Gweithdai 2026
Sesiwn 1
1. Gweithdy Llawn
2. Gweithdy Llawn
3. Strategaethau Ymarferol ar gyfer Ymarferwyr a Dysgwyr
Resilient Futures Coach
Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn, caiff ymarferwyr set bwerus o ddyfeisiau hybu gwydnwch y gallant eu defnyddio ar eu cyfer nhw’u hunain a gyda’u dysgwyr. Bydd y sesiwn yn defnyddio fframwaith holistig y Resilient Futures Coach i ddwyn ynghyd seicoleg, gwaith ym maes llesiant, a strategaethau ymarferol i helpu cyfranogwyr i reoli pwysau gwaith, gwella ffocws, a hybu hyder dysgwyr. Bydd cyfle i archwilio dulliau rheoli amser, technegau rheoli emosiynau, a’r model G.R.E.A.T. ar gyfer pennu nodau—gan adael gyda chynllun clir y gallant ei ddefnyddio ar unwaith yn eu gwaith bob-dydd.
4. Effaith Cyfarwyddyd Gyrfaoedd
Gyrfa Cymru
Cewch weld sut mae cyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd yn grymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol ac yn eu helpu wrth bontio o addysg orfodol. Ymunwch â’n gweithdy i gael gwybod sut mae Gyrfa Cymru yn helpu dysgwyr i ystyried eu hopsiynau ôl-16, yn cynnwys Prentisiaethau a beth yw effaith cyfarwyddyd gyrfaoedd ar ganlyniadau cwsmeriaid.
Sesiwn 2
5. Gweithdy Llawn
6. Cofrestru a Rheoleiddio: Yr hyn y mae Angen i Ddarparwyr ei Wybod
Cyngor y Gweithlu Addysg
Mae dysgu seiliedig ar waith yn chwarae rhan hanfodol yn system addysg a sgiliau Cymru, ond sut mae cofrestru a rheoleiddio yn hybu ansawdd, yn diogelu dysgwyr, ac yn cryfhau hyder ar draws y sector?
Bydd y sesiwn hon yn archwilio rôl cofrestru a rheoleiddio proffesiynol mewn dysgu seiliedig ar waith, beth mae’n ei olygu’n ymarferol i ddarparwyr ac ymarferwyr, a sut mae’n helpu i ddiogelu dysgwyr a chynnal safonau. Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y cyflwyniad, gan gynnig cyfle am drafodaeth agored ar yr heriau, y cyfrifoldebau a’r cyfleoedd cyfredol ym maes dysgu seiliedig ar waith.
7. Medrau Llythrennedd a Rhifedd ar Waith: Cefnogi Prentisiaid
Estyn
Bydd y gweithdy hwn yn rhoi blas ar dystiolaeth ddiweddar Estyn ar yr hyn sy’n gweithio o ran cefnogi medrau llythrennedd a rhifedd prentisiaid. Bydd yn gyfle i chi rannu’r hyn sy’n gweithio i chi a byddwn yn edrych yn benodol ar fedrau darllen.
8. Gweithdy Llawn

