Siaradwyr 2026

Rhian Edwards
Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi a Buddsoddiad, Medr
Rhian Edwards yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi a Buddsoddi, Medr. Mae’n goruchwylio’r cyfarwyddiaethau profiad dysgwyr, cyflogadwyedd, sgiliau ac ymchwil, a buddsoddi a monitro. Roedd ganddi ran uniongyrchol yng ngwaith sefydlu Medr a bu’n gweithio yno ers y cychwyn.
Cyn ymuno â Medr, Rhian oedd Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau yn Llywodraeth Cymru. Roedd yr is-adran yn gyfrifol am nifer o swyddogaethau ym meysydd polisi, cynllunio, cyllido, sicrhau ansawdd a monitro ar gyfer addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, dysgu oedolion a chweched dosbarth ysgolion.
Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, bu Rhian yn gweithio yn y sectorau preifat a gwirfoddol, yn fwyaf diweddar yn Gyfarwyddwr Masnachol Cwmpas. Graddiodd Rhian o Brifysgol Caerdydd yn 2003 ac aeth ymlaen i wneud MBA gyda Phrifysgol De Cymru.

Darren Howells
Prif Weithredwr, Agored Cymru
Ymunodd Darren ag Agored Cymru yn 2019 fel Dirprwy Brif Weithredwr a chafodd ei benodi’n Brif Weithredwr yn 2020.
Darren sy’n gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol Agored Cymru ar draws y gwledydd ac am hyrwyddo cenhadaeth y sefydliad sef galluogi unigolion i sicrhau’r sgiliau a’r cymwysterau y mae arnynt eu hangen i wireddu eu potensial, cyfoethogi eu bywydau a chyfrannu at eu cymunedau ac at economi gref.
Cyn ymuno ag Agored Cymru bu gan Darren swyddi masnachol blaenllaw yn y Sector Dyfarnu a gyda brandiau rhyngwladol FMCG. Mae hefyd yn un o Lywodraethwyr Coleg Gŵyr Abertawe.

Dr Lowri Morgans
Uwch-reolwr Addysg Bellach a Phrentisiaethau, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Dr Lowri Morgans wedi gweithio i sefydliadau yn y sector trydyddol yng Nghymru dros y degawd ddiwethaf. Ers i Lowri ymuno â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2017, mae wedi arwain ar sawl prosiect ond yn fwy diweddar penodwyd Lowri yn Uwch-reolwr i arwain a gweithredu’r strategaeth ôl-16 er mwyn cynyddu darpariaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn y sector sy’n adlewyrchu cyfrifoldebau newydd y Coleg.

Patrick Craven
Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus, Partneriaethau ac Ymgysylltu, City & Guilds UK
Mae gan Patrick dros 30 mlynedd o brofiad ym meysydd achredu, dylunio asesiadau a thechnoleg addysgol. Yn ystod ei yrfa bu’n gweithio gyda MESU/NCET, BECTa, Apple, RSA a Cambridge Assessment. Yn City & Guilds, mae’n arwain Partneriaethau Strategol, Polisi Rhanddeiliaid ac Ymchwil, gan ganolbwyntio ar y ffordd y mae polisi a thechnoleg yn llywio sgiliau a gwaith asesu. Mae’n aelod o nifer o grwpiau a byrddau cynghori cenedlaethol, gan bleidio datrysiadau a seilir ar dystiolaeth ac sy’n addas at y diben ym meysydd dysgu ac asesu.

Jo Kiernan
Cyfarwyddwr, Cavendish Cymru
Treuliodd Jo bron i ddau ddegawd yn newyddiadurwraig a golygydd gwleidyddol yn ITV Cymru a’r BBC. Wedyn, bu’n Gynghorydd Arbennig i ddau o Brif Weinidogion Cymru, Rhodri Morgan a Carwyn Jones. A hithau bellach yn Gyfarwyddwr gyda Cavendish Cymru, mae Jo’n cynghori cleientiaid ar gyfathrebu strategol, cysylltiadau â’r llywodraeth a chynnal ymgyrchoedd. Mae hefyd yn cyd-gyflwyno’r podlediad gwleidyddol Senedd Sources.

