Pam ddylwn i ymaelodi ag NTFW?
Mae ein haelodau’n hanfodol i ni ac rydym yn cydweithio â phob un i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol. Rydym yn annog rhwydweithio, cydweithio, partneriaethau a rhannu gwybodaeth, gan ein bod yn credu bod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol dysgu seiliedig ar waith (DSW) yng Nghymru.
Caiff NTFW ei gydnabod fel prif lais y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Mae aelodaeth yn agored i bob sefydliad a all ddangos ei fod yn addas i fod yn gysylltiedig â’r Ffederasiwn. Yn ogystal â manteision yn ymwneud â gwaith, mae aelodaeth yn dod â chyfleoedd i gwrdd â chydweithwyr o’ch diwydiant mewn sefyllfa sy’n hwylus i rwydweithio.
Mae NTFW yn cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidogion, Aelodau’r Senedd, uwch-swyddogion o Lywodraeth Cymru a Medr, arweinyddion polisi ac mae’n mynychu grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru.
Llywio a dylanwadu trwy
- Medr, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
- Sesiynau briffio a chyfarfodydd gweinidogol
- Roi tystiolaeth ym mhwyllgorau’r Senedd
- Ymwneud â Gweinidogion Cymru, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol
- Trafodaethau rheolaidd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a Medr ynghylch ffurfio polisïau a’u gweithredu
- Gwneud gwaith ymchwil a pharatoi adroddiadau
Cynrychioli cyflogaeth a sgiliau yng Nghymru
- Cyngor y Gweithlu Addysg
- Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
- Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru
- Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru
Rhannu ffeithiau a gwybodaeth
- Grwpiau cyfeirio gwahanol sectorau
- Grŵp cyfeirio Dalwyr Contractau a Gomisiynir
- Cynhadledd NTFW
- Adran Aelodau NTFW yn cynnwys newyddion rheolaidd i aelodau
- Digwyddiadau rhannu gwybodaeth i randdeiliaid
Mae gan NTFW gynrychiolwyr ar lawer o grwpiau’r llywodraeth a grwpiau rhanddeiliaid ehangach, yn cynnwys:
- Bwrdd Strategaeth Ôl-16 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Grŵp Datblygu Gweithlu Ôl-16 Cyngor y Gweithlu Addysg
- Estyn
- FSB Cymru
- Bwrdd Strategaeth a Gweithredu AHO
- Cyfarfodydd strategaeth Cymwysterau Cymru
- Grŵp Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol
- Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru
Codi proffil dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru
- Gwobrau Prentisiaethau Cymru
- Wythnos Prentisiaethau
- Cystadlaethau Sgiliau – Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills
- Cylchlythyr NTFW
- Datganiadau i’r wasg ac erthyglau newyddion
- Gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol
Sut ydw i’n dod yn Aelod o NTFW?
Mae Aelodaeth Gyswllt yn agored i unrhyw sefydliad (preifat, cyhoeddus, elusennol neu drydydd sector) neu unigolyn nad yw, o anghenraid, yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflenwi rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes dysgu seiliedig ar waith, ond a hoffai feithrin perthynas â’r Rhwydwaith.
Llanwch y ffurflen gais heddiw i fod yn rhan o NTFW.
Cost: Aelodaeth Gyswllt £1,000
Blwyddyn aelodaeth: 1 Awst 2024 – 31 Gorffennaf 2025.
Os hoffech wybod mwy am y ffordd y gall ymaelodi ag NTFW fod o fudd i’ch sefydliad, ffoniwch 07425 621709 neu e-bostiwch: karen.smith@ntfw.org