
Ymuno â Ni
Pam ddylwn i ymaelodi ag NTfW?
Mae pwrpas NTfW yn syml – ‘Byddwn yn cynrychioli’n haelodau, gan ymdrechu’n barhaus i ddylanwadu ar ddyfodol Dysgu Seiliedig ar Waith er budd economi Cymru’.
Mae ein haelodau’n hanfodol i ni ac rydym yn cydweithio â phob un i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol. Rydym yn annog rhwydweithio, cydweithio, partneriaethau a rhannu gwybodaeth, gan ein bod yn credu bod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) yng Nghymru.
Caiff NTfW ei gydnabod fel prif lais y sector Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru. Mae aelodaeth yn agored i bob sefydliad a all ddangos ei fod yn addas i fod yn gysylltiedig â’r Ffederasiwn. Yn ogystal â manteision yn ymwneud â gwaith, mae aelodaeth o’r Ffederasiwn yn dod â chyfleoedd i gwrdd â chydweithwyr o’ch diwydiant mewn sefyllfa sy’n hwylus i rwydweithio.
Mae NTfW yn cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidogion, Aelodau’r Senedd, uwch-swyddogion o Lywodraeth Cymru ac arweinyddion polisi ac mae’n mynychu grwpiau gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru.
Llywio a dylanwadu
- Sesiynau briffio a chyfarfodydd gweinidogol
- Ymwneud â phwyllgorau Senedd Cymru
- Ymwneud ag Aelodau’r Senedd, a threfniadaeth eu gwahanol bleidiau gwleidyddol
- Trafodaethau rheolaidd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch ffurfio polisïau a’u gweithredu
- Gwneud gwaith ymchwil a pharatoi adroddiadau
- Gwaith Tîm Polisi NTfW
Cynrychioli cyflogaeth a sgiliau yng Nghymru
- Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru
- Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru
- Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
- Cyngor y Gweithlu Addysg
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
Rhannu ffeithiau a gwybodaeth
- Cyfarfodydd rhanbarthol
- Grwpiau cyfeirio gwahanol sectorau
- Cyfarfodydd y Grŵp Rheolwyr Gweithredol a’r rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW)
- Cynhadledd Flynyddol NTFW
- Adran Aelodau NTfW (yn cynnwys newyddion wythnosol)
- Digwyddiadau rhannu gwybodaeth i randdeiliaid
Mae cynrychiolwyr NTfW i’w cael ar lawer o grwpiau’r llywodraeth a grwpiau rhanddeiliaid ehangach, yn cynnwys:
- Cyngor y Gweithlu Addysg
- Fforwm Rhanddeiliaid Allanol Estyn
- WorldSkills UK
Codi proffil dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru
- Gwobrau Prentisiaethau Cymru
- Cylchlythyr NTfW
- Datganiadau i’r wasg ac erthyglau newyddion
- Gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol
Annog sefydliadau cyflogwyr i hybu datblygiad gweithwyr
- Gwaith Tîm Prentisiaethau NTfW
- Trafod yn rheolaidd gyda Thîm Polisi FSB Cymru
Hybu a chefnogi darpariaeth o safon uchel i ddysgwyr
- Gwaith Tîm Polisi NTfW
- Trafod yn rheolaidd gydag Estyn, Cymwysterau Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Darparu digwyddiadau a gweithgareddau DPP o safon uchel ar gyfer Ymarferwyr DSW
Beth yw manteision bod yn aelod o NTfW?
Mae tri math o aelodaeth i’w hystyried:
Aelodaeth Lawn – Daliwr Contractau a Gomisiynir (CCH)
Mae unrhyw ddarparwr sy’n cael ei gontractio i gyflenwi un neu fwy o Raglenni Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) Llywodraeth Cymru yn gymwys i fod yn Aelod Llawn o NTfW.
Aelodaeth Lawn – Is-gontractor
Mae unrhyw ddarparwr sy’n is-gontractio trwy drefniant i CCH i gyflenwi un neu fwy o Raglenni Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) Llywodraeth Cymru yn gymwys i fod yn Aelod Llawn o NTfW.
Aelodaeth Gyswllt
Mae unrhyw sefydliad (preifat, cyhoeddus, elusennol neu drydydd sector) neu unigolyn nad yw, o anghenraid, yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflenwi rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Dysgu Seiliedig ar Waith, ond a hoffai feithrin perthynas â’r Rhwydwaith, yn gymwys i fod yn Aelod Cyswllt o NTfW.
Mantais | Aelod | Aelod | Aelod |
Dylanwadu | |||
Y gallu i ddylanwadu'n uniongyrchol ar y ffordd y mae NTfW yn cefnogi ei aelodau | x | x | |
Cyfleoedd i rwydweithio | |||
Hawl i'ch staff fynd i gyfarfodydd rhwydweithio rhanbarthol NTfW | x | x | x |
Hawl i'ch staff fynd i Grwpiau Cyfeirio Sectorau NTfW | x | ||
Cynadleddau a Digwyddiadau | |||
Un lle am ddim yng Nghynhadledd Flynyddol NTfW | x | x | |
Codir pris is ar aelodau i fynd i holl ddigwyddiadau NTfW | x | x | x |
Adnoddau | |||
Derbyn newyddion wythnosol NTfW | x | x | x |
Cael mynd i Adran Aelodau NTfW | x | x | x |
Cael cyfrannu at Gylchlythyr Chwarterol NTfW | x | x |
|
Cael hysbysebu'ch swyddi yn Adran Aelodau NTfW | x | x |
Faint yw cost Aelodaeth o NTfW am flwyddyn?
Aelodaeth Lawn | Y gost |
Gwerth y contractau a gyhoeddwyd | 0.15% |
Aelodaeth Lawn | Y gost |
Gwerth yr is-gontractau | |
£0 - £49,000 | £250 |
£50,000 - £99,999 | £500 |
£100,000 - £249,999 | £750 |
£250,000 - £499,999 | £1,000 |
£500,000 - £999,999 | £1,250 |
£1,000,000 - £2,499,999 | £1,500 |
£2,500,000 - £4,999,999 | £1,750 |
£5,000,000 - £7,499,999 | £2,000 |
Aelodaeth Gyswllt | Y gost |
Unigolion | £250 |
Sefydliadau ag 1-9 o weithwyr | £500 |
Sefydliadau â 10-49 o weithwyr | £750 |
Sefydliadau â 50-249 o weithwyr | £1,000 |
Sefydliadau â 250+ o weithwyr | £1,250 |
Cyrff Cyhoeddus | £1,000 |
Sut mae ymaelodi ag NTfW?
Llanwch Ffurflen Gais i Ymaelodi heddiw i fod yn rhan o NTfW.
Os hoffech wybod rhagor am sut y gallwch chi a/neu’ch sefydliad elwa trwy fod yn aelod o NTfW, ffoniwch 07425 621711 neu ebostio: jeff.protheroe@ntfw.org