{"id":9914,"date":"2023-11-21T13:08:30","date_gmt":"2023-11-21T13:08:30","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9914"},"modified":"2023-11-21T17:09:29","modified_gmt":"2023-11-21T17:09:29","slug":"worldskillsuk-winners-23","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskillsuk-winners-23\/","title":{"rendered":"T\u00eem Cymru yn Serennu mewn Cystadleuaeth Sgiliau Cenedlaethol"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/worldskillsuk-winners-23\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskillsuk-winners-23\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae T\u00eem Cymru wedi rhagori yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU eleni, gan hawlio cyfanswm o 51 o fedalau.<\/p>\n<div id=\"attachment_16552\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/World-Skills-1920x1080-1-e1700586431556.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-16552\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/World-Skills-1920x1080-1-e1700586431556.jpg\" alt=\"Tarran Spooner with his gold medal.\" width=\"460\" height=\"259\" class=\"size-full wp-image-16552\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-16552\" class=\"wp-caption-text\">Tarran Spooner a enillodd fedal aur mewn Electroneg Ddiwydiannol o Goleg G\u0175yr Abertawe.<\/p><\/div>\n<p>Allan o\u2019r 115 o gystadleuwyr o Gymru a gymerodd ran, enillodd T\u00eem Cymru 8 medal aur, 21 o fedalau arian, 15 medal efydd, a 7 a dderbyniodd gymeradwyaeth uchel. Mewn arddangosfa o ragoriaeth eithriadol, mae eu perfformiad yn golygu bod 40% o gystadleuwyr Cymru bellach wedi\u2019u rhestru yn nhabl terfynol cynghrair eleni.<\/p>\n<p>Ymhlith y colegau gorau yn y Deyrnas Unedig, roedd sefydliadau fel Gr\u0175p Llandrillo Menai, Coleg Sir Benfro, a Choleg Gwent. Mae eu dewis fel un o&#8217;r chwe choleg gorau yn y Deyrnas Unedig yn sail i&#8217;w rhaglenni hyfforddi eithriadol.<\/p>\n<p>Mae Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU yn gystadleuaeth i dros 400 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a\u2019r Alban, ac maen nhw\u2019n cystadlu mewn cyfres o heriau i gael eu henwi orau yn y DU yn eu sgil galwedigaethol \u2013 o gynnal a chadw awyrennau i wneud melysion a choginio teisennau, i wyddoniaeth fforensig.<\/p>\n<p>Mae WorldSkills UK yn cefnogi pobl ifanc i gystadlu mewn cystadlaethau sgiliau i arddangos yr arferion gorau yn rhyngwladol a chodi safonau sgiliau ar draws prentisiaethau ac addysg dechnegol.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 dod ar frig tabl y gynghrair mewn sawl categori, ffynnodd T\u00eem Cymru yn y cystadlaethau Sgiliau Sylfaenol. Ar \u00f4l cipio cyfanswm o 9 medal, mae\u2019r cystadlaethau Sgiliau Sylfaenol yn arddangos sgiliau myfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth ddysgu.<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd y canlyniadau swyddogol mewn seremoni fedalau yn Neuadd Bridgewater ym Manceinion, gyda\u2019r ddinas hefyd yn cynnal cyfres o gystadlaethau cenedlaethol mewn colegau, prifysgolion a gyda darparwyr hyfforddiant annibynnol.<\/p>\n<p><strong>Eleni, fe enillodd Ella Clements, o Aberaeron, fedal Arian yn y categori \u2018Gwasanaethau Bwyty\u2019. Dywedodd:<\/strong><br \/>\n\u201cRoedd ennill medal Arian yn WorldSkills y DU yn brofiad anhygoel! Ni allaf ddechrau disgrifio\u2019r anrhydedd a deimlais.<\/p>\n<p>\u201cMae cymryd rhan a pharatoi ar gyfer y cystadlaethau sgiliau wedi dysgu cymaint i mi, mae wedi dangos i mi beth mae gweithio\u2019n galed yn gallu ei gyflawni. Mae\u2019r cystadlaethau wedi agor drysau a llwybrau i ehangu fy ngyrfa ac wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau, sydd wedi fy ysbrydoli i lwyddo.\u201d<\/p>\n<p><strong>Enillodd Rhys Rapado-Evans fedal Aur yn y categori cystadleuaeth Sgiliau Sylfaenol: Garddwriaeth. Dywedodd: <\/strong><br \/>\n\u201cRwy\u2019n teimlo\u2019n hynod o falch o fod wedi ennill medal Aur yn rowndiau terfynol y DU. Dyma\u2019r eildro i mi ennill Aur, ar \u00f4l ennill un hefyd yn nigwyddiad rhanbarthol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.<\/p>\n<p>\u201cOnd nid ennill yw popeth i mi, rwy\u2019n cymryd rhan yn y cystadlaethau i ddatblygu fy sgiliau a\u2019m hyder. Y fantais fwyaf yw fy mod yn parhau i ddysgu i&#8217;m paratoi ar gyfer fy nyfodol.&#8221;<\/p>\n<p>Lywodraeth Cymru a\u2019i redeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, nod WorldSkills y DU yw ysbrydoli ac uwchsgilio cenedlaethau\u2019r dyfodol drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc wrth ddathlu eu cyflawniadau.<\/p>\n<p>Mae cystadlaethau&#8217;n cychwyn ar lefel ranbarthol gyda Chystadleuaeth Sgiliau Cymru a gydlynir gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, ac yn symud ymlaen i gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:<\/strong><br \/>\n\u201cMae\u2019n bleser mawr gen i longyfarch T\u00eem Cymru ar eu llwyddiant rhyfeddol yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU. Mae T\u00eem Cymru unwaith eto wedi dangos eu rhagoriaeth, gan ddod i\u2019r amlwg fel cenedl lwyddiannus sydd wedi ennill 51 o fedalau, gan danlinellu ymroddiad a thalent ein gwlad.\u201d<\/p>\n<p>\u201cMae cystadlaethau sgiliau nid yn unig yn dathlu cyflawniadau unigol ond hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin talent pobl ifanc ledled Cymru i ddod yn weithwyr medrus yn y dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cRydym wedi ymrwymo i gefnogi\u2019r genhedlaeth nesaf, gan ddarparu cyfleoedd iddynt arddangos eu galluoedd, ehangu eu gorwelion a chael cydnabyddiaeth genedlaethol. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills y DU:\u201cMae\u2019n wych gweld T\u00eem Cymru\u2019n llwyddo yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU unwaith eto eleni.<\/p>\n<p>\u201cMae ein rowndiau terfynol yn dathlu\u2019r goreuon mewn talent ifanc ond hefyd yn gyfle hanfodol i weld sut mae\u2019r sgiliau sydd gennym yn y DU yn cyfateb yn ddomestig ac yn erbyn ein cymdogion rhyngwladol.<\/p>\n<p>\u201cBydd sgiliau yn parhau i fod yn allweddol i\u2019n gwahaniaethu wrth wneud busnes yn y DU a thramor a thrwy ein rhaglenni rydym yn gweithio i sicrhau y gall pob prentis a myfyriwr ar draws y DU gael mynediad i addysg dechnegol a phrentisiaethau o ansawdd uchel sy\u2019n arwain at lwyddiant gwirioneddol iddyn nhw a\u2019r DU hefyd.\u201d<\/p>\n<p>Am ragor o wybodaeth am WorldSkills y DU a sut i ddechrau\u2019r siwrnai fel cystadleuydd, tiwtor neu gyflogwr, ewch i: <a href=\"https:\/\/inspiringskills.gov.wales\/?lang=cy\">Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru<\/a>.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskillsuk-winners-23#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae T\u00eem Cymru wedi rhagori yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU eleni, gan hawlio cyfanswm o 51 o fedalau. Allan o\u2019r 115 o gystadleuwyr o Gymru a gymerodd ran, enillodd T\u00eem Cymru 8 medal aur, 21 &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/worldskillsuk-winners-23\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[5,18],"tags":[],"class_list":["post-9914","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-news","category-worldskills-sioe-sgiliau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9914","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9914"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9914\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9918,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9914\/revisions\/9918"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9914"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9914"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9914"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}