Ymgorffori themâu trawsbynciol

English | Cymraeg

Dim ond ar gyfer aelodau NTfW mae’r digwyddiad hwn ar gael

Dyddiadau a Lleoliadau

10 Ionawr 2018 – Grŵp Llandrillo Menai, Campws Llandrillo-yn-Rhos, Ffordd Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn LL28 4HZ

Amser:

10.00am – 4.00pm

Cost:

£45.00 (a fydd yn cynnwys paneidiau a chinio)


Trefnwch Heddiw

Mae gennym ni, addysgwyr, lawer o wahanol ddisgwyliadau gan wahanol randdeiliaid allanol. Gall fod yn anodd cadw trefn effeithiol ar y rhain, a sicrhau bod ein dysgwyr yn cael profiad ardderchog o ddysgu ar yr un pryd.

Mae’r gweithdy hwn yn ystyried ffordd wahanol o edrych ar y themâu trawsbynciol y mae gofyn i ni eu hymgorffori yn ein cwricwlwm.

Byddwn yn edrych ar ffyrdd clir a llwyddiannus o fynd ati i ddethol a chofnodi themâu allweddol fel ADCDF, Atal, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn yn ein gwaith ni, yn ogystal â dyfeisiau syml i fapio themâu trawsbynciol yn eich cwricwlwm chi.

Ar gyfer pwy y mae’r gweithdy hwn?

Aseswyr a thiwtoriaid Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau/Arweinwyr Cwricwlwm

Deilliannau Dysgu:

Erbyn diwedd y dydd, bydd y rhai sy’n bresennol wedi cael cyfle i:

  • ystyried diben cwricwlwm. beth ddylid ei gynnwys yn eich cwricwlwm a pham? Os oes bylchau, sut i’w cau
  • cydnabod pwysigrwydd DPP wrth Ddatblygu Cwricwlwm. canolbwyntio ar ‘pam’ yn ogystal â ‘sut’, ac edrych y tu hwnt i gydymffurfio a thrin themâu trawsbynciol fel ymarferiad ticio’r blychau
  • ystyried dulliau llwyddiannus o ymgorffori: ADCDF, Atal/Gwerthoedd Prydeinig trwy thema ‘Parch’
  • defnyddio dyfeisiau syml i helpu i ddatblygu a chroesgyfeirio gofynion cwricwlwm
  • ymgorffori llythrennedd a rhifedd yn y cwricwlwm gyda hyder

Ros Protheroe Portrait

Ros Protheroe

Cyfarwyddwr, Panda Education and Training

Bu Ros yn gweithio yn y sector Dysgu Seiliedig ar Waith ers 17 mlynedd. Dechreuodd fel tiwtor TG yn helpu oedolion yn ôl i’r gweithle ac enillodd ei TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yn 2005. Ers hynny bu mewn swyddi fel Hyfforddwr TG Arweiniol, Dilysydd Mewnol, Rheolwr Ansawdd ac Uwch Reolwr Ansawdd. Am dair blynedd hyd at fis Awst y llynedd, bu’n Rheolwr Dysgu a Datblygu Staff, yn darparu ac yn cydlynu gweithgareddau datblygu ar gyfer dros 300 o staff, gan ganolbwyntio ar addysgu a dysgu creadigol a dyfeisgar.

Ym mis Awst y llynedd, lansiodd Ros Panda Education & Training gyda’i phartner busnes a’i chyn-gydweithwraig, Rachel Arnold.

Y prif beth sy’n gyrru Ros yw sicrhau bod addysgwyr galwedigaethol yn cael y cymorth iawn i gynnig yr hyfforddiant gorau, mwyaf dyfeisgar a chreadigol sy’n bosib. Ar hyn o bryd mae’n gwneud gradd Meistr mewn Addysg, gan ymchwilio i effaith arsylwi ar ansawdd dysgu.

Rachel Arnold Portrait

Rachel Arnold

Cyfarwyddwr, Panda Education and Training

Bu Rachel Arnold yn gweithio ym maes Dysgu Seiliedig ar Waith ers 17 mlynedd. Dechreuodd fel Asesydd a Thiwtor ar raglenni prentisiaethau a chyflogadwyedd.

Yn 2002, symudodd Rachel ymlaen i reoli tîm bach o aseswyr a thiwtoriaid. Trwy ganolbwyntio ar safon y cyflenwi er mwyn sicrhau canlyniadau da i’r dysgwyr, yn 2007 daeth yn Gyfarwyddwr Datblygu Ansawdd. Bu Rachel yn gyfrifol am reoli ansawdd, y cwricwlwm a datblygu staff am 9 mlynedd. Erbyn hyn, mae Rachel yn Gyfarwyddwr gyda Panda Education & Training ac mae’n credu’n angerddol mewn datblygu sgiliau galwedigaethol.

Yn ddiweddar, penodwyd hi’n Bencampwr y sector TG a Menter a’r Cyfryngau Creadigol yng Nghymru fel rhan o’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.

Cysylltwch ag info@ntfw.org neu ffonio 029 20495 861 i gael gwybod rhagor.

Telerau ac Amodau

wg-logo