Prentisiaethau i Bawb!

English | Cymraeg

Man in lab advertising Apprenticeship Week 2022

Cynhelir cyfres o dri digwyddiad yn ystod yr Wythnos Prentisiaeth, gan ddangos pa mor amrywiol yw Prentisiaethau.

Caiff y digwyddiadau eu cyflwyno gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru; Gyrfa Cymru a Cymru’n Gweithio; Engage to Change; Wates Construction a Thŷ’r Cwmnïau.

Ni chodir tâl am ddod i’r digwyddiadau ac fe’u cynhelir ar lein ar MS Teams.

Bydd pob digwyddiad yn cynnwys gwybodaeth am brentisiaethau sydd ar gael; y gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr; astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog; ynghyd ag astudiaethau achos am gyflogwyr; a bydd yn dod i ben â sesiwn holi ac ateb.

Cefnogi Pobl Anabl i fynd yn Brentisiaid
Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022
Amser: 10:00 – 11:00
Agenda ac amseru

Cefnogi Merched i fynd i’r Diwydiant Adeiladu
Dyddiad: Dydd Mercher 9 Chwefror 2022
Amser: 10:00 – 11:00
Agenda ac amseru

Cefnogi Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i fynd yn Brentisiaid
Dyddiad: Dydd Iau 10 Chwefror 2022
Amser: 10:00 – 11:00
Agenda ac amseru

Cynhelir y digwyddiadau hyn trwy gyfrwng y Saesneg

Ffurflen i Gadw Lle

Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â:
Karen Smith, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata
Ebost: karen.smith@ntfw.org
Ffôn: 029 2049 5861

Ymunwch â’r sgwrs ar twitter:
@NTFWwbl
@ApprenticeWales
#WPCymru #AdeiladurDyfodol

Logos used as footer for Apprenticeship Week

Careers Wales logo

Working Wales logo