Noddi’r Gynhadledd – Cwestiynau Cyffredin


English | Cymraeg

Cynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru 2024

Lleoliad: ICC Cymru, Casnewydd, NP18 1HQ

Isod, cewch atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch noddi Cynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Os oes gennych gwestiwn nad yw’n cael ei ateb isod, gallwch ebostio karen.smith@ntfw.org neu ffonio 07425 621709.

Faint o bobl y mae disgwyl iddynt ddod i’r Gynhadledd?

Rydym yn disgwyl y bydd 150 o bobl neu fwy yn dod i’r gynhadledd.

Sut mae dod o hyd i’r ganolfan?

Dilynwch y ddolen i gael gwybod rhagor: Cyfarwyddiadau ICC Cymru

Lle a phryd y cynhelir arddangosfa’r Gynhadledd?

Bydd yr arddangosfa yn yr un man â’r paneidiau a’r cinio. Bydd cyfle i’r cynadleddwyr ymweld â stondinau’r arddangoswyr wrth gofrestru, yn ystod amser paned yn y bore a’r prynhawn ac amser cinio.

A oes wi-fi ar gael yn y ganolfan?

Mae wi-fi ar gael yn ICC Cymru. Bydd angen i chi gofrestru trwy nodi’ch cyfeiriad ebost.

Cyfleusterau parcio yn y ganolfan

Maes parcio yn ICC Cymru

Rwyf wedi archebu man arddangos. Beth sy’n cael ei gynnwys?

Dim ond y man arddangos y byddwn ni’n ei ddarparu. Ni fydd ffrâm gragen na wynebfwrdd, felly dewch â’ch baner(i) rowlio gyda chi. Bydd y pethau a ganlyn yn eich man arddangos:

  • 1 bwrdd (1.8m/6ft)
  • Mae 2 soced drydan ar gael os gofynnwch amdanynt
  • Mae cadeiriau ar gael os gofynnwch amdanynt

Cyfle i arddangoswyr ddadlwytho a llwytho’u cerbydau

Cewch ddadlwytho a llwytho’ch cerbyd ger mynedfa’r adeilad. Yna, bydd raid i chi barcio mewn man parcio penodol.

Pryd ddylai fy man arddangos fod yn barod i’w osod?

Cewch gyrraedd a dechrau gosod eich stondin am 7.30am ar ddiwrnod y gynhadledd ond gofynnir i chi fod wedi gosod eich stondin, a threfnu bod o leiaf un cynrychiolydd yno erbyn 9.00 fan bellaf.

Nid yw Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am unrhyw eitemau a adewir yn eich man arddangos.

Os bydd gennych gwestiynau ynghylch gosod eich stondin a/neu yn ystod y gynhadledd, cysylltwch ag Karen Smith 07425 621709.

Pryd ddylwn i drefnu bod rhywun yn y man arddangos i drafod gyda’r cynadleddwyr?

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar eich nawdd, argymhellwn fod o leiaf un cynrychiolydd ar gael yn ystod yr amserau pryd y bydd y cynadleddwyr yn ymweld â’r arddangosfa, sef wrth gofrestru, yn ystod amserau paned y bore a’r prynhawn ac amser cinio.

A gaf i a/neu gynrychiolwyr eraill fynd i sesiynau’r gynhadledd?

Cewch. Rydym yn annog eich cwmni i gymryd rhan yn y gynhadledd gyfan a dyna pam yr ydym yn cynnwys llefydd am ddim yn y gynhadledd yn eich pecyn nawdd.
Yn dibynnu ar lefel eich nawdd a faint o bobl yr hoffech iddynt fynd i’r sesiynau, mae’n bosib y codir ffioedd cofrestru a ffioedd eraill.

Amser tynnu’r stondin i lawr?

Bydd angen dechrau tynnu’r stondinau i lawr am 4:15pm, pan ddaw’r gynhadledd i ben. Rhaid tynnu’r holl stondinau i lawr a symud yr holl ddeunyddiau o’r ganolfan erbyn 6:00pm ar ddiwrnod y gynhadledd.

Taflenni i’w rhoi ym magiau’r cynadleddwyr – Pryd y dylwn i anfon y rhain ac i ble?

Gofynnir i chi anfon 200 o gopïau o’ch taflen i’r cyfeiriad isod erbyn dydd Iau 13 Mehefin 2019 fan bellaf. Os bydd taflenni dros ben, cewch nhw yn ôl ar ddiwrnod y gynhadledd.

Karen Smith
Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
(Cynhadledd 2024)
Ocean Park House
East Tyndall Street
Caerdydd, CF24 5LE

I ble y dylwn i anfon y deunyddiau arddangos?

Cysylltwch â’r Tîm Digwyddiadau am ragor o wybodaeth.

Lle gaf i aros tra byddaf yn y gynhadledd?

Rydym bob amser yn cynnal ein cynadleddau mewn canolfan gynadledda sy’n cynnwys gwesty neu yn agos at westy. Os hoffech aros cyn, yn ystod neu ar ôl y gynhadledd, gofynnir i chi gysylltu’n uniongyrchol â gwesty o’ch dewis.

Gallwch fynd i The Celtic Collection, Casnewydd neu Croeso Cymru i chwilio am lety yn yr ardal.

Gan fy mod yn noddwr, a oes angen i mi gofrestru ar gyfer y Gynhadledd?

Nac oes, ar ôl i’ch nawdd gael ei gadarnhau, byddwch yn trafod yn uniongyrchol â’r Tîm Noddi.

A ddylai cynrychiolwyr ychwanegol gofrestru ynteu a fyddwn ni’n cael anfoneb?

Na, soniwch wrth y Tîm Digwyddiadau os hoffech ddod ag aelodau ychwanegol o’r staff gyda chi. Yna, byddwch yn cael anfoneb am unrhyw gynrychiolwyr ychwanegol

Sut mae cofrestru i fod yn noddwr?

Cysylltwch â Karen Smith gan nodi’r pecyn nawdd y mae gennych ddiddordeb ynddo. Os na welwch becyn sydd at eich dant, cysylltwch â ni ac fe geisiwn ateb eich anghenion.
Ebost: karen.smith@ntfw.org
Ffôn symudol: 07425 621709

yn ôl i’r brig>>