Telerau ac Amodau

English | Cymraeg

Croeso i’n gwefan. Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio’r wefan hon byddwch yn cytuno ac yn cydymffurfio gyda’r telerau ac amodau canlynol sydd, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn sail i berthynas Federasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig gyda chi o ran y wefan hon.

Mae’r term “Federasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig” neu “ni” yn cyfeirio at berchennog y wefan sydd â’i swyddfa gofrestredig yn Ocean Park House, East Tyndall Street, Caerdydd, CF24 5ET. Rhif cofrestru’r cwmni yw 04594179 Cofrestrwyd yng Nghymru. Mae’r term “chi” yn cyfeirio at y sawl sy’n defnyddio neu’n edrych ar ein gwefan.

Mae defnydd o’r wefan yn amodol ar y telerau defnyddio canlynol:

  • Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon ar gyfer eich gwybodaeth gyffredinol a’ch defnydd chi yn unig. Gall newid heb rybudd ymlaen llaw.
  • Nid ydym ni na thrydydd partïon yn cynnig unrhyw sicrwydd na gwarant ynghylch cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnder nac addasrwydd y wybodaeth a’r defnydd a geir neu a gynigir ar y wefan hon ar gyfer unrhyw ddiben penodol. Yr ydych yn cydnabod y gall gwybodaeth o’r fath gynnwys gwallau neu gamgymeriadau ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau neu gamgymeriadau o’r fath hyd eithaf yr hyn a ganiateir yn ôl y gyfraith.
  • Yr ydych yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddefnyddiau ar y wefan hon ar eich menter eich hun, ac ni fyddwn yn atebol am hynny. Byddwch chi eich hun yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael trwy’r wefan hon yn ateb eich gofynion.
  • Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n eiddo i ni neu sydd wedi’i drwyddedu i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, y dyluniad, y diwyg, gwedd, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir ei atgynhyrchu heblaw yn unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n rhan o’r telerau a’r amodau hyn.
  • Mae pob nod masnach a atgynhyrchir ar y wefan hon, nad ydynt yn eiddo i, neu wedi’u trwyddedu i’r gweithredwr, wedi’u cydnabod ar y wefan.
  • Gall defnydd heb awdurdod o’r wefan hon arwain at hawliad am iawndal a/neu fod yn drosedd droseddol.
  • O bryd i’w gilydd gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er mwyn eich hwylustod chi i ddarparu gwybodaeth bellach. Nid yw’n golygu ein bod yn cymeradwyo’r wefan/gwefannau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn.
  • Ni chaniateir i chi greu dolen i’r wefan hon o wefan neu ddogfen arall heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw oddi wrth Federasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
  • Mae eich defnydd o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod a all godi o ganlyniad i ddefnyddio’r wefan yn amodol ar gyfraith Cymru a Lloegr.

Beth yw cwcis? a sut ydym ni’n eu defnyddio?

Ffeil fach sy’n gofyn am ganiatâd i gael ei rhoi ar ddisg galed eich cyfrifiadur yw cwci.Ar ôl i chi gytuno, bydd y ffeil yn cael ei hychwanegu a bydd y cwci yn helpu i ddadansoddi traffig gwe neu’n rhoi gwybod i chi pan rydych chi’n mynd i wefan benodol.Mae cwcis yn caniatáu i raglenni gwe ymateb i chi fel unigolyn.Gall y rhaglen we deilwra ei gweithrediadau yn ôl eich anghenion, yr hyn rydych chi’n ei hoffi, a’r hyn nad ydych chi’n ei hoffi, drwy gasglu gwybodaeth am eich dewisiadau a’u cofio.

Rydyn ni’n defnyddio cwcis cofnodi traffig i weld pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio.Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data ynglŷn â thraffig tudalennau gwe ac i wella ein gwefan er mwyn ei theilwra i fodloni anghenion y cwsmeriaid.Dim ond at ddibenion dadansoddi ystadegol y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon, a bydd y data wedyn yn cael ei ddileu o’r system.

Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i roi gwefan well i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy’n ddefnyddiol i chi, a pha rai sydd ddim.Nid yw cwci, mewn unrhyw ffordd, yn ein galluogi i gael mynediad at eich cyfrifiadur nac i unrhyw wybodaeth amdanoch chi, ac eithrio data rydych chi’n dewis ei rannu â ni.
Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis.Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer, gallwch addasu gosodiadau eich porwr er mwyn gwrthod cwcis os yw’n well gennych chi.Gallai hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

Sut mae analluogi cwcis

Os ydych chi’n analluogi cwcis, efallai y byddwch yn sylwi nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gweithio.Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael anawsterau mewngofnodi neu weld erthyglau.

Sut mae galluogi ac analluogi cwcis gan ddefnyddio eich porwr.

Mae pob un o’r gwneuthurwyr porwyr gwe mawr yn cynnig cymorth cynhwysfawr i arwain y defnyddiwr i wneud y dewis gorau sydd fwyaf addas ar gyfer ei anghenion.Yn hytrach na cheisio rhoi manylion yr opsiynau yma, rydyn ni’n teimlo ei bod yn well eich cyfeirio at yr adran briodol ar wefan y gwneuthurwr.

Sylwer bod y dolenni hyn yn cael eu rhoi gyda’r bwriadau gorau, ond mae’n bosib y gall dilyn y dolenni osod cwcis yn eich porwr.

Google Chrome
http://support.google.com/chrome/bin/answer.py?hl=en&answer=95647
Mozilla Firefox
http://support.mozilla.org/en-US/kb/cookies-information-websites-store-on-your-computer
Opera
http://www.opera.com/browser/tutorials/security/privacy/
Internet Explorer 6
http://support.microsoft.com/kb/283185
Internet Explorer 7 & 8
http://windows.microsoft.com/en-us/windows-vista/block-or-allow-cookies
Internet Explorer 9
http://windows.microsoft.com/en-GB/windows7/How-to-manage-cookies-in-Internet-Explorer-9

Pob porwr arall
Chwiliwch am “Help” yn y porwr neu cysylltwch â darparwr y porwr.

Dolenni at wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni sy’n eich galluogi i ymweld â gwefannau eraill a all fod o ddiddordeb i chi. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddefnyddio’r dolenni hyn i adael ein safle ni, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch na phreifatrwydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei datgelu pan fyddwch yn ymweld â gwefannau o’r fath ac nad yw gwefannau o’r fath yn dod o fewn cwmpas y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus a darllen datganiad preifatrwydd y wefan dan sylw.

Hysbysiad Hawlfraint

Mae hawlfraint y wefan hon a’i chynnwys yn eiddo i “Federasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig” – © “Federasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig” 2013. Cedwir pob hawl.

Gwaherddir dosbarthu neu atgynhyrchu unrhyw ran neu’r holl gynnwys mewn unrhyw ffurf heblaw am y canlynol:

  • gallwch argraffu neu lawrlwytho darnau o’r wefan ar ddisg leol at eich defnydd personol ac anfasnachol eich hun yn unig
  • gallwch gopïo’r cynnwys i drydydd partïon unigol at eu defnydd personol, ond dim ond os ydych yn cydnabod y wefan fel ffynhonnell y deunydd

Ni chaniateir i chi, oni bai eich bod wedi derbyn ein caniatâd ysgrifenedig, ddosbarthu neu wneud defnydd masnachol o’r cynnwys. Ni chewch ychwaith ei drosglwyddo na’i storio mewn unrhyw wefan arall na math arall o system adalw electronig.

Cyfraith Lywodraethu

Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu gweithredu a’u dehongli yn unol â Chyfraith Loegr. Yr ydych yn cytuno y bydd gan Lysoedd Lloegr a Chymru awdurdodaeth lwyr i glywed a phenderfynu ar unrhyw gamau neu achosion sy’n deillio neu sy’n gysylltiedig â defnydd o’r wefan hon.

Mae’r wefan hon wedi’i chyflwyno’n llwyr i ddibenion y sawl sy’n ei defnyddio o’r Deyrnas Unedig, ac mae’r safle’n cael ei reoli a’i weithredu o’n swyddfeydd yn y DU. Nid yw Federasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn honni bod cynnwys y wefan yn addas i’w ddefnyddio mewn lleoliadau eraill. Os ydych yn dewis defnyddio’r wefan o leoliad arall, chi sy’n gyfrifol am wneud hynny ac am sicrhau eich bod yn cydymffurfio â chyfreithiau lleol.