Polisi Preifatrwydd


English | Cymraeg

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn amlinellu sut y mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth benodol a fyddai’n eich galluogi i gael eich adnabod pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, gallwn eich sicrhau y bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio’n unol â’r datganiad preifatrwydd hwn.

Gall Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd trwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech wirio’n achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau.

Y wybodaeth a gesglir gennym
Gallwn gasglu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw, teitl swydd a sefydliad.
  • Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a/neu ffôn symudol.
  • Gwybodaeth ddemograffig megis cod post, hoffterau a diddordebau.
  • Gwybodaeth arall sy’n berthnasol i arolygon cwsmeriaid a/neu gynigion.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gesglir gennym
Mae angen y wybodaeth arnom i ddeall eich anghenion ac i ddarparu gwasanaeth gwell ar eich cyfer, ac yn fwyaf arbennig am y rhesymau canlynol:

  • Cadw cofnodion mewnol.
  • Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth i wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau.
  • Gallwn o bryd i’w gilydd anfon e-bost hyrwyddo sy’n cynnwys gwybodaeth am gynnyrch newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall yr ydym yn credu a all fod o ddiddordeb i chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych.
  • O bryd i’w gilydd gallwn hefyd ddefnyddio’ch gwybodaeth i gysylltu â chi i ddibenion ymchwil marchnata. Gallwn gysylltu â chi trwy e-bost, dros y ffôn neu lythyr.
  • Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth i addasu’r wefan ar gyfer eich diddordebau chi.

Dolenni i wefannau eraill
Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill a all fod o ddiddordeb i chi. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddefnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan ni, nid oes gennym reolaeth dros y gwefannau eraill hynny. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch na phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a gyflwynwch wrth fynd i’r gwefannau hynny ac nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r gwefannau hynny. Dylech fod yn ofalus a darllen datganiad preifatrwydd y wefan dan sylw.

Rheoli eich gwybodaeth bersonol
Gallwch ddewis cyfyngu ar y wybodaeth bersonol a gesglir ac a defnyddir yn y ffyrdd canlynol:

  • Pan ofynnir i chi lenwi ffurflen ar y wefan, chwiliwch am y blwch y gallwch ei glicio i ddangos nad ydych am i’r wybodaeth gael ei defnyddio gan neb i ddibenion marchnata uniongyrchol
  • Os ydych wedi cytuno yn y gorffennol i ganiatáu i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth i ddibenion marchnata uniongyrchol, gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu atom neu e-bostio info@ntfw.org

Ni fyddwn yn gwerthu, yn dosbarthu nac yn prydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni bai ein bod wedi derbyn eich caniatâd neu ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Gallwn ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol i anfon deunydd hyrwyddo am drydydd partïon atoch yr ydym yn credu a fydd o ddiddordeb i chi.

Gallwch wneud cais i weld manylion am y wybodaeth bersonol a gedwir gennym amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Os hoffech dderbyn copi o’r wybodaeth a gedwir gennym amdanoch, e-bost info@ntfw.org.

Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth a gedwir gennym yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch neu anfonwch e-bost atom cyn gynted â phosibl, i’r cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir ar unwaith.

Diogelwch
Yr ydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel. Er mwyn sicrhau nad oes neb heb awdurdod yn cael mynediad at eich gwybodaeth nac yn ei datgelu, yr ydym wedi cyflwyno gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli addas i ddiogelu a chadw’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ar-lein.

yn ôl i’r brig>>