
Prosiectau wedi’u Cwblhau
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Pwrpas y swydd yw darparu trefn i gefnogi’r rhwydwaith o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith (DSW) a’u helpu i annog rhagor o bobl o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a phobl anabl i wneud prentisiaethau. Bydd hyn o gymorth i ymateb i strategaethau cenedlaethol ac i roi cyfle cyfartal i’r unigolion hynny a hoffai wneud prentisiaeth.
Yr Iaith Gymraeg
Ariannwyd prosiect yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd dysgu seiliedig ar waith (DSW) gan Lywodraeth Cymru, trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Y bwriad oedd cefnogi darparwyr hyfforddiant DSW yng Nghymru i gyrraedd targedau a nodir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg; a chefnogi’r gwaith o gyflawni ‘Cymraeg 2050’, sef gweledigaeth a nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ansawdd
Ariannwyd y Prosiect Ansawdd gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Cafodd ei sefydlu i arwain a chydlynu’r gwaith o wella ansawdd trwy’r sector dysgu seiliedig ar waith (DSW) i gyd yng Nghymru. Roedd yn cydweithio’n agos â dalwyr contractau DSW yng Nghymru i ganfod meysydd lle’r oedd angen cefnogaeth.