Polisi Preifatrwydd

Yn ôl i’r wybodaeth am y gynhadledd

English | Cymraeg

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn amlinellu sut y mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i NTFW pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.

Mae NTFW wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth benodol a allai ddatgelu pwy ydych wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon, gallwn eich sicrhau mai dim ond yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn y caiff ei defnyddio.

Gall NTFW newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd trwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech ddarllen y dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn fodlon ag unrhyw newidiadau.

Y wybodaeth a gesglir gennym
Gallwn gasglu’r wybodaeth a ganlyn:

  • Enw, teitl swydd a sefydliad.
  • Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad ebost, rhif ffôn a/neu ffôn symudol.
  • Gwybodaeth ddemograffig fel eich cod post, eich dewisiadau a’ch diddordebau.
  • Gwybodaeth arall sy’n berthnasol i arolygon cwsmeriaid a/neu gynigion

Beth rydym yn ei wneud â’r wybodaeth a gesglir gennym
Mae angen y wybodaeth hon arnom i ddeall eich anghenion ac i ddarparu gwell gwasanaeth ar eich cyfer, ac yn fwyaf arbennig am y rhesymau isod:

  • Cadw cofnodion mewnol.
  • Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth i wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau.
  • Gallwn anfon negeseuon ebost hyrwyddo o bryd i’w gilydd i roi gwybodaeth am gynnyrch newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall y credwn y gall fod o ddiddordeb i chi. Byddwn yn defnyddio’r cyfeiriad ebost a roddwyd gennych.
  • O bryd i’w gilydd hefyd, gallwn ddefnyddio’ch manylion i gysylltu â chi i ddibenion ymchwil marchnata. Gallwn gysylltu â chi trwy’r ebost, dros y ffôn neu trwy lythyr.
  • Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth i addasu’r wefan ar gyfer eich diddordebau chi.

Dolenni i wefannau eraill
Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill a all fod o ddiddordeb i chi. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddefnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan ni, nid oes gennym reolaeth dros y gwefannau eraill hynny. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu nac am breifatrwydd unrhyw wybodaeth a gyflwynwch tra byddwch ar y gwefannau hynny ac nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r gwefannau hynny. Dylech fod yn ofalus a darllen datganiad preifatrwydd y wefan dan sylw.

Rheoli eich gwybodaeth bersonol
Gallwch ddewis cyfyngu ar gasglu neu ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol fel a ganlyn:

  • Pan ofynnir i chi lenwi ffurflen ar y wefan, chwiliwch am y blwch y gallwch ei glicio i nodi nad ydych am i’r wybodaeth gael ei defnyddio gan neb at ddibenion marchnata uniongyrchol
  • Os ydych wedi cytuno yn y gorffennol y cawn ni ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol, gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd trwy ysgrifennu atom neu ebostio info@ntfw.org

Ni fyddwn yn gwerthu, yn dosbarthu nac yn prydlesu’ch gwybodaeth bersonol i drydydd partïon os na chawsom eich caniatâd i wneud hynny neu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Gallwn ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol i anfon deunydd hyrwyddo y credwn y gall fod o ddiddordeb i chi atoch am drydydd partïon.

Gallwch wneud cais o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 i weld y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Os hoffech dderbyn copi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, ebostiwch info@ntfw.org.

Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch neu anfonwch neges ebost atom cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth y gwelir ei bod yn anghywir heb oedi.

Diogeledd
Yr ydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel. Er mwyn sicrhau nad oes neb heb awdurdod yn cael mynediad at eich gwybodaeth nac yn ei datgelu, yr ydym wedi cyflwyno gweithdrefnau addas, ffisegol, electronig a rheolaethol, i ddiogelu a sicrhau’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ar-lein.

yn ôl i’r brig>>