Digwyddiadau

English | Cymraeg

Wales Tech Week
24-26 Tachwedd yn ICC Cymru, Casnewydd
Mae Wales Tech Week yn cysylltu, yn hyrwyddo ac yn datblygu Cymru fel canolfan arbenigedd a chyfle ar gyfer technolegau galluogi a thechnolegau newydd a’r defnydd a wneir ohonynt mewn busnes a chymdeithas heddiw. Mae’n dangos pa mor bwysig ydyw i sefydliadau ym mhob sector fabwysiadu technoleg er mwyn arloesi a ffynnu yn y dyfodol.

Cynhadledd ac Expo Cogyddion y Byd 2026
16-19 Mai 2026 yn ICC Cymru, Casnewydd
Bydd Cymru’n croesawu’r digwyddiad byd-eang hwn y disgwylir iddo ddenu 1,000 o gogyddion a dros 5,000 o ymwelwyr o dros 100 o wledydd i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) a Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.

yn ôl i’r brig>>