
Gweithdai 2025
Sesiwn 1
1. Sut All Arolygu ac Adolygu Thematig Eich Helpu i Wella’ch Hunan?
Mark Evans, HMI Estyn
Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol Estyn
Mark Campion, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Estyn
Cyfle i fyfyrio ar effaith arolygu ar ansawdd y ddarpariaeth prentisiaethau yn y blynyddoedd diwethaf ac i lunio trefniadau arolygu ar gyfer y dyfodol. Rydym yn agos at gwblhau ein harolygiadau o’r cylch prentisiaethau presennol. Byddwn yn cydweithio â chi i archwilio sut y gall arolygu adeiladu ar hunanwerthuso effeithiol a’i hybu er mwyn gwella, a’r hyn y dylem ei newid yn y dyfodol.
2. Ar Drywydd Dyfodol Asesu yng Nghymru
Robert Nitsch, Prif Swyddog Gweithredol Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu
Jo Creeden, Dirprwy Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifol Agored Cymru
Angharad Lloyd Beynon, Uwch Rheolwr Polisi, Rhanddeiliaid a Phartneriaethau (y Cenhedloedd ac Iwerddon), City & Guilds
Trefnwyd y Gweithdy hwn gan Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB) yng Nghymru, a chaiff ei gyflwyno gan y Cyd-Gadeiryddion yng Nghymru ac arbenigwyr o Agored Cymru.
Bydd y cyfranogwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Moderneiddio Asesu Cymwysterau Cymru ac esbonnir beth y mae hyn yn ei olygu i ddarparwyr hyfforddiant a dysgwyr, fel y gallant dreialu syniadau cyfredol a pharatoi at y dyfodol. Caiff safbwyntiau a fynegir gan y cyfranogwyr eu bwydo yn ôl i’r Prosiect gan FAB ac Agored Cymru a bydd y gweithdy’n cynnwys arddangosiad realiti rhithwir gan Agored Cymru a thrafodaeth ar AI.
3. Diwygiadau Sgiliau Hanfodol Cymru – Dyfodol Cymwysterau Llythrennedd Digidol
Honor Taylor, Rheolwr Cymwysterau Cymwysterau Cymru
Nathan Evans, Rheolwr Cymwysterau Cymwysterau Cymru
Trudie Jones, Swyddog Cymwysterau Cymwysterau Cymru
Mae datblygu sgiliau hanfodol prentisiaid yn hollbwysig i’r economi ac i weithwyr, gan sicrhau gweithlu medrus a hyblyg yng Nghymru. Bydd y gweithdy hwn gan Cymwysterau Cymru yn rhoi trosolwg o’r gwaith sydd ar droed i adolygu a diwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Bydd cyfle i drafod y gwaith penodol o ddiwygio cymwysterau Llythrennedd Digidol a chyfrannu ato.
4. Gweithdy yn llawn
Sesiwn 2
5. Y Tu Hwnt i’r Strategaeth – Cynllunio Taith y Dysgwr Trwy Sgiliau’r Iaith Gymraeg
Lisa O’Connor, Rheolwr Academaidd Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Swyddog Datblygu Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio strategaethau effeithiol ar gyfer cefnogi dysgwyr ar eu taith trwy sgiliau’r iaith Gymraeg. Bydd cyfle i rannu arferion da, darganfod adnoddau gwerthfawr, a thrafod ffyrdd o gynnwys y Gymraeg mewn llwybrau dysgu.
6. Gwneud i Gymru Weithio
Josh Miles. Cyfarwyddwr Cymru, y Sefydliad Dysgu a Gwaith
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Bapur Gwyn ‘Get Britain Working’, a oedd yn cynnwys nifer o ddiwygiadau i gymorth cyflogaeth ledled y DU. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych trwy dueddiadau diweddaraf y farchnad lafur yng Nghymru, ac yn dod i ddeall sut y bydd y Papur Gwyn a’i fwriad i ddatganoli rhaglenni cyflogaeth i Lywodraeth Cymru yn cyd-daro â’r sefyllfa bresennol o ran iechyd, gwaith a sgiliau.
7. Recriwtio, Cadw a Datblygu’r Gweithlu
Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg
Ers 2017, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith (DSW) gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Mae’n her recriwtio a chadw digon o ymarferwyr o safon ddigon uchel. Gydag etholiad nesaf y Senedd ar y gorwel, bydd y sesiwn hon yn dechrau trwy gyflwyno data diweddaraf y gweithlu yng Nghymru a gwahoddir trafodaeth ar yr hyn y gellir ei wneud i wella’r darlun presennol.
Yna bydd yn symud ymlaen i archwilio nifer o faterion yn ymwneud â rheoleiddio’r gweithlu:
- Achosion yn ymwneud ag addasrwydd i ymarfer ym maes DSW a fu gerbron CGA yn ddiweddar
- Pam y mae gwahaniaethau yn y mathau o achosion addasrwydd i ymarfer sy’n ymwneud ag ymarferwyr DSW o’i gymharu â darlithwyr AB ac athrawon ysgol
- Yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig a defnydd cyfyngedig ymarferwyr DSW o’r safonau proffesiynol
- Galwadau am welliannau ym model rheoleiddio’r gweithlu ar gyfer ymarferwyr DSW, e.e. datblygu cymwysterau gofynnol i ymarfer a dysgu proffesiynol gorfodol mewn swydd