Noddi’r Gynhadledd
Cwestiynau Cyffredin


English | Cymraeg

Cynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru 2025

Lleoliad: Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd, CF11 8AZ.

Isod, cewch atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch noddi Cynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Os oes gennych gwestiwn nad yw’n cael ei ateb isod, gallwch ebostio karen.smith@ntfw.org neu ffonio 07425 621709.

Faint o bobl y mae disgwyl iddynt ddod i’r Gynhadledd?

Rydym yn disgwyl y bydd 150 o bobl neu fwy yn dod i’r gynhadledd.

Sut mae dod o hyd i’r ganolfan?

Dilynwch y ddolen i gael gwybod rhagor: Cyfarwyddiadau Stadiwm Dinas Caerdydd

Lle a phryd y cynhelir arddangosfa’r Gynhadledd?

Bydd yr arddangosfa yn yr un man â’r paneidiau a’r cinio. Bydd cyfle i’r cynadleddwyr ymweld â stondinau’r arddangoswyr wrth gofrestru, yn ystod amser paned yn y bore a’r prynhawn ac amser cinio.

A oes wi-fi ar gael yn y ganolfan?

Mae wi-fi ar gael yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Bydd angen i chi gofrestru trwy nodi’ch cyfeiriad ebost.

Cyfleusterau parcio yn y ganolfan

Parcio am ddim ar gael.

Rwyf wedi archebu man arddangos. Beth sy’n cael ei gynnwys?

Dim ond y man arddangos y byddwn ni’n ei ddarparu. Ni fydd ffrâm gragen na wynebfwrdd, felly dewch â’ch baner(i) rowlio gyda chi. Bydd y pethau a ganlyn yn eich man arddangos:

  • 1 bwrdd (1.8m/6ft)
  • Drydan ar gael os gofynnwch amdanynt
  • Mae dwy cadeiriau

Cyfle i arddangoswyr ddadlwytho a llwytho’u cerbydau

Cewch ddadlwytho a llwytho’ch cerbyd ger mynedfa’r adeilad. Yna, bydd raid i chi barcio mewn man parcio penodol.

Pryd ddylai fy man arddangos fod yn barod i’w osod?

Cewch gyrraedd a dechrau gosod eich stondin am 08:00 ar ddiwrnod y gynhadledd ond gofynnir i chi fod wedi gosod eich stondin, a threfnu bod o leiaf un cynrychiolydd yno erbyn 09:10 fan bellaf.

Nid yw Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am unrhyw eitemau a adewir yn eich man arddangos.

Pryd ddylwn i drefnu bod rhywun yn y man arddangos i drafod gyda’r cynadleddwyr?

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar eich nawdd, argymhellwn fod o leiaf un cynrychiolydd ar gael yn ystod yr amserau pryd y bydd y cynadleddwyr yn ymweld â’r arddangosfa, sef wrth gofrestru, yn ystod amserau paned y bore a’r prynhawn ac amser cinio.

A gaf i a/neu gynrychiolwyr eraill fynd i sesiynau’r gynhadledd?

Cewch. Rydym yn annog eich sefydliad i gymryd rhan yn y gynhadledd gyfan a dyna pam yr ydym yn cynnwys llefydd am ddim yn y gynhadledd yn eich pecyn nawdd.
Yn dibynnu ar lefel eich nawdd a faint o bobl yr hoffech iddynt fynd i’r sesiynau, mae’n bosib y codir ffioedd cofrestru a ffioedd eraill.

Amser tynnu’r stondin i lawr?

Bydd angen dechrau tynnu’r stondinau i lawr am 4.30pm, pan ddaw’r gynhadledd i ben. Rhaid tynnu’r holl stondinau i lawr a symud yr holl ddeunyddiau o’r ganolfan erbyn 6:00pm ar ddiwrnod y gynhadledd.

Taflen/llyfryn i’w rhoi ym magiau’r cynadleddwyr – Pryd y dylwn i anfon y rhain ac i ble?

Gofynnir i chi anfon 200 o gopïau o’ch taflen/llyfryn i’r cyfeiriad isod erbyn dydd Iau 27 Chwefror 2025 fan bellaf. Os bydd taflenni dros ben, cewch nhw yn ôl ar ddiwrnod y gynhadledd.

Karen Smith
Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
(Cynhadledd 2025)
Ocean Park House
East Tyndall Street
Caerdydd, CF24 5LE

I ble y dylwn i anfon y deunyddiau arddangos?

Cysylltwch â’r info@ntfw.org am ragor o wybodaeth.

Lle gaf i aros tra byddaf yn y gynhadledd?

Rydym bob amser yn cynnal ein cynadleddau mewn canolfan gynadledda sy’n cynnwys gwesty neu yn agos at westy. Os hoffech aros cyn, yn ystod neu ar ôl y gynhadledd, gofynnir i chi gysylltu’n uniongyrchol â gwesty o’ch dewis.

Gallwch fynd i Croeso Cymru i chwilio am lety yn yr ardal.

Gan fy mod yn noddwr, a oes angen i mi gofrestru ar gyfer y Gynhadledd?

Nac oes, ar ôl i’ch nawdd gael ei gadarnhau, byddwch yn trafod yn uniongyrchol â’r Tîm Digwyddiadau.

Aelodau ychwanegol o’r staff

Cysylltwch â’r karen.smith@ntfw.org os hoffech ddod ag aelodau ychwanegol o’r staff gyda chi.

Sut mae cofrestru i fod yn noddwr?

Cysylltwch â Karen Smith gan nodi’r pecyn nawdd y mae gennych ddiddordeb ynddo. Os na welwch becyn sydd at eich dant, cysylltwch â ni ac fe geisiwn ateb eich anghenion.
Ebost: karen.smith@ntfw.org
Ffôn symudol: 07425 621709

yn ôl i’r brig>>