Digwyddiadau Dysgu Proffesiynol NTfW
Mae NTfW wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, fel rhan o Gynllun Gwella Ansawdd 2017-2018. Mae’r rhain yn weithdai undydd a gynhelir mewn gwahanol fannau ledled de a gogledd Cymru.
Maent i gyd yn ddigwyddiadau annibynnol sy’n agored i aelodau NTfW yn unig.
Codir tâl bychan o £45 y pen am ddod i ddigwyddiad a bydd y rhai sy’n bresennol yn cael tystysgrif presenoldeb gan y darparwr hyfforddiant.
Hyfforddi dysgwyr lefel uwch
21 Mawrth 2018 yng Ngwesty Hamdden y Fro, Hensol Bro Morgannwg
26 Mawrth 2018 yng Ngholeg Pen-y-bont, Pen-y-bont
Bydd y gweithdy hwn yn cynnig strategaethau i hybu datblygiad personol a phroffesiynol dysgwyr lefel uwch er mwyn gwella’r canlyniadau. Bydd yn canolbwyntio ar ddefnyddio dulliau hyfforddi a mentora, a’r sgiliau a’r technegau gorau ar gyfer cwestiynu er mwyn sicrhau deialog broffesiynol â dysgwyr lefel uwch. Darllen mwy >>>