Gwobrau Prentisiaethau Cymru

English | Cymraeg

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu, a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau ledled Cymru.

Trefnir y Gwobrau hyn gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Maent yn arddangos ac yn dathlu llwyddiant rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant, ynghyd â brwdfrydedd a menter, dyfeisgarwch a chreadigrwydd, dealltwriaeth o’r angen i wella sgiliau er lles economi Cymru ac ymrwymiad i wneud hynny.

Mae’r Gwobrau’n gyfle i unigolion a sefydliadau gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u llwyddiant yn rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
llyw.cymru/gwobrau-prentisiaethau-cymru