Gweithio’n gallach: defnyddio technoleg i oresgyn rhwystrau pellter ac amser
Dim ond ar gyfer aelodau NTfW mae’r digwyddiad hwn ar gael
Dyddiad a Lleol
6 Rhagfyr 2017 – Grŵp Llandrillo Menai, Campws Llandrillo-yn-Rhos, Ffordd Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn LL28 4HZ
Amser:
10.00am – 4.00pm
Cost:
£45.00 (a fydd yn cynnwys paneidiau a chinio)
Fyddech chi’n hoffi gallu cadw mewn cysylltiad yn haws â dysgwyr sydd allan mewn gweithleoedd?
A oes angen i chi rannu adnoddau a thystiolaeth o asesiadau ffurfiannol gyda rhai sy’n dysgu o bell?
Ydych chi wedi bod yn manteisio i’r eithaf ar eich rhwydweithiau proffesiynol?
Yn y gweithdy hwn, bydd Esther Barrett yn trafod dyfeisiau a thechnegau a all eich helpu i weithio mewn ffordd fwy deallus, cynnal eich perthynas broffesiynol ag eraill, a gwneud y profiad o ddysgu’n fwy cynhwysol.
Dewch â dyfais – mae hon yn sesiwn ymarferol!
Themâu
Byddwn yn edrych ar ddyfeisiau a thechnegau a all helpu ymarferwyr, aseswyr a rheolwyr yn y meysydd a ganlyn:
- Cyfathrebu
- Cydweithio
- Ymgysylltu
- Adnoddau
- Myfyrio
- Cyfryngau Cymdeithasol
- Asesu
- Cynhwysiant
Deilliannau Dysgu:
Erbyn diwedd y gweithdy, bydd y rhai sy’n bresennol yn gallu:
- adnabod dulliau a thechnegau sy’n helpu i gysylltu â dysgwyr a chydweithwyr o bell
- adnabod dulliau a thechnegau sy’n helpu i arbed amser a bod yn effeithiol
- gwerthuso pa mor addas yw dulliau ar gyfer amcanion penodol ym maes dysgu neu asesu
- ymarfer parato’r dyfeisiau
Esther Barrett
Arbenigwr Pwnc Jisc – Addysgu, dysgu ac asesu
Bu Esther yn gweithio yn y sector addysg ers dros bymtheng mlynedd. O ddysgu Llythrennedd ac ESOL yn y gymuned, aeth ymlaen i gynllunio cyrsiau, hyfforddi athrawon ac ehangu cyfleoedd dysgu ar brosiect rhwydwaith dysgu rhanbarthol. A hithau’n gynghorydd eDdysgu gyda Jisc Cymru, bu’n cefnogi’r sector Addysg Oedolion yn y Gymuned a’r sector gwirfoddol.
Erbyn hyn, mae Esther yn Arbenigwr Pwnc mewn Addysgu, Dysgu ac Asesu gyda Jisc ac mae’n cynnig gwasanaethau ymgynghori a hyfforddi i ddarparwyr Addysg Uwch, Addysg Bellach a Sgiliau ledled y Deyrnas Unedig mewn meysydd fel gallu digidol, dysgu symudol a dysgu cyfunol. Mae hefyd wedi gwneud llawer gyda’r mudiad llythrennedd digidol yng Nghymru. Mae newydd ennill PhD mewn Ieithyddiaeth Ddigidol.
Cysylltwch ag info@ntfw.org neu ffonio 029 20495 861 i gael gwybod rhagor.