{"id":9966,"date":"2023-12-14T07:00:34","date_gmt":"2023-12-14T07:00:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=9966"},"modified":"2023-12-09T15:01:43","modified_gmt":"2023-12-09T15:01:43","slug":"isa-dec-23","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/isa-dec-23\/","title":{"rendered":"Sut y Gall Salonau yng Nghymru Ddefnyddio Prentisiaethau i Oresgyn Heriau Recriwtio"},"content":{"rendered":"<p><id=\"top\"><id=\"cymraeg\"><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/isa-dec-23\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/isa-dec-23\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Ym marn perchnogion salonau, mae pandemig Covid-19 a\u2019r argyfwng costau byw yn ddau ffactor mawr sy\u2019n amharu ar eu gallu i recriwtio staff newydd. <\/p>\n<div id=\"attachment_16632\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/ISA-Oli-Tracey-e1701433575916.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-16632\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/ISA-Oli-Tracey-e1701433575916.png\" alt=\"Oli Tracey, Level 3 Hairdressing Apprentice Slunks Salon, Cardiff\" width=\"460\" height=\"258\" class=\"size-full wp-image-16632\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-16632\" class=\"wp-caption-text\">Oli Tracey, Prentis Trin Gwallt Lefel 3 o Salon Slunks, Caerdydd<\/p><\/div>\n<p>Roedd y pandemig yn golygu bod rhaid i salonau gau eu drysau am fisoedd er mwyn cydymffurfio \u00e2&#8217;r deddfau ynghylch cadw pellter cymdeithasol. Ac yn awr, mae&#8217;r argyfwng costau byw yn golygu na all rhai salonau fforddio hyfforddi staff newydd, ac efallai bod gweithwyr presennol yn chwilio am swyddi sy&#8217;n talu&#8217;n well y tu allan i&#8217;r sector gwallt a harddwch. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Donna Bowen-Anderson, Rheolwr Cyfrifon Cwsmeriaid gydag ISA: <\/strong><br \/>\n\u201cMae\u2019r syniad mai cyflog bach a gaiff prentisiaid yn her wirioneddol i recriwtio staff salonau. Mae\u2019n hollbwysig sicrhau bod dysgwyr yn deall y budd enfawr a all ddod o ddysgu sgil ym maes gwallt, harddwch a gwaith barbwr. Yn aml, mae&#8217;n arwain at ennill cyflogau uwch yn y dyfodol.\u201d <\/p>\n<p>Rydym yn ystyried yr heriau hyn ac yn esbonio sut y gall prentisiaethau helpu salonau i dyfu eu busnes. <\/p>\n<p><strong>1. Mae prentisiaethau&#8217;n opsiwn fforddiadwy i ddysgwyr <\/strong><br \/>\nGall chwalu&#8217;r rhwystrau sy&#8217;n atal pobl rhag gwneud prentisiaethau fod yn un o\u2019r camau cyntaf tuag at ehangu\u2019r ap\u00eal i ddarpar ddysgwyr. Gall astudio yn y brifysgol fod yn gostus. Mae&#8217;n anodd i lawer o fyfyrwyr ganfod cydbwysedd rhwng astudio a gwaith i&#8217;w cynnal eu hunain ac, yn aml, mae&#8217;n anodd cael swydd addas ar \u00f4l graddio. <\/p>\n<p>Mae ISA Training (rhan o&#8217;r Educ8 Training Group) yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau sy\u2019n cael eu hariannu\u2019n llawn gan Lywodraeth Cymru. Fel prif arbenigwr Cymru ym maes prentisiaethau gwallt, harddwch a gwaith barbwr, mae\u2019r cyrsiau hyn yn darparu sgiliau ymarferol, gydol oes, a all fod yn sylfaen ar gyfer adeiladu gyrfa wirioneddol lwyddiannus. <\/p>\n<p>Mae prentisiaethau&#8217;n gyfle i ddysgwyr gael gwaith ac ennill cyflog wrth ddysgu. Gall prentisiaid ddatblygu sgiliau newydd heb gymaint o ddyled ag a gysylltir gan amlaf \u00e2 gradd brifysgol, gyda\u2019r cyfle i symud ymlaen i swyddi \u00e2 chyflog uwch. <\/p>\n<p><strong>2. Mae prentisiaethau\u2019n hwb i salonau ddatblygu a recriwtio <\/strong><br \/>\nMae cymorth y tu allan i\u2019r salon yn ffordd wych o sicrhau bod prentisiaid yn cael addysg gyflawn, gan gyfuno eu profiad ymarferol \u00e2 gwybodaeth ddamcaniaethol. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r cymwysterau a ddarperir gan ISA Training yn cael eu rhedeg gan hyfforddwyr sydd \u00e2 chyfoeth o brofiad, sy&#8217;n weithgar yn y diwydiant ac sy&#8217;n gyfarwydd \u00e2&#8217;r tueddiadau a&#8217;r technegau diweddaraf ym maes gwallt a harddwch. Maent yn ymroi i gefnogi dysgwyr ym mhob agwedd ar eu hastudiaethau, gan helpu i leddfu rhywfaint o&#8217;r pwysau sydd ar berchnogion salonau. <\/p>\n<p>Gall fod yn her canfod ymgeiswyr sydd \u00e2&#8217;r sgiliau cywir \u2013 technegol, creadigol a gwasanaethau cwsmeriaid. Gan fod ISA&#8217;n gwybod cymaint am y sector, gall gefnogi&#8217;r gwaith o recriwtio prentisiaid trwy helpu i hysbysebu swyddi ar gyfer prentisiaid. Maent hefyd yn helpu cyflogwyr i gael cyllid trwy&#8217;r Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr sydd gan Lywodraeth Cymru, gan gefnogi dysgwyr ag anabledd i gael gwaith. <\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r cymorth y gall ISA ei roi i salonau, dywedodd Donna Bowen-Anderson, \u201cMae angen i berchnogion salonau ymdrechu i chwilio am brentisiaid, ystyried sut a ble maent yn ymgysylltu \u00e2 staff posibl a mynd ati&#8217;n angerddol i hyrwyddo&#8217;u busnes a\u2019r diwydiant.<br \/>\nMae\u2019n bwysig iawn codi llais, nid yn unig am y sgiliau technegol ond am y sgiliau bywyd gwerthfawr fel gwaith t\u00eem, cyfathrebu a datrys problemau a gynigir gan brentisiaethau.\u201d<\/p>\n<p><strong>3. Gall prentisiaethau helpu i gau bylchau sgiliau<\/strong><br \/>\nTrwy gyflogi prentis, yn ogystal \u00e2 meithrin a datblygu talentau newydd, mae perchnogion salonau&#8217;n gallu ymateb os oes bylchau sgiliau yn eu salon. <\/p>\n<p>Caiff prentisiaid ISA eu hannog i astudio gwaith barbwr yn ogystal \u00e2 thrin gwallt er mwyn ehangu eu cyfleoedd ac apelio at ragor o gwsmeriaid. Gall hyn roi mantais i salonau dros eu cystadleuwyr a gwella&#8217;u henw da, gan roi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau a chael hyfforddiant mewn meysydd eraill. <\/p>\n<p><strong>Dywedodd Oli Tracey, Prentis Trin Gwallt Lefel 3 a Llysgennad ISA o salon Slunks yng Nghaerdydd: <\/strong><br \/>\n\u201cMae fy mhrentisiaeth wedi rhoi\u2019r wybodaeth a\u2019r hyder i mi fynd allan i fyd gwallt a gwneud yn wych! Rwy wedi cael cefnogaeth anhygoel, nid yn unig gan fy hyfforddwr yn ISA ond hefyd gan holl gymuned a sefydliad ISA. Mae\u2019r cyfleoedd a gefais trwy gydol fy mhrentisiaeth yn fythgofiadwy.\u201d<\/p>\n<p>Cewch wybod mwy am y cymwysterau a gynigir gan <a href=\"https:\/\/www.isatraining.co.uk\/\">ISA Training<\/a> a pha gymorth y gallant ei roi i&#8217;ch salon. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/isa-dec-23#top\">yn \u00f4l i\u2019r brig>><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Ym marn perchnogion salonau, mae pandemig Covid-19 a\u2019r argyfwng costau byw yn ddau ffactor mawr sy\u2019n amharu ar eu gallu i recriwtio staff newydd. Roedd y pandemig yn golygu bod rhaid i salonau gau eu drysau am &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/isa-dec-23\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-9966","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9966","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9966"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9966\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9995,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9966\/revisions\/9995"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9966"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9966"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9966"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}