Cyflogwyr, dysgwyr a hyfforddwyr yn dod ynghyd ar gyfer yr Wythnos Brentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Apprentice Adam Cisse Bacongo

Adam Cisse Bacongo sy’n Brentis

Bydd busnesau, prentisiaid a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yn dod ynghyd yn ysgod yr Wythnos Brentisiaethau, Chwefror 7-13, i ddathlu’r lles y mae prentisiaethau’n ei wneud.

Bydd wythnos o ddigwyddiadau a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos sut y gall prentisiaethau roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i bobl ar gyfer gyrfa werth chweil a sut y gall busnesau ddatblygu gweithlu dawnus sydd â sgiliau parod ar gyfer y dyfodol.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy’n cynrychioli darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith ledled y wlad, wedi trefnu tri digwyddiad rhithwir yn ystod yr wythnos i ddangos pa mor amrywiol yw prentisiaethau.

Cynhelir y digwyddiadau, sydd am ddim, ar lein ar MS Teams. Cânt eu cyflwyno mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru a Cymru’n Gweithio, Engage to Change, Wates Construction a Thŷ’r Cwmnïau.

Bydd pob digwyddiad yn cynnwys gwybodaeth am brentisiaethau sydd ar gael, astudiaethau achos am gyflogwyr, y gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr, astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog a sesiwn holi ac ateb.

Cynhelir ‘Cefnogi Pobl Anabl i fynd yn Brentisiaid’ ddydd Mawrth, Chwefror 8, ‘Cefnogi Merched i fynd i’r Diwydiant Adeiladu’ ddydd Mercher, Chwefror 9 a ‘Cefnogi Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i fynd yn Brentisiaid’ ddydd Iau, Chwefror 10.

Os hoffech gofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn, pob un rhwng 10am ac 11am, o dan arweiniad Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW, ewch i: www.ntfw.org/wel/digwyddiadau/prentisiaethau-bawb

Dywedodd Humie: “Mae prentisiaethau’n ffordd wych o ennill cyflog a dysgu’r sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen. Mae’n gyffrous cael rhannu cyfleoedd am brentisiaethau a dangos sut mae cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn helpu pobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i fynd yn brentisiaid.

“Mae ein digwyddiadau Prentisiaethau i Bawb yn addas i unrhyw un sy’n chwilfrydig am brentisiaethau ac sydd am gymryd y cam nesaf i roi hwb i’w gyrfaoedd.”

Dilynwch yr hashnodau #WPCymru ac #AdeiladurDyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn annog busnesau i wneud dewis doeth trwy recriwtio prentis neu gynyddu sgiliau gweithiwr presennol.

Dylai unrhyw gyflogwyr sydd am ddarganfod sut y gall eu busnes elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol fynd i:
businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/prentisiaethau neu ffonio 03301 228338.

Tîm Prentisiaethau NTfW sy’n delio â holl ymholiadau cyflogwyr am brentisiaethau trwy Borth Sgiliau Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru.

Pa un bynnag a yw rhywun yn dechrau canfod ei ffordd ym myd gwaith neu’n cymryd camau tuag at newid gyrfa, mae’n bosib mai prentisiaeth yw’r ateb, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Gall unigolion gael gwybodaeth am brentisiaethau yn gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu trwy ffonio 0800 028 4844.

Prentis Gweithiwr Adeiladu Peirianneg Sifil gyda Choleg Sir Gâr yw Adam Cisse Bacongo ac mae’n gweithio i CR Civil Engineering Ltd. Daeth ar draws y brentisiaeth ar lein y llynedd ar ôl symud i Bowys o Lundain ychydig cyn cyfnod clo cyntaf y pandemig.

“Yn fy marn i, mae prentisiaeth yn un o’r pethau gorau i bobl ifanc,” meddai. “Rydych yn magu profiad, mae’n eich rhoi ynghanol byd gwaith, mae’n rhoi cyfrifoldeb i chi ac yn eich gwneud yn fwy annibynnol. Mae’n bendant wedi gwneud lles i mi, nid yn unig fel gweithiwr tir ond fel person.

“Rwy’n gobeithio dringo’r ysgol yn y diwydiant adeiladu, magu hyder a dal i ganolbwyntio arnaf i a fy ngyrfa.”

Dywedodd cynghorydd hyfforddiant Coleg Sir Gâr, Lydia Chapman: “Mae Adam wedi mynd o nerth i nerth ers iddo ddechrau ei brentisiaeth. Mae wedi magu cymaint o hyder ac mae ei gyflogwr, sydd wedi’i gefnogi’n llwyr a’i helpu i ymgartrefu yn yr ardal, yn dweud ei fod yn aelod pwysig o’u tîm.”

Mae Kerry Black, 30, yn gweithio yng Nghartref y Borth, Llanrwst er pan oedd yn 23 oed ac mae wedi symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheolaeth Breswyl Oedolion), a ddarperir gan Hyfforddiant Gogledd Cymru.

Higher Apprentice Kerry Black

Kerry Black sy’n Brentis Uwch

Er ei bod yn dioddef o ffibromyalgia poenus, mae Kerry’n dal i ganolbwyntio ar ei huchelgais i fod yn arolygydd gofal ac mae’n cefnogi aelodau o’i thîm.

Mae Kerry’n llawn canmoliaeth i Lisa Newall, asesydd Hyfforddiant Gogledd Cymru ac meddai: “Mae Lisa wedi fy nghefnogi wrth ddysgu ac yn emosiynol. Mae cael fy asesydd wrth law i fy nghefnogi wedi helpu fy natblygiad personol ac yn golygu fy mod wedi magu profiad er mwyn gwella gofal y preswylwyr.”

Dywedodd Lisa: “Mae’r prentisiaethau y mae Kerry wedi’u gwneud wedi ei helpu i ddatblygu o fod yn arweinydd tîm i fod yn ddirprwy reolwr. Mae’n ymroi’n llwyr i ddysgu er ei bod yn brysur yn y gwaith ac yn cael trafferthion â’i hiechyd.”

Mae Betty Lee o Ben-y-bont ar Ogwr yn 45 oed ac yn fam i dri. Penderfynodd newid gyrfa 18 mis yn ôl a chychwyn ar Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Saer gyda’r cwmni adeiladu tai, Persimmon. Darperir y brentisiaeth gan Goleg Pen-y-bont.

Foundation Apprentice Betty Lee.

Betty Lee sy’n Brentis Sylfaen

Ar ôl gweithio mewn gwahanol swyddi manwerthu, dewisodd Betty y brentisiaeth ar ôl gwneud cwrs gwaith coed yn y coleg gan ei bod yn mwynhau gwneud pethau a gweithio â phren.

“Rwy’n falch i mi gymryd y cam,” meddai Betty. “Rwy’n mwynhau gweithio ar safle ac rwy’n dysgu llawer. Mae’r brentisiaeth wedi fy rhoi ar ris cyntaf ysgol y diwydiant adeiladu ac rwy’n gobeithio symud ymlaen, i waith asiedydd o bosib, yn y dyfodol.

Fy nghyngor i i fenywod eraill sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu yw mynd amdani os mai dyna beth maen nhw eisiau ei wneud.”

Dywedodd Carl Davey, cyfarwyddwr adeiladu gyda Persimmon Homes yng Ngorllewin Cymru: “Mae Betty’n eithriadol o ddawnus, mae ganddi agwedd gadarnhaol ac mae wrth ei bodd yn cael bod yn rhan o dîm Persimmon a chydweithio â’n prentisiaid profiadol.

“Dim ond un enghraifft yw Betty o’r ffordd mae ein rhaglenni prentisiaethau yn helpu i godi dyheadau mewn rhan o’r wlad lle collwyd llawer o swyddi dros y blynyddoedd diwethaf.”

More News Articles

  —