Gweithdai 2018

English | Cymraeg

Sesiwn 1

1. Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd sy’n codi’n naturiol i feithrin sgiliau dysgwyr

Steve Bell, AEM, Estyn
Bydd y gweithdy hwn yn ystyried sut y gall ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ganfod cyfleoedd i brentisiaid a hyfforddeion ddysgu, ymarfer a datblygu eu sgiliau trwy eu rhaglenni dysgu seiliedig ar waith. Bydd yn defnyddio tystiolaeth o arolygiadau i dynnu sylw at arferion da ac i nodi rhai pethau i’w hosgoi. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i fyfyrio ar eu profiad ac i gynllunio gwaith gyda’u dysgwyr eu hunain.

2. Datblygu cyflogadwyedd ar gyfer yr oes ddigidol

Dr. Esther Barrett, Arbenigwr Pwnc (Addysgu, Dysgu ac Asesu) Jisc
Sut allwn ni helpu ein dysgwyr a’n prentisiaid i feithrin eu sgiliau cyflogadwyedd?

Yn y gweithdy hwn, byddwn yn rhestru prif nodweddion cyflogadwyedd hyfforddeion modern, ac yn ystyried ffyrdd o ymgorffori profiad a sgiliau digidol yn eu taith ddysgu.

3. Heriau wrth asesu gwaith ym maes Cymwysterau Galwedigaethol

Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Cyswllt (Cymwysterau Galwedigaethol), Cymwysterau Cymru
Erbyn hyn, mae Cymwysterau Cymru wedi cynnal adolygiadau o ddau sector ac maent wrthi’n gweithio ar drydydd adolygiad, mewn TGCh. Mae’r ddau adolygiad a gynhaliwyd eisoes wedi datgelu anawsterau ym maes asesu. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan ystyried maes asesu a myfyrio am yr anawsterau a nodwyd.

4. Hwyluso’r Hyfforddi

Julie Crossman, Mentor / Darlithydd, Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Gweithdy i gyflwyno nifer o ddyfeisiau a thechnegau hyfforddi a fydd yn helpu ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith i oresgyn rhai o’r anawsterau sy’n codi wrth gefnogi prentisiaid lefel uwch.

5. Iechyd meddwl yn y gweithle: lleihau stigma a chamwahaniaethu

Jules Twells, Rheolwr Ymgysylltu, Amser i Newid Cymru
Iechyd meddwl yn y gweithle: lleihau stigma a gwahaniaethu. Bydd y gweithdy’n rhoi trosolwg i’r cynadleddwyr ar ymgyrch Amser i Newid Cymru sy’n gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i’w helpu i roi diwedd ar stigma a gwahaniaethu yn eu sefydliadau nhw. Yn ogystal, mae Amser i Newid Cymru wedi lansio ymgyrch marchnata cymdeithasol #GallwnAGwnawn i rymuso pobl ifanc i ymuno â’r ymgyrch ac i newid agweddau’r genhedlaeth nesaf at iechyd meddwl a’r syniad sydd ganddynt amdano.

6. Ymgorffori’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru

Helen Humphreys, Mentor Datblygiad Proffesiynol, Sgiliaith
Bydd gweithdy Sgiliaith yn cynnig cefnogaeth i aseswyr i’w helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg gyda dysgwyr yn y gweithle. Bydd gwybodaeth ac adnoddau ar gael i aseswyr. Mae’n gyfle i drafod gofynion Estyn a ffyrdd o baratoi cynllun asesu cynhwysfawr ar gyfer dysgwyr dwyieithog.

Sesiwn 2

7. Safbwyntiau ‘Prevent’: mannau diogel – llywio sgyrsiau

Barrie Phillips, Cydlynydd Prevent AU/AB Cymru, adran Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Dr Abdul Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Cyngor Moslemiaid Cymru
Bydd y gweithdy’n gyfle newydd i ystyried agenda Prevent o safbwynt myfyrwyr a staff ym maes addysg:

  • Pam Prevent?
  • Bydd sydd gan Prevent i’w wneud â’r sector addysg?
  • Yn erbyn beth y mae Prevent yn amddiffyn?
  • A oes terfynau ar ryddid mynegiant?
  • A beth yw pwysigrwydd mannau diogel, herio, trafod a meddwl yn feirniadol?

Mae Prevent yn cael ei feirniadu’n aml am ganolbwyntio gormod ar fyfyrwyr Moslemaidd. Bydd y gweithdy hwn yn ystyried rhai o’r beirniadaethau hyn ac yn edrych ar effaith polisïau Prevent ar fyfyrwyr Moslemaidd. Bydd yn canolbwyntio hefyd ar ffyrdd cadarnhaol o ymwneud â myfyrwyr Moslemaidd er mwyn diwallu eu hanghenion yn y ffordd orau.

8. Materion ansawdd – Gweithdy yn llawn

Donna Hughes, Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru
Gweithdy rhyngweithiol ar gyfer staff sicrwydd ansawdd sy’n gweithio gyda chymwysterau a seilir ar gymhwysedd. Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan ystyried eu rôl, myfyrio ar arferion cyfredol ac ystyried cyfleoedd i wella yn y dyfodol.

9. Cynnwys meddwl yn feirniadol mewn fframwaith sgiliau cyflogadwyedd

Fiona Argent, Rheolwr y Ganolfan Dysgu Seiliedig ar Waith, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Datblygu arferion ym maes addysgeg ac arferion a seilir ar y cwricwlwm i ymgorffori ac integreiddio sgiliau meddwl yn feirniadol mewn fframwaith addysg alwedigaethol.

10. Gwerth cymwysterau wrth ddatblygu sgiliau yn yr unfed ganrif ar hugain

John McNamara, Prif Weithredwr, Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu
Bydd y sesiwn hon yn ystyried gwerth cymwysterau galwedigaethol o safbwynt eu heffaith economaidd yn ogystal â’r cyfraniad grymus y maent yn ei wneud i yrfaoedd, dewisiadau bywyd a symudedd cymdeithasol unigolion.

Thema allweddol arall fydd y cyfraniad y gall cymwysterau ei wneud at ddatblygu gweithlu medrus sy’n barod ar gyfer heriau a chyfleoedd yr 21ain ganrif.

11. Addasrwydd i Ymarfer: Defnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol at Ddibenion Proffesiynol

Elizabeth Brimble, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyngor y Gweithlu Addysg
I addysgwyr proffesiynol yn y byd modern, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn mynd yn fwyfwy anodd i’w trin yn ddiogel. Yn y sesiwn hon byddwn yn amlinellu beth yw’r cyfryngau cymdeithasol, a pheryglon y cyfryngau cymdeithasol yn y gweithle a gartref ar gyfer pobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Byddwn yn dangos enghreifftiau o gamddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac yn helpu i’ch galluogi i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn y ffordd fwyaf diogel a mwyaf buddiol ar gyfer y dyfodol.

12. WBL’s Got Talent – Sut i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau

Rachel Arnold, Hyrwyddwr Sgiliau Cyfryngau a Chreadigol, Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn codi lefelau sgiliau ledled Cymru.
Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i ddysgu sut i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, yn cynnwys ystyried briffiau cystadlaethau, faint o ymrwymiad y mae ei angen, a manteision cymryd rhan i ddysgwyr, staff a chyflogwyr.

wg-part-funded-ls ESF logo