Cynhadledd NTFW 2024
Dyddiad: Dydd Gwener 22 Mawrth 2024
Lleoliad: ICC Cymru, Casnewydd
Amser: 09:30 – 16:15
Y prif siaradwyr fydd Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru a Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol addysg bellach a phrentisiaethau yn Llywodraeth Cymru.
Y siaradwyr eraill fydd cyfarwyddwr strategol NTFW Lisa Mytton, rheolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau City & Guilds (y Cenhedloedd ac Iwerddon) Angharad Lloyd Beynon, a phrif weithredwr Agored Cymru Darren Howells. City & Guilds yw noddwr pennaf y gynhadledd.
Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar “fynd ati heddiw i adeiladu llwyddiant yfory” a bydd yn cynnwys trafodaeth gan banel o gyflogwyr. Bydd y cynadleddwyr yn trafod sut i gyflawni potensial trwy brentisiaethau, grymuso pobl ar gyfer y dyfodol, grymuso cyflogwyr a sbarduno ffyniant economaidd.
Cynhelir gweithdai gan Cymwysterau Cymru, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg, Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Jisc Cymru ac Amser i Newid Cymru.
Bydd y gynhadledd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio ag unigolion a chwmnïau o bob rhan o’r sector hyfforddi yng Nghymru.
Rhaglen
Gweithdai
Noddi’r Gynhadledd
Cost:
Aelod o’r NTFW – £234.00
Rhai nad ydynt yn Aelodau – £390.00
Y dyddiad cau ar gyfer bwcio yw dydd Mercher 15 Mawrth 2024.
Bargen, os byddwch wedi bwcio erbyn dydd Gwener 15 Mawrth 2024.
Aelod o’r NTFW
- Gostyngiad o 10% i’r ddau gynadleddwr cyntaf.
- Y trydydd cynadleddwr ac unrhyw gynadleddwyr eraill yn cael dod am hanner pris.
Rhai nad ydynt yn Aelodau
- Gostyngiad o 10%.
Sylwch: Rydym yn sylweddoli y bydd rhaglen y gynhadledd yn newid weithiau. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i’r holl bobl berthnasol.