Proffiliau’r Cyflwynwyr 2026


English | Cymraeg

Leanne Hallett

Leanne Hallett

Uwch Reolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru

Mae Leanne yn dod â chyfoeth o brofiad i’w rôl fel Uwch Reolwr Cymwysterau o fewn y gyfarwyddiaeth Polisi a Diwygio Cymwysterau, ar ôl treulio 14 mlynedd yn addysgu mewn Addysg Bellach yn flaenorol. Mae Leanne yn gyfrifol am oruchwylio Cymwysterau Galwedigaethol Ôl-16 ac yn gweithio i sicrhau bod y cymwysterau hyn yn diwallu anghenion dysgwyr a’r dirwedd addysgol ehangach. Mae Leanne yn cydweithio â Chyrff Dyfarnu, Addysg Bellach, a darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith i sicrhau cynnig cymwysterau galwedigaethol Ôl-16 cadarn i Gymru.

Yn ôl i’r brig>>

Dean Seabrook

Dean Seabrook

Uwch Reolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru

Mae Dean yn aelod o’r gyfarwyddiaeth Polisi a Diwygio Cymwysterau, ac ers iddo ymuno â Chymwysterau Cymru mae wedi gweithio ar ddatblygu a gweithredu cymwysterau galwedigaethol a chyffredinol newydd mewn technoleg ddigidol ac mewn adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae Dean bellach yn arwain ein prosiect Moderneiddio Asesu, gan gefnogi cyflwyniad asesiadau digidol o fewn cymwysterau cenedlaethol newydd, a chan archwilio’r cyfleoedd y mae technolegau digidol newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg yn eu cynnig ar gyfer gwella asesiadau yn y dyfodol.

Yn ôl i’r brig>>

Jon Nottingham

Jon Nottingham

Anogwr Gwydnwch Oedolion Ifanc, Resilient Futures Coach

Jon yw sylfaenydd Resilient Futures Coach, ac mae ganddo dros 10 mlynedd o brofiad ym meysydd addysg, llesiant ac annog. Mae Resilient Futures Coach yn cydweithio â darparwyr addysg a gweithleoedd i gyflwyno gweithdai, rhaglenni annog, a hyfforddiant i ymarferwyr a rheolwyr. Mae’n cefnogi oedolion ifanc i feithrin gwydnwch, hyder, deallusrwydd emosiynol ac arferion effeithiol, i’w gwneud yn haws pontio o addysg i waith, a gwella ymgysylltiad, llesiant a pherfformiad yn y byd go iawn.

Yn ôl i’r brig>>

Amie Field

Amie Field

Cyfarwyddwr Dros Dro Cyflenwi Gwasanaethu, Gyrfa Cymru

Mae gwaith Amie yn cynnwys sbarduno gwasanaethau Gyrfa Cymru ym maes cyfarwyddyd gyrfaoedd, ymgysylltu â chyflogwyr a chefnogi’r cwricwlwm. Bu’n gweithio yn Gyrfa Cymru ers bron i 20 mlynedd. A hithau’n Gyfarwyddwr, mae Amie wedi ymrwymo’n fawr i genhadaeth y sefydliad ac mae’n gwerthfawrogi’r cyfle i lunio gwasanaethau Gyrfa Cymru er budd y cwsmeriaid.

Amie sy’n gyfrifol am Wasanaethau i Bobl Ifanc, Gwasanaethau i Randdeiliaid a Cymru’n Gweithio, ac mae’n arwain ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant hefyd.

Yn ôl i’r brig>>

Emily Jones

Emily Jones

Pennaeth Dros Dro Gwasanaethu i Bobl Ifanc, Gyrfa Cymru

Emily sy’n gyfrifol am gyflenwi gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd am yrfaoedd i bobl ifanc sydd mewn addysg a rhai sy’n cael eu haddysgu y tu allan i’r system ysgolion. Ymunodd Emily â thîm rheoli Gyrfa Cymru yn 2018 fel rhan o lansiad Cymru’n Gweithio. Ar ôl hynny, bu’n arwain y tîm Mewnwelediad Busnes, gan gryfhau data, mewnwelediad a threfniadau adrodd y sefydliad. Yn 2025, aeth Emily yn ôl i faes gwasanaethu cwsmeriaid fel Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau i Bobl Ifanc.

Yn ôl i’r brig>>

Matt Townsend

Matt Townsend

Uwch-arbenigwr AI, Jisc

Mae gan Matt Townsend dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector Addysg Uwch fel arbenigwr TG, academydd a dadansoddwr busnes. Mae’n cynghori’r sector addysg drydyddol ar bob peth sy’n ymwneud â deallusrwydd artiffisial (AI) yn Jisc. Mae’n canolbwyntio’n neilltuol ar effaith AI ar ymchwil a gwasanaethau proffesiynol, gan helpu sefydliadau i fabwysiadu AI mewn ffordd strategol a chyfrifol. Mae’n edrych ar y sefyllfa ar draws gwahanol sectorau sy’n cynnwys technoleg, addysgu a gweithrediadau.

Yn ôl i’r brig>>

Lisa Winstone

Lisa Winstone

Prif Weithredwr, Cyngor y Gweithlu Addysg

Lisa sy’n gyfrifol am arwain CGA a rhoi cyfeiriad strategol iddo. Ymunodd â CGA yn 2018 ar ôl cyfnod fel Pennaeth Cynllunio a Dadansoddi Ariannol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
 
 
 
 
 

Yn ôl i’r brig>>

David Browne

David Browne

Cyfarwyddwr Rheoleiddio, Cyngor y Gweithlu Addysg

David sy’n gyfrifol am waith CGA ym meysydd addasrwydd i ymarfer, cofrestru a data. Ymunodd â’r Cyngor ym mis Tachwedd 2020 ar ôl bod yn uwch-swyddog gydag undeb llafur i athrawon.
 
 
 
 
 

Yn ôl i’r brig>>

Mark Evans

Mark Evans

HMI, Estyn

Bu Mark yn Arolygydd gydag Estyn ers bron i 20 mlynedd ac mae ganddo brofiad sylweddol fel arolygydd yn y sector ôl-16 yn ogystal â mewn addysg orfodol. Cyn ymuno ag Estyn cafodd Mark brofiad helaeth yn y sector ôl-16 yn cynnwys swyddi arwain ac uwch-reoli. Roedd hyn yn cynnwys gwaith rheoli a sicrhau ansawdd ym maes dysgu seiliedig ar waith. Mae Mark yn athro cymwysedig gydag arbenigedd penodol yn y sectorau peirianneg ac adeiladu. Roedd hyn yn cynnwys gwaith rheoli a sicrhau ansawdd ym maes dysgu seiliedig ar waith. Mae Mark yn athro cymwysedig gydag arbenigedd penodol yn y sectorau peirianneg ac adeiladu.

Yn ôl i’r brig>>

Matt Williams

Matt Williams

HMI, Estyn

Mae Matt wedi bod yn Arolygydd yn nhîm ôl-16 Estyn ers 2023 ac ef yw’r swyddog arweiniol ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith a Phrentisiaethau. Cyn ymuno ag Estyn, roedd yn uwch-arweinydd yn y sector addysg bellach, gyda phrofiad helaeth o gyflenwi contractau mawr ar gyfer prentisiaethau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Yn ogystal, bu Matt yn uwch-reolwr prentisiaethau yn Uned Polisi Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ac yn aelod o fwrdd NTFW.

Yn ôl i’r brig>>

Leigh Hughes

Leigh Hughes

Cadeirydd, Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Bu Leigh yn Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ers 2018 a bu’n cynghori Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyflogadwyedd a sgiliau ar draws pob sector. Yn ddiweddar, bu Leigh yn gadeirydd Cyngor y CITB yng Nghymru, ac mae’n gryf o blaid Prentisiaethau a’u gwerth i’r unigolyn a’r cwmni.
Mae wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu ers dros 35 mlynedd ledled y DU ar lefel y Bwrdd mewn sawl sefydliad ac ef yw perchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr Felicitas Consultancy, sy’n cynnig strategaethau ym meysydd Rheoli Prosiectau, Rheolaeth Strategol, Twf Busnes a Datgarboneiddio.

Yn ôl i’r brig>>

Cath Morris-Roberts

Cath Morris-Roberts

Uwch Swyddog Cyflwyno Sgiliau, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru

Cath Morris-Roberts yw Uwch Swyddog Cyflenwi Sgiliau Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae’n cydweithio’n agos â chyflogwyr a rhanddeiliaid i gasglu gwybodaeth am heriau ym maes sgiliau yn awr ac i’r dyfodol ac i ganfod ffyrdd o ddatblygu’r gweithlu a diwallu anghenion y farchnad lafur ranbarthol. Mae gan Cath dros 15 mlynedd o brofiad ym maes sgiliau a phrentisiaethau, ac mae’n arbenigo mewn canfod cyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer cyflogwyr er mwyn cryfhau’r gweithlu a hybu twf economaidd yn y rhanbarth.

Yn ôl i’r brig>>

Jane Lewis

Jane Lewis

Rheolwr Partneriaethau Rhanbarthol, Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol – De-orllewin Cymru

Jane yw’r Rheolwr Partneriaethau Rhanbarthol ym Mhartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru ac mae’n arwain y prosiect Ymyriadau Sgiliau a Thalentau o dan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae Jane yn gyfarwyddwr ar fentrau sy’n cynnwys ymgysylltu, ymgynghori a chydlynu â phartneriaid, darparwyr, cyflogwyr a buddiolwyr rhanbarthol a thrawsffiniol. Mae ei hymdrechion yn hybu datblygiad economi ranbarthol gynaliadwy trwy feithrin sgiliau hyblyg. Mae’r dystiolaeth a gesglir yn cyfrannu at argymhellion a gyflwynir i Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol.

Yn ôl i’r brig>>