Amdanom Ni


English | Cymraeg

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn gorff cynrychioliadol ar gyfer yr holl sefydliadau ac unigolion ledled Cymru sy’n ymwneud â chyflenwi dysgu yn y gweithle. Mae’r aelodau’n amrywio o ddarparwyr hyfforddiant bach arbenigol i sefydliadau mawr cenedlaethol neu ryngwladol, yn ogystal ag awdurdodau lleol ac elusennau.

Mae’r aelodau’n gweithio ym mhob cwr o Gymru mewn lleoliadau gwledig a threfol, dwyieithog a chyfrwng Cymraeg ac mewn cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae gan yr aelodau gysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru sy’n amrywio o fusnesau bach a chanolig eu maint i sefydliadau mawr rhyngwladol a chyrff yn y sector cyhoeddus.

Mae’r NTFW yn cynrychioli buddiannau darparwyr hyfforddiant a dysgwyr gan roi gwybodaeth iddynt am bob agwedd ar agenda addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae’r Ffederasiwn yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ar lefel weinidogol, Aelodau o’r Senedd, Aelodau Seneddol o Gymru a rhanddeiliaid allweddol yn cynnwys y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, awdurdodau lleol, Gyrfa Cymru, ColegauCymru, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg, Cymwysterau Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach a’r CBI.

yn ôl i’r brig>>