Hyfforddi dysgwyr lefel uwch

English | Cymraeg

Dim ond ar gyfer aelodau NTfW mae’r digwyddiad hwn ar gael

Dyddiadau a Lleoliadau

21 Mawrth 2018 yng Ngwesty Hamdden y Fro, Hensol Bro Morgannwg

26 Mawrth 2018 – Coleg Pen-y-bont, Queens Rd, Pen-y-bont ar Ogwr

Amser:

10.00am – 4.00pm

Cost:

£45.00 (a fydd yn cynnwys paneidiau a chinio)

Trefnwch Heddiw

Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar y meysydd isod:

Datblygu dull o hyfforddi i gefnogi datblygiad personol a phroffesiynol dysgwyr lefel uwch er mwyn gwella’r canlyniadau

Erbyn diwedd sesiwn y diwrnod llawn, bydd y rhai sy’n bresennol yn gallu:

  • adnabod heriau cefnogi dysgwyr lefel uwch a myfyrio amdanynt
  • ystyried nifer o strategaethau datblygiad personol i gefnogi datblygiad dysgwyr lefel uwch
  • gwahaniaethu rhwng dulliau hyfforddi (coaching) a mentora ac ystyried eu potensial o ran datblygu dysgwyr
  • adnabod y sgiliau a’r technegau cwestiynu gorau er mwyn sicrhau deialog broffesiynol gyda dysgwyr lefel uwch
  • ystyried modelau hyfforddi (coaching) a chyfathrebu er mwyn adnabod dulliau ymgysylltu addas

Bridget Moseley Portrait

Bridget Moseley

Darlithydd, Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae gan Bridget gryn brofiad fel ymarferydd dysgu seiliedig ar waith. Yn ystod ei gyrfa, mae wedi datblygu dealltwriaeth drwyadl o ddysgu seiliedig ar waith ar ôl gweithio ar raglenni amrywiol, o’r Cynllun Hyfforddi Ieuenctid yn y 1980au, trwy Raglenni Cymunedol a Phrentisiaethau, i’w gwaith presennol yn cefnogi rhai sy’n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith ar lefel uwch, fel rhan o’r tîm dysgu seiliedig ar waith ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae Bridget yn credu’n gryf mewn dysgu seiliedig ar waith ac, yn enwedig, mewn datblygu ffyrdd o sicrhau cyfleoedd i brentisiaid symud ymlaen yn eu gyrfa a sicrhau bod dysgwyr galwedigaethol yn cael yr un parch â dysgwyr academaidd.

Julie Crossman Portrait

Julie Crossman

Mentor / Darlithydd, Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae gan Julie dros 15 mlynedd o brofiad fel ymarferydd dysgu seiliedig ar waith mewn nifer o sectorau. Bu ganddi sawl swydd dros y cyfnod hwn ac, yn 2016, ymunodd ag Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Yn ei swydd ddiwethaf cyn hynny bu’n cyflenwi rhaglenni prentisiaethau uwch am sawl blwyddyn, bu’n Warantydd Ansawdd Mewnol (IQA) Arweiniol a bu’n cydlynu ymgysylltiad cyflogwyr yn y busnes.

Mae Julie wir yn gwerthfawrogi’r effaith y gall rhaglenni dysgu seiliedig ar waith ei chael ar gymhwysedd a hyder dysgwyr.

Cysylltwch ag info@ntfw.org neu ffonio 029 20495 861 i gael gwybod rhagor.

Telerau ac Amodau

wg-logo