{"id":9711,"date":"2023-09-28T08:00:56","date_gmt":"2023-09-28T07:00:56","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9711"},"modified":"2023-11-03T18:49:21","modified_gmt":"2023-11-03T18:49:21","slug":"ccrsp-news-sept23","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ccrsp-news-sept23\/","title":{"rendered":"Gwarant i Bobl Ifanc"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ccrsp-news-sept23\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ccrsp-news-sept23\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/ypg_hero_CY-e1695219920730.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/ypg_hero_CY-e1695219920730.jpg\" alt=\"Logo - Gwarant i Bobl Ifanc\" width=\"460\" height=\"217\" class=\"alignleft size-full wp-image-9712\" \/><\/a><\/p>\n<p>Trwy Raglen Lywodraethu 2021-26, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflenwi <a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/sut-y-gallwn-ni-helpu\/gwarant-i-bobl-ifanc\">Gwarant i Bobl Ifanc<\/a> gyda\u2019r nod o sicrhau bod pawb o dan 25 oed, ledled Cymru, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn cael cynnig lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu gymorth i gychwyn mewn gwaith neu hunangyflogaeth.<\/p>\n<p>Mae llawer o elfennau yn eu lle i fod yn sylfaen gadarn ar gyfer llwyddiant y Warant i Bobl Ifanc, yn cynnwys rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru+, ReAct+, Cymunedau am Waith neu Brentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae\u2019r Warant yn ymdrechu i sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yn unman yng Nghymru, ac mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PSPRC) wedi cefnogi\u2019r broses gyflwyno trwy gynnal ymchwil desg i ganfod yr holl brosiectau a rhaglenni sydd eisoes yn cefnogi pobl ifanc ledled y de-ddwyrain ac i gael gwell dealltwriaeth o\u2019r sefyllfa yn y rhanbarth. Yn ogystal, mae PSPRC wedi defnyddio&#8217;i rhwydweithiau ac wedi cynnal gwahanol ddigwyddiadau ymgysylltu er mwyn annog cydweithio ac fel rhan o ethos \u2018T\u00eem Cymru\u2019. <\/p>\n<p>Yn fwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol y Warant, <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cyfres-z-cenhedlaeth-gwarant-person-ifanc-adroddiad-blynyddol-2022\">\u2018Cyfres Z cenhedlaeth Gwarant Person Ifanc: adroddiad blynyddol 2022\u2019<\/a> (sic). Dyma&#8217;r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau eleni a fydd yn darparu data ansoddol a meintiol ynghyd \u00e2 dadansoddiad. Mae\u2019r adroddiad yn rhoi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau sydd ar y gweill i helpu pobl rhwng 16 a 24 oed i ganfod addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ac mae\u2019n nodi sut y cymerwyd camau i wella\u2019r broses o ganfod pobl ifanc y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt. <\/p>\n<p>Bydd PSPRC yn dal i gefnogi rhaglen flaengar y Warant a bydd yn hybu cefnogaeth i Gr\u0175p Cynghori rhanbarthol y Warant a fydd yn rhoi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ac yn dylanwadu arnynt.<\/p>\n<p>Yn gysylltiedig \u00e2\u2019r Warant, mae PSPRC yn gobeithio paratoi fersiwn \u2018hawdd ei darllen\u2019 o&#8217;r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau strategol, wedi\u2019i hanelu at bobl iau. Efallai y cynhyrchir fideos wedi\u2019u hanimeiddio ar sail y fersiwn \u2018hawdd ei darllen\u2019 i dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael ar draws sectorau allweddol y rhanbarth.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/CCRSP-Logo-e1695219668232.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/CCRSP-Logo-e1695219668232.png\" alt=\"Cardiff Capital Region logo\" width=\"460\" height=\"184\" class=\"alignleft size-full wp-image-16270\" \/><\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiffcapitalregion.wales\/cy\/\">Prifddinas-Ranbarth Caerdydd<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ccrsp-news-sept23#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Trwy Raglen Lywodraethu 2021-26, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflenwi Gwarant i Bobl Ifanc gyda\u2019r nod o sicrhau bod pawb o dan 25 oed, ledled Cymru, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn cael &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ccrsp-news-sept23\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9711","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9711","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9711"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9711\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9735,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9711\/revisions\/9735"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9711"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9711"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9711"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}