Pobl Ifanc Cymru yn Fuddugol yn y Gystadleuaeth Sgiliau Genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae dros 280 o bobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru wedi cael cydnabyddiaeth am eu sgiliau galwedigaethol rhagorol yng ngwobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni, gan ennill 96 o fedalau aur, 92 o fedalau arian a 97 o fedalau efydd.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn cyfres o gystadlaethau a gynhaliwyd ym mis Ionawr a mis Chwefror, lle bu 1,129 o gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru yn cystadlu i gael eu henwi ‘y gorau yn y wlad’ yn eu sector. Roedd y cystadlaethau’n ymdrin â meysydd sgiliau yn cynnwys y celfyddydau coginio, datblygu’r we, peirianneg awyrenegol ac ynni adnewyddadwy.

Yng nghystadleuaeth eleni, gwelwyd cynnydd cyson a chalonogol o ran cyfranogiad merched yn y categorïau adeiladu a ddominyddwyd yn draddodiadol gan ddynion, gan gynnwys gwaith coed, paentio ac addurno, ac ynni adnewyddadwy, sef 20% o’r holl gystadleuwyr – cynnydd o 10% ers 2020.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn ICC Cymru yng Nghasnewydd ddydd Iau 14 Mawrth, lle cafodd enillwyr y medalau gydnabyddiaeth haeddiannol am ddangos eu sgiliau a’u gwaith caled, a hynny yng nghwmni ffrindiau a theulu.
Ar ben hynny, bu nifer o ‘bartïon gwylio’ ledled Cymru gan adael i gystadleuwyr a’u teuluoedd ddathlu ar y cyd ar draws y wlad.

Disgrifiodd Emma Morgan, enillydd medal aur, a oedd yn cystadlu yn y categori Diogelwch Rhwydwaith TG, ei phrofiad yn y gystadleuaeth: “Rydw i wrth fy modd o fod wedi ennill medal aur – mae’n anrhydedd enfawr!
“Roedd cael y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad mor uchel ei barch yn anhygoel ac fe wnaeth ddangos i mi sut beth yw rhwydweithio yn y byd go iawn. Gwnaeth i mi deimlo’n gyffrous am yr hyn sy’n bosibl yn y dyfodol.
“Un o uchafbwyntiau’r gystadleuaeth oedd cael cwrdd â chystadleuwyr eraill o wahanol gefndiroedd a diwydiannau a gweld pa mor dalentog yw pobl fy oedran i. Roedd yn brofiad cwbl newydd ac mae wedi fy nghymell i ragori ar fy nghyfoedion.

“Wrth edrych ymlaen, rydw i’n gobeithio mynd i’r brifysgol neu gwblhau gradd-brentisiaeth. Rydw i hefyd yn gobeithio gallu cystadlu yn y categori Gweinyddu Systemau Rhwydwaith TG yn y gystadleuaeth ledled y DU, WorldSkills UK.”

Ychwanegodd Dominic Jenkins, enillydd medal aur yn y categori Peintio ac Addurno: “Mae cystadlaethau sgiliau wedi bod yn agoriad llygad i mi. Maen nhw wedi rhoi cyfle i mi ddangos fy nhalentau a phrofi i gwmnïau beth rydw i’n gallu ei wneud.

“Rydw i wedi dysgu cymaint, wedi goresgyn rhai heriau anodd, ac wedi magu llawer o hyder. Rydw i’n gobeithio’n fawr y bydd y cystadlaethau hyn yn fy helpu i ddod o hyd i swydd yn y diwydiant ac rydw i’n awyddus i barhau i herio fy hun i weld pa mor bell y galla i ddatblygu fy sgiliau a’m harbenigedd.”

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy’n cael ei chynnal gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, yn llwyfan i gyfranogwyr gystadlu mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol uchel eu parch fel WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills International. Nod y prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw meithrin talent a sbarduno rhagoriaeth ar draws gwahanol sectorau sgiliau drwy gydweithio â rhwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau sy’n cael eu harwain gan gyflogwyr.

Gall pobl ifanc yng Nghymru hefyd gystadlu yn y cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol Adeiladu Sgiliau a WorldSkills, yn amodol ar rownd arall o geisiadau. Mae’r cyfnod cofrestru ar gyfer cystadlaethau Adeiladu Sgiliau eleni yn cau ar 1 Ebrill 2024 a bydd cystadlaethau WorldSkills UK yn cau ar 28 Mawrth 2024.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn llwyfan perffaith i’n pobl ifanc wthio eu ffiniau ac arddangos eu doniau.

“Un o fy mlaenoriaethau ar gyfer economi gryfach yw canolbwyntio ar sgiliau a chreadigrwydd pobl ifanc, gan roi’r cymorth sydd ei angen arnynt i gyflawni dyfodol uchelgeisiol yma yng Nghymru.

“Ar ôl cael y fraint o gefnogi a mynd i nifer o gystadlaethau, gan gynnwys cystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy eleni a gynhaliwyd yn y Senedd, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun y gronfa dalent anhygoel sydd gennym ni yng Nghymru. Mae’n wirioneddol ysbrydoledig gweld yr unigolion ifanc hyn yn ymfalchïo yn eu gwaith ac yn ymdrechu’n barhaus am ragoriaeth yn eu meysydd dewisol.

“Hoffwn longyfarch pob cystadleuydd yn ddiffuant am eu llwyddiannau rhagorol hyd yma. Mae gan bob un ohonoch chi ddyfodol disglair o’ch blaenau.”

Wrth i Gymru edrych tua’r dyfodol, bydd 47fed cystadleuaeth Ryngwladol WorldSkills yn cael ei chynnal yn Lyon, Ffrainc, lle bydd cystadleuwyr o Gymru yn cynrychioli Tîm y DU i gael eu coroni’r gorau yn y byd am eu sgil galwedigaethol.

Mae rhagor o wybodaeth am gystadlaethau sgiliau a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn 2024 a 2025 yn inspiringskills.gov.wales.

yn ôl i’r brig>>

Postiwyd yn Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, Newyddion | ← Negeseuon Hŷn