Prentisiaethau yng Nghymru – Dewch i gyfarfod â’r darparwyr hyfforddiant

English | Cymraeg

Cyflwynwyd yr Ardoll Brentisiaethau ym mis Ebrill eleni ac mae’n effeithio ar y sector cyhoeddus a phreifat.

Mae sefydliadau gyda bil cyflog o dros £3 miliwn yn talu’r Ardoll Prentisiaeth ar 0.5% o’u bil cyflogau.

Pwy ddylai ddod?

Rheolwyr yn y Sectorau Cyhoeddus a Phreifat sy’n gyfrifol am recriwtio a datblygu staff.

Dyddiadau a Lleoliadau:

Dydd Mawrth 11 Gorffennaf
9.30 – 12.15
Gwesty St George’s, Y Promenâd, Llandudno, Conwy LL30 2LG

Dydd Mawrth 18 Gorffennaf
9.30 – 12.15
Gwesty’r Metropole, Stryd Temple, Llandrindod Wells, Powys, LD1 5DY

Dydd Iau 20 Gorffennaf
9.30 – 12.15
Gwesty Mercure Holland House, 24-26 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0DD

Trefnwch Le Heddiw

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â sefydliadau wrth ymateb i’w diddordeb cynyddol mewn defnyddio prentisiaethau i recriwtio a hyfforddi eu staff.

Mae’r gwaith ar y gweill i greu cynlluniau ar gyfer prentisiaethau yn y gweithlu ac i ddatblygu prentisiaethau newydd. Fel rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru’n cynnal tri digwyddiad rhanbarthol er mwyn deall yn iawn sut y gallant ddiwallu anghenion hyfforddiant sefydliadau a’u gofynion o ran prentisiaethau.

Er mwyn canfod sut y gall eich sefydliad chi elwa i’r eithaf ar y prentisiaethau a gynigir ar hyn o bryd, mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i hwyluso’r gwaith o gyflwyno’r pobl o’r sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, a darparwyr prentisiaethau i’w gilydd. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i sefydliadau i drefnu prentisiaethau yn sydyn, naill ai ar gyfer gweithwyr newydd neu er mwyn datblygu gyrfaoedd eu gweithwyr presennol, yn enwedig ar y lefelau uchaf.

Bydd y digwyddiadau’n canolbwyntio ar gyflwyno rhaglenni prentisiaethau, fel y gall pobl sgwrsio’n uniongyrchol â darparwyr prentisiaethau ledled Cymru er mwyn deall beth sydd ar gael a sut y caiff ei gyflenwi. Bydd hefyd yn gyfle i drafod gofynion prentisiaethau penodol ac anghenion hyfforddiant ychwanegol.

Caiff y digwyddiadau eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u trefnu gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Os oes gennych ryw ymholiad arall, gallwch gysylltu â Karen Smith:
Ebost: karen.smith@ntfw.org
Ffôn: 029 20 495861
Symudol: 07425 621709