
Prosiectau
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Sefydlwyd swydd yr Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) ym mis Mai 2016 gyda chyllid am ddwy flynedd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu trefn gefnogol i helpu i sicrhau bod rhagor o bobl o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) a phobl anabl yn dilyn Prentisiaethau.
Hyrwyddwr Dwyieithrwydd
Caiff Prosiect yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd mewn Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Y bwriad yw cefnogi darparwyr hyfforddiant DSW yng Nghymru i gyrraedd y targedau a bennwyd yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg; a helpu i gyflawni strategaeth ‘Cymraeg 2050’, sef gweledigaeth a nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ansawdd
Sefydlwyd swydd Pennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) ym mis Mai 2016 gyda chyfrifoldeb dros arwain a chydlynu’r gwaith o wella ansawdd trwy’r sector DSW i gyd yng Nghymru. Prosiect dwy flynedd, cyfnod sefydlog, yw hon gyda chymorth Llywodraeth Cymru trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.