Gweithdau 2024


English | Cymraeg

Sesiwn 1

1. Gweithdy yn llawn

Economi a Seilir ar Sgiliau yng Nghymru: Tyfu BBaChau trwy Ddatblygu Sgiliau
Ben Cottam, Pennaeth
FSB Cymru

Bydd y gweithdy hwn yn rhoi trosolwg o’r gwaith a wnaed yn ddiweddar gan FSB (Ffederasiwn Busnesau Bach) a CIPD (Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu) yn archwilio’r sefyllfa o ran sgiliau yng Nghymru ac anghenion ein busnesau bach. Bydd y gweithdy’n amlinellu’r hyn mae ar BBaChau ei angen o’r system sgiliau a’u dealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol. Ar sail argymhellion yr adroddiad, trafodir rhai o’r mesurau angenrheidiol ar gyfer hybu BBaChau i ymwneud fwy ag ymyriadau yn y meysydd galwedigaethol a sgiliau yn ogystal â meithrin cysylltiadau â darparwyr a sefydliadau.

2. Meincnodi trwy Gymryd Rhan mewn Cystadlaethau

Emma Banfield, Rheolwr Prosiect
Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru

Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad i Gystadlaethau Sgiliau gan amlygu manteision ffug-gystadlaethau a chymryd rhan mewn cystadlaethau go iawn. Bydd yn trafod sut y gall cystadlaethau ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol a helpu i feincnodi sgiliau gweithwyr yn erbyn safonau sefydliadau a diwydiannau.

3. Cymraeg 2050 – Datblygu Gweithlu ar gyfer Cymru Ddwyieithog

Lisa O’Connor, Rheolwr Academaidd
Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bydd y sesiwn hon yn rhoi gwybodaeth am swyddogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn datblygu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector dysgu seiliedig ar waith. Bydd cyfle hefyd i rannu syniadau, adnoddau ac arferion da.

4. Gweithdy yn llawn

Recriwtio, Cadw Staff a Rheoleiddio Proffesiynol
Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr
Cyngor y Gweithlu Addysg

Ers 2017, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Bydd y sesiwn hon yn dechrau trwy gyflwyno data newydd ar y gweithlu yng Nghymru, yn enwedig y darlun o recriwtio a chadw gweithwyr.

Wedyn, gwahoddir trafodaeth ar nifer o seiliau system reoleiddio CGA ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cynnwys y ffaith nad oes angen sicrhau cymhwyster gofynnol cyn cofrestru, perchnogaeth y safonau proffesiynol, a gwahaniaethau yn y tueddiadau o ran achosion addasrwydd i ymarfer (achosion o dorri’r Cod Ymddygiad) gan ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith o’i gymharu â sefyllfa athrawon ysgol a darlithwyr AB.

Sesiwn 2

5. Yr Asesydd a’i Rôl Ganolog ac Allweddol ym Mhrofiad y Prentis

Mark Evans, HMI a Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol
Estyn

Bydd y gweithdy’n defnyddio tystiolaeth o arolygiadau am yr hyn sy’n gweithio’n dda. Bydd yn trafod cynllunio, sut i ddatblygu gwahanol Gynlluniau Dysgu Unigol mewn ffordd effeithiol, ac integreiddio sgiliau ehangach.

6. Stigma Iechyd Meddwl mewn Gweithleoedd

Rachelle Bright, Arweinydd Ymgysylltu â’r Gymuned a Chyflogwyr
Amser i Newid Cymru (TtCW)

Gweithdy rhyngweithiol a fydd yn archwilio pam nad yw staff bob amser yn teimlo y gallant siarad am heriau iechyd meddwl yn y gwaith. Byddwch yn dysgu dulliau o reoli lles hirdymor unigolion a thimau a bydd un o Hyrwyddwr gwirfoddol TtCW yn rhannu profiad o salwch meddwl a’r heriau y mae wedi’u goresgyn.

7. Gweithdy yn llawn

Archwilio Sut y Gall Technolegau Digidol Wella Profiad Prentisiaid o ran Dysgu ac Asesu
Dean Seabrook, Uwch-reolwr Cymwysterau
Cymwysterau Cymru

Mae technolegau digidol yn chwarae rhan fwyfwy amlwg, a phwysig, ym meysydd dysgu ac asesu. Mae’r gweithdy hwn yn ystyried rhai o’r cyfleoedd a gynigir gan dechnolegau digidol (yn cynnwys offer a systemau deallusrwydd artiffisial sy’n datblygu) ar gyfer gwneud asesiadau prentisiaid yn fwy dilys, yn haws i’w trin a’r broses yn fwy effeithiol. Mae hefyd yn gwahodd darparwyr dysgu i rannu eu barn am y ffordd y bydd technolegau’n llywio profiadau dysgu prentisiaid yn y dyfodol.

8. Gweithdy yn llawn

Ffeindio’ch Ffordd trwy Gyfleoedd a Heriau AI
Rhys Daniels, Cyfarwyddwr Cymru a Michael Webb, Cyfarwyddwr Technoleg a Dadansoddeg
Jisc Cymru

Jisc’s national centre for AI in tertiary education supports the responsible and effective adoption of artificial intelligence across the tertiary education sector.

Mae canolfan genedlaethol Jisc ar gyfer AI mewn addysg drydyddol o blaid defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffordd gyfrifol a effeithiol ar draws y sector addysg drydyddol. Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio sefyllfa bresennol AI ac yn trafod rhai o’r cyfleoedd a’r heriau a ddaw yn ei sgil. Yn eu plith mae arbed amser staff, creu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu ac addysgu, ac addasu asesiadau i fodloni anghenion dysgwyr, gan sicrhau ar yr un pryd bod y drefn yn gadarn. Byddwn hefyd yn archwilio’r ffordd y mae disgwyliadau dysgwyr yn newid. I orffen, byddwn yn edrych ar effaith hirdymor penderfyniadau a gweithredoedd heddiw ar ddysgwyr a sefydliadau.

yn ôl i’r brig>>