Digwyddiadau
Cynhadledd NTFW 2026
10 Mawrth 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar lywio dyfodol sgiliau yng Nghymru wrth i gam nesaf y Rhaglen Brentisiaethau agosáu. Bydd y cynadleddwyr yn ystyried sut y gall darparwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid gydweithio i lunio system fwy hyblyg, cynhwysol, a pharod at y dyfodol.
Cynhadledd ac Expo Cogyddion y Byd 2026
16-19 Mai 2026 yn ICC Cymru, Casnewydd
Bydd Cymru’n croesawu’r digwyddiad byd-eang hwn y disgwylir iddo ddenu 1,000 o gogyddion a dros 5,000 o ymwelwyr o dros 100 o wledydd i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) a Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.

