Lansiad Adroddiad Atebion Polisi

English | Cymraeg

Mae’r adroddiad Atebion Polisi a lansiwyd gan y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth Julie James AC yn crynhoi casgliadau o’r pum seminar a gynhaliwyd yn ystod yr haf 2016 gan ColegauCymru, Dysgu a Sefydliad Gwaith a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Yn dilyn trafodaethau egnïol, mae’n nodi y prif ganfyddiadau, a blaenoriaethau allweddol ar gyfer gweithredu.

Ein cynulleidfa oedd Aelodau’r Cynulliad o bob plaid, eu staff a’n rhanddeiliaid ehangach sydd yn gweithio yn y maes hwn neu fyddai’n cael eu heffeithio gan benderfyniadau polisi. Anogwyd y cyfranogwyr i fabwysiadu meddylfryd ffres am werth gwirioneddol addysg, hyfforddiant a sgiliau ôl-16 yn creu gweithlu cwbl fedrus i Gymru.

Y pum prif fater a nodwyd oedd:

  1. Sgilio Oedolion i’r Gwaith
  2. Rôl Addysg ôl-16 Wrth Daclo Tlodi
  3. Gwerth Sgiliau i’r Economi
  4. Sgiliau Iaith Gymraeg i’r Gwaith
  5. Darparu Prentisiaethau o’r Safon Uchaf yng Nghymru

Mae cwblhau cyfres o seminarau Atebion Polisi wedi bod yn gatalydd ar gyfer trafodaeth. Fodd bynnag, mae nawr wir angen Llywodraeth Cymru i yrru’r gweithrediad cydweithredol er mwyn sicrhau fod y sector addysg, hyfforddiant a sgiliau ôl-16 yn wirioneddol cyflawni ei botensial ar gyfer Cymru.