mae hi wedi\u2019i gyflawni gydag ACT, mae hi\u2019n gaffaeliad gwych i\u2019r salon ac mae ganddi yrfa ardderchog o\u2019i blaen.\u201d<\/p>\n<p>Os ydych chi rhwng 16 ac 19 oed ac yr hoffech gael help i ddod o hyd i&#8217;ch gyrfa ddelfrydol, gallwch <a href=\"https:\/\/acttraining.org.uk\/?s=Jobs%20Growth%20Wales%2B&#038;type=course\">gofrestru ar gyfer Twf Swyddi Cymru+<\/a> unrhyw bryd yma.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/cymraeg.acttraining.org.uk\/\">ACT Training<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-news-sept23#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Os ydych chi&#8217;n chwilio am yrfa sy&#8217;n cynnig cyfle i chi ymarfer eich dawn greadigol a rhoi hwb hirdymor i hyder a lles eich cleientiaid, efallai yr hoffech ystyried trin gwallt. Mae trin gwallt yn cynnwys llawer &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/act-news-sept23\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9703","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9703","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9703"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9703\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9793,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9703\/revisions\/9793"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9703"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9703"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9703"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}