Proffiliau’r Cyflwynwyr 2024
John Nash
CaCadeirydd, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
Cefndir mewn peirianneg a rheoli ansawdd sydd gan gadeirydd NTFW John Nash a daeth yn gynghorydd hyfforddi gyda TSW Training yn 1989.
Ar ôl arwain y broses pan brynwyd y busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr ganddo ef a dau gydweithiwr, bu’n rheolwr gyfarwyddwr am chwe blynedd o 2012 ymlaen ac mae’n dal yn gyfarwyddwr ar brosiectau masnachol a dysgu seiliedig ar waith.
Mae John, sy’n asesydd profiadol, yn brif ddilysydd ac wedi’i hyfforddi’n asesydd cymheiriaid, yn byw yn Ferndale ac yn cynrychioli’r sector dysgu seiliedig ar waith ym Mhartneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd.
Mae wedi arwain yr NTFW trwy gyfres o heriau yn cynnwys pandemig Covid-19 a’r toriadau presennol i’r gyllideb brentisiaethau.
Lisa Mytton
Cyfarwyddwr Strategol, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
Ar hyn o bryd, Lisa yw Cyfarwyddwr Strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW). Bu’n gweithio yn y diwydiant dysgu seiliedig ar waith ôl-16 ers dros 26 mlynedd fel Uwch-reolwr Ansawdd ac Arolygydd Cymheiriaid Estyn ochr yn ochr â chael gyrfa wleidyddol mewn Llywodraeth Leol am 16 mlynedd.
Bu Lisa’n Faer, yn Aelod o’r Cabinet dros Addysg ac yn fwyaf diweddar yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Yn ogystal, mae Lisa’n gyfarwyddwr y cwmnïau elusennol hyn: Sefydliad Cyfarthfa, Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful (MTIB) ac Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens a George.
Siaradwr Gwadd
Rhian Edwards
Cyfarwyddwr Gweithredol Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru
Ymunodd Rhian â Llywodraeth Cymru yn 2021 i fod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Bellach a Phrentisiaethau. Mae i’r is-adran hon swyddogaethau amrywiol o ran polisi, cynllunio, ariannu, sicrhau ansawdd a monitro ym meysydd addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, addysg oedolion a’r 6ed dosbarth mewn ysgolion. Yn ogystal, mae Rhian yn cyfrannu at y gwaith o sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a bydd yn symud i swydd Dirprwy Brif Weithredwr y corff newydd hwnnw yn nes ymlaen eleni. Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, Rhian oedd Cyfarwyddwr Masnachol Cwmpas, a bu’n cydweithio â nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus ar raglenni trawsnewid ac ar y gwaith o wreiddio gwerth cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi.
Philip Blaker
Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru
Cyn ymuno â Cymwysterau Cymru fel Prif Weithredwr yn 2015, roedd Philip yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau gydag UCAS. Yn ystod ei yrfa, bu’n canolbwyntio ar gyflawni cynlluniau mawr, cymhleth a, cyn ymuno â PwC, roedd ganddo gefndir mewn darparu asesiadau ac arholiadau cenedlaethol.
Bu Philip yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Profion gyda’r Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a’r Cwricwlwm (QCDA) ac yn rhan o uwch-dîm rheoli un o’r cyrff dyfarnu. Mae gan Philip gymwysterau ôl-raddedig mewn rheoli busnes ac mae ganddo gymwysterau rheolwr prosiectau a rhaglenni.
Angharad Lloyd-Beynon
Rheolwr Polisi, Rhanddeilaid a Phartneriaethau (Y Cenhedloedd ac Iwerddon), City & Guilds
Mae Angharad Lloyd-Beynon yn Rheolwr Polisi, Rhanddeiliaid a Phartneriaethau gyda City & Guilds ac mae’n gofalu am Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Mae’n hybu diben City & Guilds sef galluogi pobl a sefydliadau i ddatgloi eu potensial a datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer twf personol ac economaidd. Mae Angharad yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid allweddol ledled y cenhedloedd i gyflawni hyn.
Mae Angharad yn Lifreiwr gyda Chwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Thrive Group Wales ac o Fwrdd Arweinyddiaeth Busnes yn y Gymuned Cymru. Mae’n Gyd-gadeirydd Ffederasiwn Cyrff Dyfarnu Cymru.
Darren Howells
Prif Weithredwr, Agored Cymru
Ymunodd Darren ag Agored Cymru yn 2019 fel Dirprwy Brif Weithredwr a chafodd ei benodi’n Brif Weithredwr ym mis Mai 2021.
Mae Darren yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol Agored Cymru. Mae’n arwain y gwaith o ddatblygu a rheoli polisi, cynllunio busnes, asesu risg a hyrwyddo diwylliant a gwerthoedd y sefydliad wrth grwpiau rhanddeiliaid ehangach.
Cyflwynwyr y Gweithdai
Ben Cottam
Pennaeth Cymru, FSB
Ben Cottam yw Pennaeth Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB). Cyn hyn, ef oedd Pennaeth ACCA Cymru (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig). Mae Ben yn ymroi i gyfrannu at bolisïau a’r drafodaeth am dwf economi Cymru ac mae’n aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen Busnes Cymru. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth Gymdeithasol y Prif Weinidog ac o Fwrdd Cynghori Lleol y Rhaglen Career Ready yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Emma Banfield
Rheolwr Prosiect, Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru
Emma yw Rheolwr Prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, sef rhaglen o weithgareddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o addysg a hyfforddiant galwedigaethol a llwybrau gyrfa.
Ymunodd Emma â’r prosiect yn 2014 ac erbyn hyn mae’n gyfrifol am gyflawni’r elfen weithredol. Ym maes Marchnata a Chyfathrebu mae ei chefndir ac mae ganddi brofiad o feithrin perthnasoedd da ac o weithio gyda sefydliadau allweddol ar draws y sector addysg a hyfforddiant a gyda Llywodraeth Cymru.
Mae Emma’n angerddol dros feithrin sgiliau a helpu pobl ifanc i ragori.
Lisa O’Connor
Rheolwr Academaidd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ar ôl cael ei hyfforddi’n gyntaf i fod yn athrawes Gymraeg uwchradd, penodwyd Lisa’n Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yng Ngholeg Sir Benfro. Roedd cyfrifoldebau’r swydd honno’n cynnwys datblygu darpariaeth addysg ddwyieithog ar draws y meysydd pwnc a’r lefelau yn ogystal â gweithredu’r Strategaeth Ddatblygu a gyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2019. Bu hyn yn sylfaen ddelfrydol ar gyfer camu i swydd Rheolwr Academaidd Addysg Bellach a Phrentisiaethau o fewn y Coleg lle mae Lisa bellach yn arwain y tîm sy’n cefnogi darparwyr i weithredu’r strategaeth.
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr, Cyngor y Gweithlu Addysg
Ar ôl ymuno â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) pan sefydlwyd ef yn 2000, bu’n Ddirprwy Brif Weithredwr ac yn Brif Weithredwr yno, cyn i’r corff gael ei ailenwi’n Cyngor y Gweithlu Addysg ac ehangu ei gylch gwaith ym mis Ebrill 2015.
Mae gan Hayden brofiad helaeth yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ar ôl gweithio mewn addysg bellach ac uwch, y gwasanaeth iechyd, yr heddlu , ac i gwmni manwerthu rhyngwladol.
Mae wedi bod yn llywodraethwr mewn nifer o golegau addysg bellach yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Mark Evans
HMI, Estyn
Bu Mark yn arolygydd gydag Estyn ers bron 20 mlynedd ac ef yw swyddog arweiniol dysgu seiliedig ar waith/prentisiaethau. Mae gan Mark brofiad sylweddol fel arolygydd ar draws y sector ôl-16 yn ogystal ag addysg orfodol. Cyn ymuno ag Estyn, cafodd Mark brofiad helaeth yn y sector ôl-16, yn cynnwys swyddi arwain ac uwch-reolwr. Roedd hyn yn cynnwys rheoli a sicrhau ansawdd darpariaeth dysgu seiliedig ar waith. Mae Mark yn athro cymwysedig gydag arbenigedd penodol yn y sectorau peirianneg ac adeiladu.
Jassa Scott
Cyfarwyddwr Strategol, Estyn
Jassa sy’n arwain gwaith Estyn gyda’r sectorau ôl-16 yn cynnwys addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, gyrfaoedd, dysgu oedolion yn y gymuned, dysgu yn y sector cyfiawnder, Cymraeg i oedolion a gwaith ieuenctid. Mae hefyd yn arwain y gwaith o gynghori Llywodraeth Cymru a gwaith meithrin gallu yn cynnwys gweithredu effeithiol. Mae’n goruchwylio meysydd diogelu, cyfiawnder cymdeithasol, anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant yn ogystal â chydweithio â chyrff eraill ym meysydd arolygu, archwilio a rheoleiddio.
Rachelle Bright
Arweinydd Ymgysylltu â’r Gymuned a Chyflogwyr, Amser i Newid Cymru
Ymgyrch genedlaethol i roi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu a brofir gan bobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl yw Amser i Newid Cymru. Yn ei swydd fel Arweinydd Ymgysylltu â’r Gymuned a Chyflogwyr, mae Rachelle yn cefnogi’r mudiad cymdeithasol i ysgogi cannoedd o unigolion, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru i ddod ynghyd i godi llais yn erbyn stigma. Ariennir Amser i Newid Cymru gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei reoli mewn partneriaeth rhwng Adferiad a Mind Cymru.
Mark Smith
Ymgynghorydd Iechyd Meddwl Profiad Bywyd
Mae Mark yn Hyrwyddwr gydag Amser i Newid Cymru ers dechrau’r ymgyrch. Mae wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol a bu’n gweithio ym maes iechyd meddwl mewn sawl ffordd ers 12 mlynedd. Mae Mark yn agored iawn am ei iechyd meddwl a bydd yn barod iawn i dderbyn cwestiynau yn ystod y sesiwn.
Dean Seabrook
Uwch-reolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru
Mae Dean yn arwain y prosiect ‘Moderneiddio Asesu’ yn Cymwysterau Cymru, sy’n ceisio canfod sut y gall asesiadau a gynhelir o fewn cymwysterau yn y dyfodol sicrhau’r cydbwysedd gorau rhwng bod yn hylaw, ymgysylltu, dilysrwydd a dibynadwyedd, gyda chymorth defnydd effeithiol o dechnolegau digidol. Cyn hyn, bu’n gweithio ar ddiwygio cymwysterau cenedlaethol mewn technoleg ddigidol, ac ym maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
Rhys Daniels
Cyfarwyddwr, Jisc Cymru
Rhys Daniels yw Cyfarwyddwr Jisc yng Nghymru ers mis Ionawr ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod strategaeth Jisc yn diwallu anghenion cyllidwyr ac aelodau yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi a hyrwyddo gwaith arloesol gan ddarparwyr yng Nghymru.
Mae Rhys yn credu’n angerddol mewn dysgu gydol oes ac ehangu cyfranogiad, a bu’n gweithio mewn Addysg Bellach, dysgu seiliedig ar waith ac i’r NTFW cyn ymuno â Jisc o’r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Michael Webb
Cyfarwyddwr Technoleg a Dadansoddeg, Jisc Cymru
Michael Webb sy’n arwain canolfan genedlaethol Jisc ar gyfer AI mewn addysg drydyddol, gan gyfrannu at y broses o fabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn ffordd gyfrifol ac effeithiol ar draws y sector addysg drydyddol.
Yn ogystal â deallusrwydd artiffisial, bu’n gweithio ar brosiectau’n ymwneud â dadansoddeg dysgu, dadansoddi data, Rhyngrwyd Pethau a realiti rhithwir. Cyn ymuno â Jisc, bu Michael yn gweithio yn y sector addysg uwch, gan arwain gwasanaethau a thimau TG a thechnoleg dysgu ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, a Phrifysgol Plymouth.