Digwyddiad Ymgynghori – Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru
Trosolwg Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad yn holi barn pobl am strwythur Fframweithiau Prentisiaethau Cymru a’r llwybrau ategol.
Rydym yn ymgynghori ar y cynnig sy’n cynnwys:
- cyflwyno strwythur newydd, symlach
- canolbwyntio’r gwaith o ddatblygu fframweithiau ar lwybrau galwedigaethol
- sicrhau bod y fframweithiau presennol yn addas i’r diben
Mae prentisiaethau’n codi lefelau sgiliau i ateb y galw yn y farchnad yn awr ac yn y dyfodol. Dyma sut y bwriadwn hybu cynhyrchiant a ffyniant a chreu cymunedau sy’n fwy gwydn. Trwy adeiladu system sgiliau sy’n fwy ymatebol, gallwn ymateb yn well i newidiadau mewn diwydiant. Mae sicrhau bod prentisiaethau’n ateb anghenion economi Cymru yn ganolog i’n polisi sgiliau ac rydym yn adeiladu system sgiliau a all ymateb yn fwy effeithiol i newidiadau mewn diwydiant.
Dyma ein blaenoriaethau ar gyfer prentisiaethau:
- Buddsoddi mewn sgiliau lefel uwch, yn enwedig mewn meysydd technegol a STEM;
- Hybu cynhwysiant, cydraddoldeb a chyfle cyfartal;
- Ymateb i fylchau presennol a disgwyliedig mewn sgiliau; a
- Darparu prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a/neu’n ddwyieithog.
Rydym yn awyddus i wella ansawdd prentisiaethau trwy weithredu trefniadau newydd i ddatblygu a chyhoeddi fframweithiau prentisiaethau a chodi ymwybyddiaeth ohonynt er mwyn ateb anghenion unigolion a chyflogwyr. Yn ogystal, rydym yn awyddus i ganolbwyntio mwy ar y nodau llesiant yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol, gan sicrhau bod hyfforddiant proffesiynol o safon uchel ar gael i’r genhedlaeth nesaf o brentisiaid.
Dogfennau Llywodraeth Cymru:
Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru – Dogfen Ymgynghori
Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru – Atodiad
Dyddiadau a lleoliadau:
De-orllewin/Canolbarth Cymru
Dydd Llun 25 Tachwedd 2019 – Pafiliwn Canolbarth Cymru, Spa Rd, Llandrindod, LD1 5EY
De-ddwyrain Cymru
Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019 – Llawn
Gogledd Cymru
Dydd Iau 28 Tachwedd 2019 – Venue Cymru, Y Promenâd, Llandudno, LL30 1BB
[TABLE=24]
Trefnwch Nawr
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i Aelodau’r NTfW a’u cyflogwyr. Sylwch: Dim ond dau le sydd ar gael i bob sefydliad.
Yn cydweithio â City & Guilds