Cynhadledd NTFW 2026


English | Cymraeg

Dyddiad: Dydd Mawrth 10 Mawrth 2026
Lleoliad: Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd, CF11 8AZ.
Amser: 09:30 – 16:30

Cadwch Le Nawr

Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar lywio dyfodol sgiliau yng Nghymru wrth i gam nesaf y Rhaglen Brentisiaethau agosáu.

Bydd y cynadleddwyr yn ystyried sut y gall darparwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid gydweithio i lunio system fwy hyblyg, cynhwysol, a pharod at y dyfodol.

Ymhlith y siaradwyr bydd cynrychiolwyr o Medr, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Agored Cymru – noddwr pennaf y gynhadledd, Cavendish Cymru, a City & Guilds.

Cyflwynir gweithdai gan Medr, Cymwysterau Cymru, Resilient Futures Coach, Gyrfa Cymru, Jisc, Cyngor y Gweithlu Addysg, Estyn a’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, gan gynnig golwg ymarferol ac arweiniad ar faterion allweddol.

Ymunwch â ni a chael bod yn rhan o’r drafodaeth wrth i ni fapio cwrs prentisiaethau i mewn i 2026 a’r tu hwnt.

Bydd cyfle ardderchog hefyd i rwydweithio ag unigolion a chwmnïau o bob rhan o’r sector hyfforddiant yng Nghymru.

Cost:

Aelod – £255.00
Rhywun nad yw’n aelod – £425.00
Colegau Addysg Bellach yng Nghymru – £425.00

Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle yw  
dydd Mawrth 24 Chwefror 2026.

Cadwch Le Nawr


Cyfleoedd i Noddi

Mae nifer o becynnau noddi ar gael sy’n cynnig cyfleoedd gwych i roi sylw i’ch sefydliad ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar draws y sector sgiliau. Po gyntaf y gwnewch drefniant i noddi, mwyaf o gyfleoedd a gewch.

Pecynnau Nawdd


Os hoffech ragor o wybodaeth, ebostiwch: karen.smith@ntfw.org neu ffôn 07425 621709.

Noddwr Pennaf

Headline Sponsor    
Agored Cymru    
Noddwr Cyswllt    
City & Guilds    
Qualifications Wales WJEC  
Century Web AI URDD  
Medr Coleg Cymraeg Cenedlaethol Cavendish Cymru
Resilient Futures Coach Careers Wales JISC
Education Workforce Council Estyn  
Cardiff Capital Region North Wales  
SW Wales Mid Wales  

“Mae’n fraint i ni gael bod yn noddwr pennaf y gynhadledd eleni eto ac mae’n arwydd clir o’n hymrwymiad i’r dirwedd addysgol yng Nghymru, NTFW fel sefydliad a chithau fel aelodau. Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i rwydweithio ac ymgysylltu â sefydliadau sydd â gweledigaethau cydnaws.”
Darren Howells, Prif Weithredwr Agored Cymru


Yn ôl i’r brig>>