
Hyfforddi dysgwyr lefel uwch
Dim ond ar gyfer aelodau NTfW mae’r digwyddiad hwn ar gael
Dyddiadau a Lleoliadau
21 Mawrth 2018 yng Ngwesty Hamdden y Fro, Hensol Bro Morgannwg
26 Mawrth 2018 – Coleg Pen-y-bont, Queens Rd, Pen-y-bont ar Ogwr
Amser:
10.00am – 4.00pm
Cost:
£45.00 (a fydd yn cynnwys paneidiau a chinio)
Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar y meysydd isod:
Datblygu dull o hyfforddi i gefnogi datblygiad personol a phroffesiynol dysgwyr lefel uwch er mwyn gwella’r canlyniadau
Erbyn diwedd sesiwn y diwrnod llawn, bydd y rhai sy’n bresennol yn gallu:
- adnabod heriau cefnogi dysgwyr lefel uwch a myfyrio amdanynt
- ystyried nifer o strategaethau datblygiad personol i gefnogi datblygiad dysgwyr lefel uwch
- gwahaniaethu rhwng dulliau hyfforddi (coaching) a mentora ac ystyried eu potensial o ran datblygu dysgwyr
- adnabod y sgiliau a’r technegau cwestiynu gorau er mwyn sicrhau deialog broffesiynol gyda dysgwyr lefel uwch
- ystyried modelau hyfforddi (coaching) a chyfathrebu er mwyn adnabod dulliau ymgysylltu addas
Bridget Moseley
Darlithydd, Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae gan Bridget gryn brofiad fel ymarferydd dysgu seiliedig ar waith. Yn ystod ei gyrfa, mae wedi datblygu dealltwriaeth drwyadl o ddysgu seiliedig ar waith ar ôl gweithio ar raglenni amrywiol, o’r Cynllun Hyfforddi Ieuenctid yn y 1980au, trwy Raglenni Cymunedol a Phrentisiaethau, i’w gwaith presennol yn cefnogi rhai sy’n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith ar lefel uwch, fel rhan o’r tîm dysgu seiliedig ar waith ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae Bridget yn credu’n gryf mewn dysgu seiliedig ar waith ac, yn enwedig, mewn datblygu ffyrdd o sicrhau cyfleoedd i brentisiaid symud ymlaen yn eu gyrfa a sicrhau bod dysgwyr galwedigaethol yn cael yr un parch â dysgwyr academaidd.
Julie Crossman
Mentor / Darlithydd, Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae gan Julie dros 15 mlynedd o brofiad fel ymarferydd dysgu seiliedig ar waith mewn nifer o sectorau. Bu ganddi sawl swydd dros y cyfnod hwn ac, yn 2016, ymunodd ag Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Yn ei swydd ddiwethaf cyn hynny bu’n cyflenwi rhaglenni prentisiaethau uwch am sawl blwyddyn, bu’n Warantydd Ansawdd Mewnol (IQA) Arweiniol a bu’n cydlynu ymgysylltiad cyflogwyr yn y busnes.
Mae Julie wir yn gwerthfawrogi’r effaith y gall rhaglenni dysgu seiliedig ar waith ei chael ar gymhwysedd a hyder dysgwyr.
Cysylltwch ag info@ntfw.org neu ffonio 029 20495 861 i gael gwybod rhagor.