{"id":9858,"date":"2023-10-19T12:31:19","date_gmt":"2023-10-19T11:31:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9858"},"modified":"2023-11-03T18:49:31","modified_gmt":"2023-11-03T18:49:31","slug":"wg-budget-cuts-23-24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wg-budget-cuts-23-24\/","title":{"rendered":"NTFW yn tanlinellu pwysigrwydd rhaglenni Prentisiaethau a ReAct+"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"> <id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wg-budget-cuts-23-24\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wg-budget-cuts-23-24\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i leihau \u00a317.5m ar gyllid prentisiaethau a arweinir gan y galw, \u00a35.3m ar gyllid y rhaglen React+ ac \u00a38.5m ar y gyllideb ar gyfer darpariaeth o\u0302l-16, o ganlyniad i &#8220;ragolygon diwygiedig&#8221;.<\/p>\n<div id=\"attachment_15455\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/23.06.22-mh-Lisa-Mytton-36-scaled-e1670494230179.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-15455\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/23.06.22-mh-Lisa-Mytton-36-scaled-e1670494230179.jpg\" alt=\"head shot of Lisa Mytton\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-15455\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-15455\" class=\"wp-caption-text\">Lisa Mytton, NTFW Cyfarwyddwr Strategol<\/p><\/div>\n<p>Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn gorfod diwygio Cyllideb 2023-2024 er mwyn diogelu gwasanaethau craidd i&#8217;r cyhoedd ar \u00f4l gwario mwy nag y bwriadwyd oherwydd lefelau hir o chwyddiant, codiadau yn nh\u00e2l y sector cyhoeddus a&#8217;r argyfwng costau byw. <\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n anochel y bydd gan rai arbedion effeithiau negyddol tebygol,&#8221; yn \u00f4l datganiad gan Lywodraeth Cymru ar y gyllideb. &#8220;Ym mhob achos, rydym wedi gweithio&#8217;n galed i gynnal cyllid ac i gymryd camau lliniaru lle bo modd, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i leihau effeithiau.<\/p>\n<p>&#8220;Canfuwyd y rhan fwyaf o&#8217;r arbedion o bortffolio&#8217;r Economi o ganlyniad i ragolygon diwygiedig neu o dderbyniadau incwm untro, yn ymwneud a\u0302 (thechnolegau) digidol, incwm yr UE neu werthiannau eiddo,&#8221; meddai Llywodraeth Cymru. &#8220;Byddwn yn parhau i fonitro&#8217;r cyllid hwn yn agos yng ngoleuni&#8217;r cyd-destun sy&#8217;n newid o safbwynt yr economi a&#8217;r farchnad lafur.\u201d<\/p>\n<p>Daw&#8217;r toriadau yn y gyllideb ar \u00f4l cyhoeddi adolygiad hirddisgwyliedig o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru yn ddiweddar a arweiniodd at ymrwymiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, i wneud yn si\u0175r bod cydraddoldeb rhwng llwybrau dysgu galwedigaethol ac academaidd yng Nghymru.&#8221;<\/p>\n<p> \u201cBydd gwella darpariaeth cymwysterau galwedigaethol sydd wedi&#8217;u gwneud i Gymru, a\u2019r ystod sydd ar gael, yn hollbwysig er mwyn gofalu ein bod ni&#8217;n diwallu anghenion economi Cymru i\u2019r dyfodol, gan gynnig cyfleoedd i\u2019n myfyrwyr ar yr un pryd i ennill y sgiliau a\u2019r cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw,\u201d meddai.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd cyfarwyddwr strategol NTFW, Lisa Mytton: <\/strong><br \/>\n\u201cEr ein bod yn cydnabod yr heriau ariannol sy\u2019n wynebu Llywodraeth Cymru, rhaid cofio bod prentisiaethau&#8217;n ein helpu i ddatblygu gweithlu deinamig a hyblyg, i lenwi bylchau mewn sgiliau ac i gefnogi byd busnes a thwf economaidd yng Nghymru. <\/p>\n<p> \u201cRoedden ni yn NTFW wrth ein bodd yn ddiweddar pan wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg gydnabod bod addysg alwedigaethol yn ganolog i ddewis gyrfa, datblygiad cyflogwyr a thwf economaidd, a&#8217;i bod yr un mor werthfawr gan bawb. <\/p>\n<p> \u201cMae Prentisiaethau a&#8217;r rhaglen ReAct+ yn rhan hanfodol o\u2019r economi, ac maent o gymorth hefyd i rai o bobl ifanc mwyaf difreintiedig ein cymdeithas. Ein gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru&#8217;n parhau i gydnabod hynny.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/diweddariad-ar-sefyllfa-ariannol-2023-2024-crynodeb-or-prif-newidiadau-html\">Llywodraeth Cymru: Diweddariad ar sefyllfa ariannol 2023-2024<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wg-budget-cuts-23-24#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i leihau \u00a317.5m ar gyllid prentisiaethau a arweinir gan y galw, \u00a35.3m ar gyllid y rhaglen React+ ac \u00a38.5m ar y gyllideb ar gyfer darpariaeth o\u0302l-16, o ganlyniad i &#8220;ragolygon diwygiedig&#8221;. &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wg-budget-cuts-23-24\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9858","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9858","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9858"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9858\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9862,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9858\/revisions\/9862"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9858"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9858"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9858"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}