Materion Ansawdd

English | Welsh

Mae NTfW wedi cael arian grant gan Cymwysterau Cymru i ddechrau cynnal digwyddiadau Materion Ansawdd ym mhob sector (ac eithrio iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant gan fod y sector hwn eisoes wedi elwa ar yr hyfforddiant).

Mewn cydweithrediad â Cymwysterau Cymru, bydd NTfW yn cydlynu nifer o ddigwyddiadau penodol iawn ym maes datblygu’r gweithlu. Digwyddiadau ar gyfer rheolwyr ansawdd, rheolwyr canolfannau a gweithwyr mewnol sicrhau ansawdd sy’n gweithio ym maes cymwysterau seiliedig ar gymhwysedd ledled Cymru fydd y rhain a byddant am ddim.

Bydd y digwyddiadau hyn, a ddarparwyd gynt gan Cymwysterau Cymru i gefnogi’r sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sector gofal plant, yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus y gymuned sicrwydd ansawdd ym mhob sector (ac eithrio Iechyd a Gofal Cymdeithasol).

Digwyddiadau deuddydd yw’r rhain ac maent wedi’u hanelu’n benodol at bobl ym maes sicrwydd ansawdd. Disgwylir i’r rhai sy’n dod gymryd rhan yn y ddau ddiwrnod. Cynhaliwyd rhan gyntaf y digwyddiadau deuddydd hyn ym misoedd Hydref a Thachwedd a bwriedir cynnal yr ail weithdai ym misoedd Ionawr a Chwefror 2019. Cynlluniwyd y rhain i fod yn weithdai dilynol a byddant yn parhau â gwaith gweithdy 1. Fodd bynnag, os oeddech yn methu dod i weithdy 1 ond yr hoffech ddod i’r ail weithdy, cysylltwch â ni ac fe allwn ni anfon y gweithgareddau cyn-cwrs a sleidiau’r cyflwyniad atoch i’ch helpu i baratoi ar gyfer y sesiwn ddilynol.

Dyddiadau a Lleoliadau

De:
16 Ionawr 2019 – Coleg Pen-y-bont, Heol y Frenhines, Pen-y-bont, CF31 3UR
23 Ionawr 2019- Stradey Park Hotel, Llanelli, Abertawe, SA15 4HA
29 Ionawr 2019 – The Village Hotel, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 7EF
30 Ionawr 2019 – Aberavon Beach Hotel, Abertawe, SA12 6QP
13 Chwefror 2019 – Radisson Blu, Meridian Gate, Bute Terrace, Caerdydd, CF10 2FL

Gogledd:
5 Chwefror 2019 – Coleg Cambria, Ffordd Celstryn, Cei Conna, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 4BR
6 Chwefror 2019 – Grŵp Llandrillo Menai, Grŵp Llandrillo Menai, Llandudno Road, Llandrillo-yn-Rhos, LL28 4HZ

Bydd y digwyddiadau’n rhai rhyngweithiol, gyda chyfleoedd i ystyried:

  • Rheoli Ansawdd v Sicrwydd Ansawdd
  • Egwyddorion ac arferion Sicrwydd Ansawdd
  • Cynllunio Sicrwydd Ansawdd ai roi ar waith
  • Gwerthuso Sicrwydd Ansawdd
  • Ymateb a chefnogi gwelliannau i’r canolfannau

Bydd cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan asesu eu gwaith presennol a gweld pa welliannau sydd i’w gwneud er mwyn sicrhau bod cymwysterau seiliedig ar gymhwysedd yn cael eu darparu’n effeithiol, gyda chysondeb.

Darperir y gweithdai i gyd gan LearnOn.

Gwybodaeth Bwysig

Mae angen i bawb ddod â dyfais sydd â chysylltiad wi-fi gyda nhw. Gliniadur fyddai orau ond byddai llechen neu ffôn glyfar yn iawn fel arall.

Mae’r digwyddiadau yma ar gael ar gyfer aelodau NTfW yn unig.

Ariennir gan:
Qualifications Wales