Cynhadledd Flynyddol NTfW 2019
Dyddiad ac amser Cynhadledd 2022 i’w cadarnhau
Sgiliau’r Dyfodol ar gyfer Cenhedlaeth y Dyfodol
Cynhaliwyd y Gynhadledd ar Ddydd Iau 27 Mehefin 2019 yn Stadiwm Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Lecwydd, Caerdydd.
Daw’r Gynhadledd ar adeg o newidiadau mawr i ddarparwyr, cyflogwyr ac, wrth gwrs, economi ehangach Cymru.
Yn ogystal â’r newidiadau yn y macro-amgylchedd, mae newidiadau’n digwydd ar lefel sectorau hefyd, nid yn lleiaf yn y ffordd y mae natur y ddarpariaeth yn newid a’r angen i broffesiynoli’r gweithlu’n cynyddu ac, wrth gwrs, gwelir newidiadau yn y systemau a’r strwythurau sy’n sylfaen i waith y sector.
Gan gadw’r newidiadau hyn mewn cof, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud i wella prentisiaethau a’r ddarpariaeth sgiliau yng Nghymru, yn awr ac i’r dyfodol, fel bod y sector yn diwallu anghenion y cenedlaethau sydd i ddod.