
Polisi ar gadw lle a chanslo
Cadw lle:
- Wrth gadw lle mewn digwyddiadau, y cyntaf i’r felin gaiff falu. Nid yw’r ffaith eich bod wedi llenwi ffurflen i gadw lle yn gwarantu lle i chi.
- Anfonir neges ebost awtomatig atoch i gydnabod eich cais. Bydd yn dweud bod eich archeb wedi dod i law ac y bydd anfoneb yn dilyn o fewn 14 diwrnod. Os na chewch y neges hon, dylech gysylltu ag NTfW trwy ebostio info@ntfw.org neu ffonio 029 2049 5861.
- Cedwir lle i bobl pan fydd ffurflen NTfW wedi dod i law ac anfoneb wedi’i hanfon o swyddfa NTfW.
- Anfonir cyfarwyddiadau ymuno tua 10 diwrnod cyn y digwyddiad yn cadarnhau’r dyddiad, yr amser, y lleoliad a manylion y digwyddiad. Dylech gysylltu ag info@ntfw.org os na fyddwch wedi cael y cyfarwyddiadau ymuno o leiaf 5 niwrnod cyn y digwyddiad.
- Ni ellir trefnu dros y ffôn i ddod i ddigwyddiad.
Canslo digwyddiadau
- Mae NTfW yn cadw’r hawl i newid neu ganslo unrhyw ddigwyddiad, a newid yr amserau, y dyddiadau, neu’r prisiau a gyhoeddwyd. Rhoddir gwybod am newidiadau i’r prisiau, yr amserau a’r dyddiadau cyn dyddiad dechrau’r digwyddiad ac ni fydd raid i chi dalu’r pris uwch os byddwch eisoes wedi talu’n llawn am y digwyddiad.
- Gan y gellir canslo digwyddiad hyd at bedair wythnos cyn y dyddiad dechrau, rydym yn argymell nad ydych yn gwneud trefniadau teithio na llety cyn hynny. Mae’r sawl sy’n trefnu i ddod i ddigwyddiad yn llwyr gyfrifol am y costau teithio a llety. Nid yw NTfW yn derbyn cyfrifoldeb am ad-dalu unrhyw gostau sy’n codi mewn perthynas â’i ddigwyddiadau.
- Os yw digwyddiad yn cael ei ganslo, bydd y sawl sydd wedi trefnu i ddod yn cael cynnig dyddiad arall ar gyfer yr un digwyddiad, credyd tuag at ddigwyddiad arall neu ad-daliad.
Canslo trefniant:
Os yw NTfW wedi derbyn cais pendant i ddod i ddigwyddiad a bod y trefniant yn cael ei ganslo wedyn, bydd y cwsmer yn gyfrifol am y taliadau isod. Rhaid canslo mewn ysgrifen o leiaf 14 diwrnod cyn y digwyddiad.
- 22 diwrnod neu fwy cyn y digwyddiad – dim ffi
- 15-21 diwrnod cyn y digwyddiad – 50% o ffi’r digwyddiad
- 14 diwrnod neu lai (neu beidio â throi i fyny) – 100% o ffi’r digwyddiad
Trwy drefnu i ddod i un o ddigwyddiadau NTfW, rydych yn cytuno i’r telerau a’r amodau uchod.