Digwyddiadau


English | Cymraeg

Sgiliau ar Waith: Digwyddiad i aelodau

Dyddiad: 11 Mehefin 2026
Leoliad: ACT, Ocean Park House, Caerdydd, CF24 5ET

Ymunwch â ni mewn sesiwn ddiweddaru gryno, werthfawr i aelodau NTFW yn dilyn ein cynhadledd ym mis Mawrth. Byddwn yn trafod datblygiadau cyfredol, blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg, a sut y gall darparwyr gadw’u bys ar y pỳls pan fo’r gofynion o ran sgiliau’n esblygu’n gyflym.

Bydd siaradwyr gwadd o Medr a Cymwysterau Cymru yn ymuno â ni, gan rannu argraffiadau a newyddion o’u sefydliadau nhw. Cewch fod yn rhan o’r sgwrs a chael syniadau gwerthfawr i’ch helpu i lywio’ch gwaith dros y misoedd nesaf.

Dysgwch fwy am ddod yn aelod o NTFW.

Sefydliad Dysgu a Gwaith: Cynhadledd Addysg Oedolion
Dyddiad: 24 Mehefin 2026
Leoliad: Cardiff City Stadium, Leckwith Road, Caerdydd, CF11 8AZ

Hysbysu – Ysbrydoli – Dathlu
Daw’r gynhadledd ar amser tyngedfennol i’r sector trydyddol wrth i lywodraeth newydd yng Nghymru ystyried ei blaenoriaethau ar gyfer addysg oedolion a sgiliau. Bydd hwn yn gyfle i ddarparwyr dysgu, gwneuthurwyr polisi a phartneriaid ar draws y trydydd sector i drafod y cyd-destun cenedlaethol ar gyfer addysg oedolion, rhannu enghreifftiau o arfer da a chymryd rhan mewn trafodaethau a gaiff eu llunio gan ddysgwyr ac ymarferwyr.

Bydd gweithdai gyda ffocws ar rannu syniadau, datblygu darpariaeth a llunio polisi yn ogystal â chyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr a dathlu llwyddiannau ar draws y sector.

Yn ôl i’r brig