Ymuno â Ni-2

English | Cymraeg

Aelodaeth Gyswllt

Mae Aelodaeth Gyswllt yn agored i unrhyw sefydliad (preifat, cyhoeddus, elusennol neu drydydd sector) neu unigolyn nad yw, o anghenraid, yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflenwi rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes dysgu seiliedig ar waith, ond a hoffai feithrin perthynas â’r Rhwydwaith.

Pam ddylwn i ymaelodi ag NTFW?

Mae ein haelodau’n hanfodol i ni ac rydym yn cydweithio â phob un i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol. Rydym yn annog rhwydweithio, cydweithio, partneriaethau a rhannu gwybodaeth, gan ein bod yn credu bod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol dysgu seiliedig ar waith (DSW) yng Nghymru.

Caiff NTFW ei gydnabod fel prif lais y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Mae aelodaeth yn agored i bob sefydliad a all ddangos ei fod yn addas i fod yn gysylltiedig â’r Ffederasiwn. Yn ogystal â manteision yn ymwneud â gwaith, mae aelodaeth yn dod â chyfleoedd i gwrdd â chydweithwyr o’ch diwydiant mewn sefyllfa sy’n hwylus i rwydweithio.

Mae NTFW yn cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidogion, Aelodau’r Senedd, uwch-swyddogion o Lywodraeth Cymru ac arweinyddion polisi ac mae’n mynychu grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru.

Llywio a dylanwadu trwy

  • Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
  • Sesiynau briffio a chyfarfodydd gweinidogol
  • Roi tystiolaeth ym mhwyllgorau’r Senedd
  • Ymwneud â Gweinidogion Cymru, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol
  • Trafodaethau rheolaidd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch ffurfio polisïau a’u gweithredu
  • Gwneud gwaith ymchwil a pharatoi adroddiadau

Cynrychioli cyflogaeth a sgiliau yng Nghymru

  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
  • Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru
  • Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru

Rhannu ffeithiau a gwybodaeth

  • Cyfarfodydd rhanbarthol
  • Grwpiau cyfeirio gwahanol sectorau
  • Grŵp cyfeirio Dalwyr Contractau a Gomisiynir
  • Cynhadledd NTFW
  • Adran Aelodau NTFW (yn cynnwys newyddion rheolaidd i aelodau)
  • Digwyddiadau rhannu gwybodaeth i randdeiliaid

Mae gan NTFW gynrychiolwyr ar lawer o grwpiau’r llywodraeth a grwpiau rhanddeiliaid ehangach, yn cynnwys:

  • Bwrdd Strategaeth Ôl-16 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Grŵp Datblygu Gweithlu Ôl-16 Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Estyn
  • FSB Cymru
  • Bwrdd Strategaeth a Gweithredu AHO
  • Cyfarfodydd strategaeth Cymwysterau Cymru
  • Grŵp Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol
  • Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru

Codi proffil dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru

  • Gwobrau Prentisiaethau Cymru
  • Wythnos Prentisiaethau
  • Cystadlaethau Sgiliau – Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills
  • Cylchlythyr NTFW
  • Datganiadau i’r wasg ac erthyglau newyddion
  • Gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol

Sut ydw i’n dod yn Aelod o NTFW?

Llanwch y ffurflen gais heddiw i fod yn rhan o NTFW.
*Cost: Aelodaeth Gyswllt £1,000 (pro rata)
Blwyddyn aelodaeth: 1 Awst 2023 – 31 Gorffennaf 2024.

Ffurflen gais i ymaelodi

Os hoffech wybod mwy am y ffordd y gall ymaelodi ag NTFW fod o fudd i’ch sefydliad, ffoniwch 07425 621709 neu e-bostiwch: karen.smith@ntfw.org

yn ôl i’r brig>>