
Pam ddylwn i ymaelodi ag NTFW?
Mae ein haelodau’n hanfodol i ni ac rydym yn cydweithio â phob un i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol. Rydym yn annog rhwydweithio, cydweithio, partneriaethau a rhannu gwybodaeth, gan ein bod yn credu bod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol dysgu seiliedig ar waith (DSW) yng Nghymru.
Caiff NTFW ei gydnabod fel prif lais y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Mae aelodaeth yn agored i bob sefydliad a all ddangos ei fod yn addas i fod yn gysylltiedig â’r Ffederasiwn. Yn ogystal â manteision yn ymwneud â gwaith, mae aelodaeth yn dod â chyfleoedd i gwrdd â chydweithwyr o’ch diwydiant mewn sefyllfa sy’n hwylus i rwydweithio.
Mae NTFW yn cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidogion, Aelodau’r Senedd, uwch-swyddogion o Lywodraeth Cymru a Medr, arweinyddion polisi ac mae’n mynychu grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru.
Llywio a dylanwadu trwy
- Llywodraeth Cymru
- Medr
- Sesiynau briffio a chyfarfodydd gweinidogol
- Roi tystiolaeth ym mhwyllgorau’r Senedd
- Ymwneud â Gweinidogion Cymru, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol
- Trafodaethau rheolaidd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a Medr ynghylch ffurfio polisïau a’u gweithredu
- Gwneud gwaith ymchwil a pharatoi adroddiadau
Cynrychioli cyflogaeth a sgiliau yng Nghymru
- Cyngor y Gweithlu Addysg
- Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
- Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru
- Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru
Rhannu ffeithiau a gwybodaeth
- Grwpiau cyfeirio gwahanol sectorau
- Grŵp Dalwyr Contractau Prentisiaethau
- Cynhadledd NTFW
- Adran Aelodau NTFW yn cynnwys newyddion rheolaidd i aelodau
- Digwyddiadau rhannu gwybodaeth i randdeiliaid
Mae gan NTFW gynrychiolwyr ar lawer o grwpiau’r llywodraeth a grwpiau rhanddeiliaid ehangach, yn cynnwys:
- Bwrdd Strategaeth Ôl-16 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Grŵp Datblygu Gweithlu Ôl-16 Cyngor y Gweithlu Addysg
- Estyn
- FSB Cymru
- Bwrdd Strategaeth a Gweithredu AHO
- Cyfarfodydd strategaeth Cymwysterau Cymru
- Grŵp Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol
- Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru
Codi proffil dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru
- Gwobrau Prentisiaethau Cymru
- Wythnos Prentisiaethau
- Cystadlaethau Sgiliau – Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills
- Cylchlythyr NTFW
- Datganiadau i’r wasg ac erthyglau newyddion
- Gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn aelod o NTFW?
Aelod llawn
Ar gyfer darparwyr hyfforddiant annibynnol sydd â chontract i gyflenwi prentisiaethau ar ran Llywodraeth Cymru.
Isgontractor annibynnol
Ar gyfer darparwyr hyfforddiant sydd â chontract i gyflenwi prentisiaethau ar ran deiliad contract annibynnol a gomisiynwyd yng Nghymru.
Isgontractor Addysg Bellach (AB)
Ar gyfer darparwyr hyfforddiant sy’n cyflenwi prentisiaethau ar ran coleg addysg bellach yng Nghymru.
Aelodaeth gyswllt
Ar gyfer unrhyw sefydliad (preifat, corff cyhoeddus, elusennol neu drydydd sector) neu unigolyn nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol, o bosib, â chyflenwi rhaglenni dysgu seiliedig ar waith Llywodraeth Cymru, ond sydd â diddordeb mewn datblygu eu perthynas â’r rhwydwaith.