Yr NTfW yn galw am ragor o gydweithio yn dilyn adroddiad am Brentisiaethau Uwch yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Lizzie Roberts, Toolmaker Apprentice

Lizzie Roberts, Prentis Gwneud Offer

English | Welsh

Mae angen rhagor o gydweithio rhwng cyrff sy’n cyflenwi prentisiaethau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod canfyddiadau adroddiad gan Estyn yn cael eu rhoi ar waith, yn ôl Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Croesawyd canfyddiadau adolygiad Estyn, ‘Prentisiaethau Uwch mewn Dysgu yn y Gwaith’, gan yr NTfW, sef y corff sy’n cynrychioli holl ddarparwyr prentisiaethau Cymru, gan ddweud ei bod yn bwysig cydweithio yn awr i roi canfyddiadau’r adroddiad ar waith.

Roedd Estyn yn cydnabod bod Prentisiaethau Uwch yng Nghymru yn datblygu, gyda mwy o gyflogwyr a dysgwyr yn cymryd rhan ynddynt a mwy yn llwyddo hefyd (bu cynnydd o 10% i 77% yn y tair blynedd diwethaf).

“Yn y bôn, mae hyn yn golygu bod dros dri chwarter y rhai sy’n cychwyn ar Brentisiaeth Uwch yng Nghymru yn ei chwblhau,” meddai Jeff Protheroe, Cyfarwyddwr Gweithrediadau gydag NTfW.

Yn y pum mlynedd ers 2012, bu cynnydd o 350% yn nifer y bobl sy’n dilyn Prentisiaeth Uwch ac erbyn hyn Prentisiaethau Uwch yw bron chwarter y prentisiaethau sy’n cael eu cychwyn. Gan ei bod yn amlwg bod angen gweithlu â sgiliau uwch, mae hyn yn newyddion da i gyflogwyr Cymru a’r economi.

“Mae’n braf gweld bod Estyn wedi nodi bod bron yr holl ddysgwyr yn ennill sgiliau newydd gwerthfawr yn y gweithle a bod llawer o ddysgwyr (70% neu fwy) yn dweud bod y rhaglen brentisiaethau yn fuddiol a’i bod wedi’u helpu i gael cyfle am ddyrchafiad yn y gweithle,” meddai Jeff Protheroe.

“Mae’n dda gwybod bod y cyflogwyr bron i gyd, gydag ychydig iawn o eithriadau, yn gwerthfawrogi’r cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen prentisiaethau uwch. Dyma’r pethau pwysig na ellir eu hanghofio wrth ddarllen yr adroddiad.

“Mae’r NTfW yn cydnabod bod llawer o waith i’w wneud o hyd gan bawb sy’n ymwneud â chyflenwi prentisiaethau lefel uwch yng Nghymru ac felly mae’r NTfW a’i aelodau’n cydweithio â nifer fawr o randdeiliaid, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, i ddatblygu’r ddarpariaeth brentisiaethau fel y bydd gyda’r gorau yn y byd.”

Roedd yr NTfW a’i aelodau yn ymwybodol o’r rhan fwyaf o’r anawsterau a nodwyd yn yr adolygiad ac felly mae pawb yn datblygu eu darpariaeth gyda hynny mewn golwg. Yn ogystal, trwy sefydlu Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru (WAAB), sy’n cael ei gadeirio gan gyfarwyddwr CBI Cymru ar hyn o bryd, mae gan gyflogwyr yng Nghymru gyfle go iawn i ddylanwadu ar y system brentisiaethau a’r ddarpariaeth gyfredol.

Meddai Jeff Protheroe: “Fel gydag unrhyw ffordd o ddatblygu system addysg a hyfforddiant, mae angen adnoddau, amser a digon o gyllid yn benodol, i sicrhau y gellir cyrraedd y nod yn effeithlon.

“Gyda hyn mewn cof, mae’r NTfW yn awyddus i gydweithio eto â Llywodraeth Cymru ac eraill fel na chollir y gwersi gwerthfawr sy’n deillio o’r adolygiad hwn ac fel y gallwn gydymdrechu i sicrhau rhaglen brentisiaethau lefel uwch y gall pawb ohonom yng Nghymru fod yn falch ohoni.”

More News Articles

  —