Recriwtiwch Brentis
Mae prentisiaethau’n cynnig cyfle gwych i fusnesau ddod â thalent newydd i’w sefydliad, yn ogystal ag uwchsgilio eu gweithlu presennol.
P’un a ydych am recriwtio neu wella set sgiliau eich gweithwyr, mae dysgu seiliedig ar waith yn caniatáu i gyflogwyr ‘dyfu rhai eu hunain’ pan ddaw’n fater o weithlu gwybodus a chynhyrchiol. Mae cymorth ar gael tuag at gost yr hyfforddiant a’r asesiadau.
Mae prentisiaeth yn golygu bod gweithwyr yn ennill sgiliau newydd sy’n benodol i’w rôl a’ch gweithrediadau, gan feithrin ethos cryf sy’n canolbwyntio ar eich cwmni a’r hyn rydych chi’n ei wneud.
Mae hefyd yn dangos eich buddsoddiad hirdymor yn eu talent. Mae buddsoddi
mewn prentisiaeth yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddyfodol cadarnhaol nid yn unig eich busnes, ond eich diwydiant.
Gall prentisiaethau deimlo’n dasg frawychus ond drwy weithio gyda darparwr hyfforddiant, byddwch yn cael eich arwain drwy’r broses bob cam o’r ffordd a bydd eich dysgwyr yn cael ei ddysgu o ansawdd uchel a fydd yn rhoi hwb i’ch busnes yn y pen draw.
Yng Nghymru, bydd prentis yn dilyn Fframwaith Prentisiaeth Gymreig cymeradwy. Fframweithiau prentisiaethau sydd ar gael yng Nghymru
Darganfyddwch sut y gall eich busnes elwa o gymryd prentis neu uwchsgilio eich gweithlu presennol.
![]() |
ACT Training acttraining.org.uk 029 2046 4727 |
![]() |
Hyfforddiant Cambrian cambriantraining.com 01938 555893 |
![]() |
Educ8 educ8training.co.uk 01443 749000 |
![]() |
Itec Skills and Employment itecskills.ac.uk 029 2066 3800 |





