Ymestyn a herio dysgwyr galwedigaethol

English | Cymraeg

Dim ond ar gyfer aelodau NTfW mae’r digwyddiad hwn ar gael

Dyddiadau a Lleoliadau

5 Rhagfyr 2017 – Hyfforddiant Gogledd Cymru, St David’s House, Parc Busnes Mochdre, Bae Colwyn LL28 5HB

7 Rhagfyr 2017 – ISA Training, 31 Ffordd yr Hen Gae, Bocam Park, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5LJ /Cwrs yn llawn

Amser:

10.00am – 4.00pm

Cost:

£45.00 (a fydd yn cynnwys paneidiau a chinio)


Trefnwch Heddiw

Nod y gweithdy hwn yw meithrin hyder ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn natblygiad dysgwyr mwy abl a’u galluogi i’w hannog i ddatblygu meddwl, sgiliau ac ymddygiad ar lefel uwch.

Bydd y gweithdy’n trafod y meysydd isod:

  • Effaith genedlaethol ac economaidd datblygu sgiliau lefel uwch yn y gweithlu
  • Fframwaith cenedlaethol ar gyfer datblygu sgiliau lefel uwch
  • Canfod dysgwyr sydd â’r gallu i ddatblygu meddwl a sgiliau ar lefel uwch
  • Strategaethau sy’n herio ac yn datblygu sgiliau meddwl lefel uwch
  • Cymhwyso sgiliau meddwl lefel uwch i ddysgu seiliedig ar waith
  • Datblygu cynllun gweithredu personol ar gyfer gwelliant proffesiynol parhaus

Fiona Argent Portrait

Fiona Argent

Rheolwr y Ganolfan Dysgu Seiliedig ar Waith, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Fiona yw Rheolwr y Ganolfan Dysgu Seiliedig ar Waith (CWBL) ac mae wedi treulio’r 25 mlynedd ddiwethaf yn y sector addysg a hyfforddiant. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n bennaeth cyflenwi gyda darparwr dysgu seiliedig ar waith.

Mae Fiona’n arbenigo ym mhob agwedd ar ddysgu seiliedig ar waith sy’n arwain at Addysg Uwch, hi sy’n arwain agenda Prentisiaethau Uwch y Brifysgol, ac mae wedi datblygu ei threfn ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol, DPP, achredu a rhaglenni seiliedig ar waith.

Cysylltwch ag info@ntfw.org neu ffonio 029 20495 861 i gael gwybod rhagor.

Telerau ac Amodau

wg-logo