Gwobrau Proffiliau’r Cyflwynwyr

Wynne Evans
Tenor Cymreig
Mae Wynne Evans yn un o denoriaid amlycaf Prydain sydd wedi canu yn y prif rannau gyda phob un o’r tai opera a’r cerddorfeydd enwocaf, yn cynnwys y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, Opera Cenedlaethol Cymru ac Opera Cenedlaethol Lloegr.
Mae ganddo brofiad eang o ganu mewn cyngherddau a gwneud datganiadau gan gydweithio â rhai o brif gerddorfeydd Prydain yn cynnwys y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Symffoni y BBC, Cerddorfa Gyngerdd y BBC a Cherddorfa Symffoni Llundain.
Yn 2009, daeth Wynne yn wyneb a llais ymgyrch hysbysebu gwerth miliynau o bunnau ar gyfer un o brif wefannau cymharu prisiau Prydain, GoCompare.com, gan chwarae rhan y cymeriad dramatig Gio Compario. Aeth ymlaen i wneud dwsinau o hysbysebion ar gyfer GoCompare.com ar y teledu a’r radio ac mae’r ymgyrch hon yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus erioed. Ar ôl i Wynne arwyddo cytundeb i wneud chwe albwm gyda Warner Bros, aeth ei albwm cyntaf ‘A Song In My Heart’ yn syth i rif un yn y Siartiau Clasurol ac aros yno am saith wythnos.
Mae Wynne yn cyflwyno rhaglen ddyddiol ar BBC Radio Wales ac yn cyflwyno rhaglenni a chyfresi yn aml ar gyfer BBC1 Wales, BBC2 Wales ac S4C. Mae’n siaradwr ar ôl cinio difyr a naturiol ddigri ac mae galw mawr amdano.

Sarah John
Cadeirydd Dros Dro, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
Yn ogystal â bod yn Gadeirydd Dros Dro, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac yn Gadeirydd Rhanbarth De-ddwyrain Cymru, NTfW, mae Sarah yn Gyfarwyddwr Acorn Learning Solutions sy’n rhan o grŵp Acorn o Gasnewydd.
Bu Sarah yn gweithio ym maes Dysgu Seiliedig ar Waith ers dros 20 mlynedd. Bu mewn gwahanol swyddi yn y maes, gan ddod i gysylltiad â nifer o asiantaethau/rhanddeiliaid yn cynnwys Canolfannau Gwaith, Swyddfeydd Gyrfaoedd, Cynghorau Sgiliau Sector, sefydliadau cyflogwyr, adrannau o Lywodraeth Cymru, cyrff dyfarnu, ysgolion, Sefydliadau Addysg Uwch a Sefydliadau Addysg Bellach gan gefnogi rhaglenni prentisiaethau rhwng Lefel 1 a Lefel 5. Acorn yw’r unig Ddarparwr Annibynnol sydd o dan ryddfraint i Sefydliad Addysg Uwch i gyflenwi Gradd Sylfaen.
Mae prif ddyletswyddau Sarah gydag Acorn yn ymwneud â chyllid, cyflenwi gweithredol, rheoli ceisiadau a datblygu cynlluniau dysgu arloesol ar gyfer cyflogwyr a dysgwyr, yn gysylltiedig â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Aelod o Fwrdd LSkIP (Partneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi De-ddwyrain Cymru)
Cynrychiolydd NTfW ar Fforwm Cydweithio Prifysgol Morgannwg
Aelod o Fwrdd NTfW fel Cadeirydd Rhanbarth y De-ddwyrain

Julie James AM
Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth
Ganed Julie James yn Abertawe ond treuliodd gryn dipyn o’i hieuenctid yn teithio o gwmpas y byd gyda’i theulu. Dechreuodd ar ei gyrfa yn Llundain ond symudodd yn ôl i Abertawe gyda’i gŵr i fagu eu tri phlentyn ac i fod yn nes at ei theulu. Mae Julie yn hollol ymrwymedig i faterion gwyrdd, yn frwd o blaid materion yn ymwneud â’r amgylchedd ac wrth ei bodd hefyd yn nofio ac yn sgïo.
Hyd nes iddi gael ei hethol yn Aelod Cynulliad Gorllewin Abertawe roedd Julie yn gyfreithwraig amgylcheddol a chyfansoddiadol flaenllaw. Cyn hynny, roedd yn brif weithredwr cynorthwyol Cyngor Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa fel cyfreithwraig ym maes llywodraeth leol gan weithio fel cyfreithwraig bolisi gyda Bwrdeistref Llundain Camden cyn dychwelyd i Abertawe i weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg ac yna Dinas a Sir Abertawe.
Ers iddi gael ei hethol mae Julie wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Menter a Busnes a Phwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Caffael y Pwyllgor Menter a Busnes, cyhoeddodd.
Julie Adroddiad y Pwyllgor sef ‘Influencing the Modernisation of EU Procurement Policy’. Julie hefyd yw Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Polisi Pysgodfeydd Cyffredin Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Penodwyd Julie James yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ym mis Medi 2014. Ym mis Mai 2016, penodwyd Julie yn Weinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth.

