{"id":9879,"date":"2023-11-03T18:39:28","date_gmt":"2023-11-03T18:39:28","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9879"},"modified":"2023-11-06T14:24:00","modified_gmt":"2023-11-06T14:24:00","slug":"worldskillsuk-welsh-finalists-23","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskillsuk-welsh-finalists-23\/","title":{"rendered":"Dros 100 yn chwifio\u2019r faner dros Gymru yng nghystadleuaeth sgiliau DU"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/worldskillsuk-welsh-finalists-23\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskillsuk-welsh-finalists-23\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Bydd gan Gymru d\u00eem o 112 o fyfyrwyr ifanc a phrentisiaid yn cystadlu i fod ar y brig yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/WSUK-National-Finals-23-e1699280567640.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/WSUK-National-Finals-23-e1699280567640.png\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"alignleft size-full wp-image-16497\" \/><\/a><\/p>\n<p>O\u2019r 442 ar draws y DU, cafodd y 112 aelod o d\u00eem Cymru eu dewis yn dilyn eu perfformiad yn ystod cyfres o gystadlaethau rhanbarthol herio, ac eleni, mae chwarter o gystadleuwyr y rowndiau terfynol yn Gymry.<\/p>\n<p>Bydd y cystadleuwyr llwyddiannus yn cystadlu ar gyfer medalau aur, arian ac efydd drwy gydol mis Tachwedd, gyda 50 o rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn cael eu cynnal mewn naw o leoliadau amrywiol.<\/p>\n<p>Daw\u2019r cystadlu i ben gyda seremoni i ddathlu ym Manceinion Fwyaf, \u00e2\u2019r enillwyr yn cael eu coroni fel y goreuon yn eu crefft.<\/p>\n<p>O Electroneg Ddiwydiannol yn Abertawe i Patisserie a Melysion yng Nghaerdydd a Cynnal a Chadw Awyrennau yng Nglannau Dyfrdwy, bydd pobl ifanc ar draws Gymru yn profi eu sgiliau mewn 37 o gategor\u00efau gwahanol.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 rhoi hwb i\u2019w sgiliau a\u2019u hyder, gall cystadleuwyr sy\u2019n gwneud argraff dda o dan bwysau\u2019r rownd terfynol cenedlaethol gael y cyfle i gynrychioli\u2019r DU yn y \u201cGemau Olympaidd Sgiliau\u201d yn Shanghai 2026. <\/p>\n<p><strong>Mae Saskia Prothero o Ben-y-bont yn cystadlu yng ngategori Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dywedodd hi:<\/strong><br \/>\n\u201cMae bod ar restr fer rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn deimlad anhygoel. Rwyf wedi bod yn gweithio\u2019n galed drwy\u2019r flwyddyn, felly mae cael y cyfle i arddangos fy sgiliau i weithwyr proffesiynol yn fy maes yn anrhydedd. <\/p>\n<p>Mae\u2019r cystadlaethau wedi rhoi\u2019r hyder imi fwrw ymlaen gyda fy ngyrfa, ac rwyf wedi cyfarfod nifer o ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Rwyf wedi ennill profiad ymarferol go iawn, ac rwyf yn gobeithio fy mod wedi llwyddo i wneud digon i gystadlu\u2019n rhyngwladol yn y blynyddoedd i ddod.\u201d<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r cystadlu, bydd cystadleuwyr ac ymwelwyr hefyd yn gallu siarad \u00e2 chyflogwyr ac arbenigwyr diwydiant er mwyn cael cyngor ac arweiniad tra\u2019n mynychu\u2019r digwyddiadau.<\/p>\n<p>Bydd cyfle i\u2019r rheini na all fod yn bresennol yn y digwyddiadau ym Manceinion i wylio ar ddarllediad arbennig ar-lein, a fydd yn cynnwys cystadlu yn ogystal \u00e2 chyfweliadau a chyngor gan enillwyr blaenorol, arbenigwyr a chynghorwyr gyrfaoedd. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Paul Evans, Cyfarwyddwr Prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Cymru:<\/strong><br \/>\n\u201cHoffwn longyfarch y cystadleuwyr o Gymru sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol. Rydym yn hynod o falch bod gennym gymaint o bobl ifanc talentog yn cynrychioli Cymru a\u2019n gweithlu medrus.<\/p>\n<p>\u201cOs ydych am ddod i\u2019r digwyddiad neu am ei wylio ar-lein, rydym yn gobeithio y bydd y rowndiau terfynol yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i gymryd rhan a datblygu eu sgiliau i safon fyd-eang. <\/p>\n<p>Rydw i a th\u00eem Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru yn dymuno pob lwc i holl gystadleuwyr y rowndiau terfynol. Da iawn, pawb!\u201d <\/p>\n<p>Mae rhaglenni datblygu WorldSkills UK, sy\u2019n seiliedig ar gystadleuaeth, wedi\u2019u cynllunio gan arbenigwyr yn y diwydiant i arfogi pobl ifanc, gan gynnwys y rheini ag anableddau dysgu neu anghenion ychwanegol, \u00e2\u2019r sgiliau i fod yn barod at waith. <\/p>\n<p>Mewn arolwg a gynhaliwyd gan ymgeiswyr blaenorol, dywedodd 90% bod eu cyfle i gamu ymlaen yn eu gyrfa wedi gwella, ac 86% yn nodi bod eu sgiliau cyflogadwyedd a rhai personol wedi gwella ar \u00f4l cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru: <\/strong><br \/>\n\u201cFel cenedl, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cenedlaethau\u2019r dyfodol, ac mae cystadlaethau sgiliau yn ffordd effeithiol o uwchsgilio pobl ifanc a\u2019u harfogi \u00e2\u2019r sgiliau i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn y dyfodol. <\/p>\n<p>\u201cMae llwyddiant ein cystadleuwyr o Gymru bob blwyddyn yn tynnu sylw at y dalent a\u2019r potensial sydd yma yng Nghymru, yn ogystal \u00e2\u2019r cyfarwyddiad a\u2019r hyfforddiant o\u2019r safon uchaf maent yn eu cael. Mae cystadlaethau yn cynyddu\u2019r broses o ddarparu a datblygu sgiliau ar hyd a lled y genedl yn sylweddol.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r rhaglen WorldSkills yn helpu i ddarparu gweithlu talentog sy\u2019n barod ar gyfer y dyfodol drwy ddarparu cyfle iddynt feistroli eu sgiliau ymarferol mewn awyrgylch cystadleuol, gan dynnu sylw at eu potensial ar lwyfan byd-eang.\u201d<\/p>\n<p><strong><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/WorldSkills-UK-finalists-Nov-23.xlsx\">Cystadleuwyr rownd derfynol Cymru (excel doc)<\/a><\/strong><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/inspiringskills.gov.wales\/\">Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskillsuk-welsh-finalists-23#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bydd gan Gymru d\u00eem o 112 o fyfyrwyr ifanc a phrentisiaid yn cystadlu i fod ar y brig yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK. O\u2019r 442 ar draws y DU, cafodd y 112 aelod o d\u00eem Cymru &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskillsuk-welsh-finalists-23\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[21,11,18],"tags":[],"class_list":["post-9879","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cystadleuaeth-sgiliau-cymru","category-newyddion","category-worldskills-sioe-sgiliau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9879","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9879"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9879\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9889,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9879\/revisions\/9889"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9879"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9879"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9879"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}